You're in safe hands
Most banks only guarantee your savings up to £85,000. We’re the only provider that secures 100% of your savings, however much you invest.
Trusted by millions
We're backed by HM Treasury and we've been helping people save for over 160 years. Today, over 24 million customers save with us.
The home of Premium Bonds
We created Premium Bonds and you can only get them from us. Open an account and you could win big in our monthly prize draw.
Mae Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol wedi gofalu am gynilion y genedl am dros 150 mlynedd ac erbyn hyn mae 26 miliwn o bobl yn ymddiried eu harian i ni. Fel pob sefydliad, mae’n rhaid i ni symud gyda’r oes, felly, rydyn ni’n moderneiddio ein systemau ac yn annog ein cwsmeriaid i gysylltu â ni’n uniongyrchol – ar lein, dros y ffôn a thrwy'r post.
Rydyn ni hefyd yn symleiddio’r cyfrifon a’r buddsoddiadau sydd ar gael i’w gwneud yn fwy cyson ac yn haws eu deall. Rhan o’r cynlluniau hyn yw’r newidiadau rydyn ni’n eu gwneud i’n buddsoddiadau tymor penodol.
Beth yw buddsoddiadau tymor penodol?
Buddsoddiadau yw’r rhain sy’n parhau am gyfnod penodol a elwir yn 'dymor'. Ein buddsoddiadau sydd ar gael ar hyn o bryd yw: Tystysgrifau Cynilo Mynegrifol, Tystysgrifau Cynilo Llogau Sefydlog, Bondiau Twf Gwarantedig, Bondiau Incwm Gwarantedig a Bondiau Bonws Plant.
A fydd y newidiadau’n effeithio arnaf i?
Bydd, os
- oes gennych unrhyw fuddsoddiadau Cynilon a Buddsoddiadau Cenedlaethol tymor penodol sy’n aeddfedu ar neu ar ôl 20 Medi 2012 ac y byddwch yn penderfynu eu hadnewyddu
- byddwch yn prynu unrhyw gyflwyniadau newydd o fuddsoddiadau tymor penodol ar neu ar ôl 20 Medi 2012
Na fydd, os mai dim ond cynilion cyfradd amrywiol Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol sydd gennych, er enghraifft, Bondiau Premiwm, Bondiau Incwm neu unrhyw un o'n cyfrifon cynilo.
Beth yw'r newidiadau?
Mae'r newidiadau'n benodol i'r mathau o fuddsoddiadau, ond yn gyffredinol maen nhw'n cynnwys:
- ffyrdd newydd o gadw golwg ar eich arian: ar lein a dros y ffôn
- cosb am dynnu arian allan yn gynnar
- isafswm oedran o 16 i bob buddsoddwr
Un o’r newidiadau pennaf yw ein gwasanaeth ar lein a thros y ffôn – rydyn ni’n rhoi mwy o ddewis i chi sut i ofalu am eich buddsoddiadau tymor penodol. O’r 20 Medi 2012 gallwch eu rheoli ar lein neu drwy ein ffonio ni. Byddwch yn gallu cael gwybod faint yw gwerth eich buddsoddiadau tymor penodol ar lein neu dros y ffôn – a bydd hynny’n ei gwneud yn llawer haws i chi gadw golwg ar eich arian. Byddwn hefyd yn anfon datganiad atoch chi bob blwyddyn fel y bydd gennych gofnod papur hefyd. Neu, os byddwch yn fodlon gwneud heb bapur, gallwch dderbyn eich cofnodion yn electronig.
Rydyn ni hefyd wedi cyflwyno cosb am dynnu arian allan o fuddsoddiad tymor penodol yn gynnar. Mae’r rhan fwyaf o fanciau a chymdeithasau adeiladu’n cosbi am dynnu arian allan yn gynnar ac mae hynny’n digwydd gyda rhai o’n buddsoddiadau ni ar hyn o bryd. Felly, rydyn ni'n cysoni ein holl fuddsoddiadau tymor penodol.
Pa bryd fydd y newidiadau’n digwydd?
Bydd y newidiadau'n dechrau ar 20 Medi 2012 ond does dim rhaid i chi wneud unrhyw beth ar hyn o bryd. Byddwn yn ysgrifennu atoch tua 30 diwrnod cyn y bydd eich buddsoddiad tymor penodol yn aeddfedu i’ch atgoffa ei bod yn bryd i chi benderfynu beth i’w wneud â’ch arian. Byddwn yn cynnwys manylion llawn y newidiadau i’ch buddsoddiad, a hefyd wybodaeth yn egluro’r dewisiadau fydd gennych ar gyfer ei adnewyddu neu dynnu’r arian allan.
Sut i ganfod rhagor
Cliciwch ar y dolenni hyn
Tystysgrifau Cynilo Mynegrifol