You're in safe hands
Most banks only guarantee your savings up to £85,000. We’re the only provider that secures 100% of your savings, however much you invest.
Trusted by millions
We're backed by HM Treasury and we've been helping people save for over 160 years. Today, over 24 million customers save with us.
The home of Premium Bonds
We created Premium Bonds and you can only get them from us. Open an account and you could win big in our monthly prize draw.
Bydd y newidiadau i Dystysgrifau Cynilo Mynegrifol yn dechrau ar 20 Medi 2012.
Beth sy’n newydd?
Dyma grynodeb o'r hyn sy'n newid.
Newidiadau ariannol
- cosb a cholli mynegrif am dynnu arian allan yn gynnar. Mae'r gosb yn gyfwerth â 90 diwrnod o logau ar yr arian a dynnwyd allan. A byddwch yn colli’r mynegrif ar y cyfan o’ch Tystysgrif am y flwyddyn fuddsoddi y byddwch yn tynnu’r arian allan.
- isafswm balans o £100. Os byddwch yn tynnu rhan o’r arian allan o’ch Tystysgrif, bydd yn rhaid i chi gadw o leiaf £100 wedi’i fuddsoddi i’r Tystysgrif ddal i fod ar agor.
- un gyfradd flynyddol o logau ar gyfer pob cyflwyniad. Byddwn yn gwarantu talu cyfradd llogau a fydd yn aros yr un fath am hyd y tymor (o’r blaen, roedd y gyfradd logau flynyddol yn cychwyn yn isel ac yn cynyddu bob blwyddyn o'r tymor).
Gofalu am eich buddsoddiad
- cosb a cholli mynegrif am dynnu arian allan yn gynnar. Mae'r gosb yn gyfwerth â 90 diwrnod o logau ar yr arian a dynnwyd allan. A byddwch yn colli’r mynegrif ar y cyfan o’ch Tystysgrif am y flwyddyn fuddsoddi y byddwch yn tynnu’r arian allan.
- datganiadau blynyddol i’ch helpu i gadw golwg. Yn fuan ar ôl pob dyddiad pen-blwydd, byddwn yn anfon datganiad yn dangos gwerth eich Tystysgrif a faint o logau rydych wedi’u hennill.
- Gwasanaeth newydd ar lein ac ar y ffôn. Mae hyn yn ffordd sicr a hwylus i chi gadw golwg ar yr arian sydd gennych chi mewn Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol ac yn cadw eich manylion yn gyfoes.
Rheolau i fuddsoddwyr
- gall buddsoddwyr ar y cyd gyfuno eu lwfansau buddsoddi. Os byddwch yn buddsoddi ar y cyd â pherson arall, gallwch gyfuno eich lwfansau a buddsoddi hyd at £30,000 mewn pob cyflwyniad (pan fydd ar werth).
- isafswm oedran o 16 ar gyfer buddsoddiadau newydd a rhai a adnewyddir. Ni fydd plant o dan 16 oed bellach yn gallu prynu nac adnewyddu Tystysgrifau Cynilo ond fe fyddan nhw'n gallu cadw unrhyw fuddsoddiadau tan ddiwedd eu tymor presennol.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Os oes gennych Dystysgrif Cynilo Mynegrifol ar hyn o bryd, peidiwch â phoeni. Dim ond os bydd eich Tystysgrif yn aeddfedu ar neu ar ôl 20 Medi 2012, ac os byddwch yn dewis ei adnewyddu am dymor pellach, y bydd hyn yn effeithio arnoch chi. Felly, does dim rhaid i chi wneud unrhyw beth ar hyn o bryd.
Byddwn yn ysgrifennu atoch tua 30 diwrnod cyn y bydd eich Tystysgrif yn aeddfedu i’ch atgoffa ei bod yn bryd i chi benderfynu beth i’w wneud â’ch arian. Byddwn yn cynnwys manylion llawn y newidiadau i’ch buddsoddiad, a hefyd wybodaeth yn egluro’r dewisiadau fydd gennych ar gyfer ei adnewyddu neu dynnu’r arian allan.