Cofrestrwch ar gyfer ein gwasanaeth ar-lein a ffôn
Beth yw’r gwasanaeth ar-lein a ffôn?
Ar-lein
Dyma’r ffordd ddiogel ichi reoli’ch cynilion a’ch buddsoddiadau gyda’r NS&I ar-lein a thros y ffôn. Gallwch wneud hyn a mwy, a hynny wrth eich pwysau:
- gwirio’ch buddsoddiadauNS&I
- talu arian i mewn a chodi arian
- bwrw golwg ar eich trafodion
- newid eich manylion
- dewis cael talu’ch gwobrau Bondiau Premiwm yn syth i’ch cyfrif banc
Hefyd, ar ôl ichi gofrestru, bydd yn gynt ac yn haws ichi wneud cais am fuddsoddiad newydd ar-lein a thros y ffôn gan y bydd eich manylion i gyd gennyn ni yn barod.
Rhagor o wybodaeth am yr hyn y gallwch ei reoli ar-lein a thros y ffôn (Saesneg yn unig)
Os ydych chi wedi agor cyfrif ar-lein neu dros y ffôn, rydych chi wedi cofrestru’n barod. Mewngofnodwch a chewch reoli’ch cyfrif.
Mewngofnodi (Saesneg yn unig)
Os nad ydych, cewch gofrestru nawr.
Cofrestru ar gyfer ein gwasanaeth ar-lein a ffôn (Saesneg yn unig)