You're in safe hands
Most banks only guarantee your savings up to £85,000. We’re the only provider that secures 100% of your savings, however much you invest.
Trusted by millions
We're backed by HM Treasury and we've been helping people save for over 160 years. Today, over 24 million customers save with us.
The home of Premium Bonds
We created Premium Bonds and you can only get them from us. Open an account and you could win big in our monthly prize draw.
Bydd Bondiau Bonws Plant yn newid, gan ddechrau ar 20 Medi 2012.
Beth sy’n newydd?
Dyma grynodeb o'r hyn sy'n newid.
Newidiadau ariannol
- cosb am dynnu arian allan yn gynnar. Mae'r gosb yn gyfwerth â 90 diwrnod o logau ar yr arian a dynnwyd allan.
- un gyfradd flynyddol o logau ar gyfer pob cyflwyniad (dim bonws). Ar ben yr enillion cyfansawdd, byddwn yn gwarantu talu cyfradd uwch o logau am bum mlynedd, ond heb fonws ar y diwedd (o’r blaen, roedden ni’n talu cyfradd flynyddol is ond yn talu bonws ar ddiwedd pob tymor o bum mlynedd).
Enw newydd
- bydd y rhain yn cael eu galw’n Bondiau Plant yn hytrach na Bondiau Bonws Plant. Mae hyn i ddangos y newid i sut y byddwn yn talu llogau (gweler uchod).
Gofalu am fuddsoddiad eich plentyn
- datganiadau blynyddol i’ch helpu i gadw golwg. Yn fuan ar ôl pob dyddiad pen-blwydd, byddwn yn anfon datganiad at y person sy’n gofalu am y Bond yn dangos ei werth a faint o logau sydd wedi’u hennill.
- Gwasanaeth newydd ar lein ac ar y ffôn. Fel rhiant neu warcheidwad yn gofalu am fond eich plentyn, mae hyn yn ffordd sicr a hwylus i chi gadw golwg ar yr arian sydd gennych chi a'ch plentyn mewn Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol.
Rheolau i fuddsoddwyr
- O hyn ymlaen, ni ellir cadw Bondiau tan ben-blwydd 21 y plentyn. Bydd pob Bond yn aeddfedu’n derfynol unwaith y bydd wedi cyrraedd ei ben-blwydd pum mlynedd cyntaf ar neu ar ôl pen-blwydd 16 oed y plentyn.
- dim ond rhieni, gwarcheidwaid a (hen) neiniau a theidiau sy’n gallu buddsoddi. Os nad ydych yn perthyn i’r plentyn fel hyn, fyddwch chi ddim yn gallu prynu Bondiau newydd ar ei gyfer.
- ddim yn cael eu gwerthu mewn unedau o £25 bellach. Mae’r isafswm ar gyfer pob buddsoddiad yn dal yn £25, ond gall buddsoddiad mwy fod am unrhyw swm hyd at gyfanswm o £3,000 y plentyn bob Cyflwyniad.
Os oes gan eich plentyn Fond Bonws Plant, peidiwch â phoeni. Dim ond os bydd Bond yn aeddfedu ar neu ar ôl 20 Medi 2012, ac os byddwch yn dewis ei adnewyddu am dymor pellach, y bydd hyn yn effeithio arno. Felly, does dim rhaid i chi wneud unrhyw beth ar hyn o bryd.
Byddwn yn ysgrifennu atoch tua 30 diwrnod cyn y bydd Bond eich plentyn yn aeddfedu i’ch atgoffa ei bod yn bryd i chi benderfynu beth i’w wneud â’r arian. Byddwn yn cynnwys manylion llawn y newidiadau, a hefyd wybodaeth yn egluro’r dewisiadau fydd gennych ar gyfer ei adnewyddu neu dynnu’r arian allan. Os bydd eich plentyn yn 16 oed neu drosodd ar y diwrnod aeddfedu, byddwn yn ysgrifennu ato ef neu hi’n uniongyrchol gan mai ef neu hi fydd yn gyfrifol am y Bond.