Bydd Bondiau Twf Gwarantedig yn dechrau newid ar 20 Medi 2012.

Beth sy’n newydd?

Dyma grynodeb o'r hyn sy'n newid.

Newidiadau ariannol

Gofalu am eich buddsoddiad

Rheolau i fuddsoddwyr

Os oes gennych Fond Twf Gwarantedig ar hyn o bryd, peidiwch â phoeni. Dim ond os bydd eich Bond yn aeddfedu ar neu ar ôl 20 Medi 2012, ac os byddwch yn dewis ei adnewyddu am dymor pellach, y bydd hyn yn effeithio arnoch chi. Felly, does dim rhaid i chi wneud unrhyw beth ar hyn o bryd.

Byddwn yn ysgrifennu atoch tua 30 diwrnod cyn y bydd eich Bond yn aeddfedu i’ch atgoffa ei bod yn bryd i chi benderfynu beth i’w wneud â’ch arian. Byddwn yn cynnwys manylion llawn y newidiadau i’ch buddsoddiad, a hefyd wybodaeth yn egluro’r dewisiadau fydd gennych ar gyfer ei adnewyddu neu dynnu’r arian allan.