![]() |
Media centre /
Press releaseAROLWG CYNILION CHWARTEROL: GAEAF 2005/06 07 March 2006Mae gan Gymru’r nifer mwyaf o gynilwyr rheolaidd ond mae craidd caled o bobl yn gwrthod cynilo
Tra bod llawer rhanbarth yn ei chael hi’n anodd annog mwy o bobl i gynilo, mae gan Gymru’r nifer mwyaf o gynilwyr rheolaidd (59%) ym Mhrydain Fawr o hyd, yn ôl Arolwg Chwarterol Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (CBC) ar Gynilion. Fodd bynnag, ers lansio’r Arolwg Cynilion yn Rhagfyr 2004, mae craidd caled o bobl nad ydynt yn cynilo’n rheolaidd wedi dod i’r amlwg. Craidd caled o bobl nad ydynt yn cynilo yn dod i’r amlwg Er bod nifer y bobl nad ydynt yn cynilo’n rheolaidd yn amrywio, gan gyrraedd uchafbwynt (58%) yn haf 2005, maen nhw’n rhan sylweddol o boblogaeth Cymru. Fodd bynnag, mae’r ffigur presennol, sef 41%, yn is na’r ffigur cyfatebol ar gyfer y rhanbarthau eraill. Tabl 1: Tueddiadau cynilo yng Nghymru
Ar yr un pryd, mae canran debyg o boblogaeth Cymru (41%) heb unrhyw nodau cynilo penodol, sy’n awgrymu bod craidd caled o bobl nad ydynt yn cynilo ddim wedi ymrwymo i gynilo’n rheolaidd gan nad oes ganddynt unrhyw amcanion cynilo clir na’r cymhelliant i gynilo. Er mai diffyg incwm ymhlith pobl Cymru oedd y prif reswm (32%) am beidio â chynilo, roedd eraill yn beio galwadau mawr ar eu harian (20%) a gwell oedd gan 14% fyw am y dydd yn hytrach na chynilo. Tabl 2: Y prif resymau am beidio â chynilo
Er hynny, roedd y gaeaf yn dymor cynilo gweddol dda Mae’r swm cymedrig a gynilwyd fel canran o incwm wedi disgyn i 7.11% y gaeaf hwn o gymharu â’r ffigur uchaf o 8.97% a gofnodwyd yn hydref 2005. Fodd bynnag, mae hwn yn dal yn un o’r ffigurau gorau a nodwyd er cychwyn yr arolwg ac mae’n well na’r ffigur cyfatebol am aeaf 2004 pan oedd 56% o bobl yn cynilo a dim ond 6.19% o’u hincwm oedd yn cael ei fancio bob mis. Dangosir mai’r Hydref yw’r tymor cynilo gorau i bobl Cymru er bod lefelau cynilo tymor y gaeaf yn gymharol gryf hefyd. Gwella ymdrechion y diwydiant Dywedodd Dax Harkins, uwch strategydd cynilion, CBC: “Mae’r hydref a’r gaeaf wedi bod yn dymhorau cymharol gryf i Gymru o ran cynilo. Er bod gan Gymru’r craidd galed lleiaf o bobl nad ydynt yn cynilo’n rheolaidd o gymharu â’r holl ranbarthau eraill yn ystod y ddau chwarter diwethaf, mae llawer o’r boblogaeth yn amharod neu’n methu â chynilo’n rheolaidd. Mae hyn yn destun pryder ac mae’n ymddangos ei fod yn cyfateb i’r nifer o bobl sy’n dweud nad oes ganddynt unrhyw beth penodol i’w gynilo amdano. “Mae’n rhaid i’r diwydiant gwasanaethau arian wella’i ymdrechion ar addysg am arian a phwysleisio i’r craidd caled hwn nad yw’n cynilo, bwysigrwydd cynilo’n rheolaidd a meithrin arferion ariannol iachus. Hefyd, mae’n rhaid iddo chwilio am ffyrdd o wneud cynilo’n haws i bobl.” UCHAFBWYNTIAU ALLWEDDOL YNG NGHYMRU (GAEAF)
Tabl 3: tabl cynilwyr rheolaidd: chwarter y gaeaf 2005 (chwarter y gaeaf 2004)
Am wybodaeth bellach am yr ystadegau yn y datganiad hwn neu am ddadansoddiad o dueddiadau rhanbarthol, cysylltwch â’r tîm cyfryngau a nodir isod. DIWEDD Nodiadau i Olygyddion Arolwg Cynilion Chwarterol CBC: 1. Ers mis Medi 2004, mae Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (CBC) wedi cynnal Arolwg Cynilion Chwarterol, gan archwilio patrymau a rhagfynegiadau cynilo ar draws Prydain er mwyn darparu dadansoddiad cynhwysfawr o farchnad Cynilion Prydain Fawr. 2. Mae Traciwr Cynilion CBC yn archwilio arferion cynilo’n fisol ar draws Prydain Fawr, yn adrodd yn chwarterol ar bwy sy’n cynilo, faint maen nhw’n cynilo, lefelau targed cynilo, amcanion cynilo, ac a yw cynilion yn codi neu’n gostwng. Gellir cael copi o Arolwg Cynilo CBC trwy gysylltu â thîm cyfryngau CBC. 3. Cynhaliwyd arolwg o arferion cynilo pobl a’u tebygrwydd i gynilo yn y dyfodol gan TNS Phonebus ymysg 1,972 o oedolion 16 oed neu’n h?n ym Mhrydain Fawr rhwng 2 Rhagfyr 2005 a 5 Chwefror 2006. 4. Mae Dwyrain Lloegr yn yr arolwg yn cyfeirio at East Anglia ac mae pobl nad ydynt yn cynilo yn golygu pobl nad ydynt yn cynilo’n rheolaidd. Mae Dax Harkins ar gael ar gyfer cyfweliadau a gellir darparu ffotograffau cydraniad uchel. Cysylltwch â’r tîm cyfryngau i drefnu cyfweliad neu gwnewch gais am ffotograffau trwy anfon neges e-bost at un o aelodau’r tîm.
Media team The numbers below are for media use only. Customers wishing to contact NS&I can find details here.
|
Search |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
||||||||||||||||||||||||||||||||

