![]() |
Media centre /
Press releaseMAE POBL YNG NGHYMRU SY’N PRYNU T? AM Y TRO CYNTAF YN AROS PEDAIR BLYNEDD A HANNER I GAMU AR YR YSGOL EIDDO 07 December 2005Mae angen i bobl sy’n prynu t? y tro cyntaf ddechrau cynilo’n gynt a chynilo mwy Mae’n cymryd pedair blynedd a hanner i bobl yng Nghymru gynilo blaendal i brynu t? oherwydd prisiau esgynnol eiddo, yn ôl ymchwil newydd gan Gynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (CBC), y darparwr cynilion a buddsoddiadau a gefnogir gan y llywodraeth. Er bod yr amser y mae’n cymryd i gynilo blaendal o 5% ar gyfer cartref cyntaf nodweddiadol yng Nghymru wedi aros yn gyson yn ystod y chwe mis diwethaf, mae hyn yn parhau i fod chwe mis yn hwy na blwyddyn yn ôl, wrth i brisiau tai barhau i godi’n gynt na chodiadau mewn incwm. Tabl 1:
Mae prisiau eiddo wedi codi’n sylweddol yng Nghymru yn ystod y flwyddyn. Bu cynnydd o 7.8% ar gyfartaledd ym mhris t? cyntaf yng Nghymru yn ystod y flwyddyn, o £114,622 yn Ch3 2004 i £123,519 yn Ch3 2005 – un o’r codiadau canrannol uchaf yn y DU a thipyn mwy na’r ganran gyfartalog ar gyfer y DU sef 6.5%. A chan fod incwm pobl yng Nghymru sy’n prynu t? am y tro cyntaf wedi codi ond 3.2% yn ystod yr un cyfnod, mae’n anoddach nag erioed i’r rheiny sydd am ddechrau dringo’r ysgol eiddo. Dywedodd Dax Harkins, uwch strategydd cynilion, Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol, “Mae’r blaendal ar gyfer y t? cyntaf cyfartalog yng Nghymru bellach ychydig yn fwy na £6,000. Gan fod prisiau tai wedi codi’n gynt na chyfraddau cynilo a chyflogau, mae’n rhaid i ddarpar brynwyr tai y tro cyntaf ddechrau cynilo’n gynt a chynilo mwy er mwyn cael mynediad i’r farchnad. “ Y darlun cenedlaethol Ar draws y DU mae’r bwlch rhwng y gogledd a’r de yn dechrau cau. Mae prynwyr yn yr Alban a gogledd Lloegr wedi dechrau gweld effaith prisiau cynyddol tai gan fod yr amser y mae’n ei gymryd i gynilo blaendal wedi codi’n sylweddol. Mae’r codiadau llym hyn mewn ardaloedd o’r DU sy’n draddodiadol yn is o ran prisiau yn golygu ei bod yn cymryd pedair blynedd o leiaf i bobl gynilo am flaendal - y tro cyntaf i hyn ddigwydd. Mewn cyferbyniad, mae’r cynnydd ym mhrisiau tai yn ne’r DU wedi arafu wrth i brisiau gyrraedd eu huchafwerth ac i bobl gael eu prisio allan o’r farchnad, gan arwain at gynnydd bach neu ddim newid o gwbl o ran yr amser y mae ei angen i gynilo am flaendal. Yr eithriad i hyn yw Llundain lle bu cynnydd o dri mis, i bedair blynedd a naw mis wrth i brisiau tai godi unwaith eto. Yr arhosiad hwyaf Prynwyr tai y tro cyntaf yn Nwyrain Lloegr sy’n cymryd yr amser mwyaf i gynilo am flaendal – pum mlynedd ar gyfartaledd, ac fe’i dilynir yn agos gan Lundain sef pedair blynedd a naw mis. Mae cynnydd ym mhrisiau eiddo yn y mwyafrif o ranbarthau’r DU wedi gwthio’r cyfartaledd cenedlaethol am bris t? i £153,032. Y lle gorau i’r sawl sy’n prynu t? am y tro cyntaf Prynwyr tai yng Ngogledd Iwerddon yw’r rhai sy’n cynilo am y cyfnod byrraf – dim ond pedair blynedd o gymharu â’r cyfartaledd cenedlaethol o bedair blynedd a naw mis. Fodd bynnag, yng Ngogledd Iwerddon hefyd y bu’r codiad mwyaf ym mhrisiau eiddo yn ystod y flwyddyn sef 21.3%. Os bydd y codiad hwn yn cael ei gynnal, bydd darpar-brynwyr tai y tro cyntaf yn wynebu aros tebyg i rannau eraill o’r DU. Tabl 2
Diwedd Nodiadau i Olygyddion Mae manylion pellach ynghyd â map sy’n dangos y tueddiadau rhanbarthol ar gael drwy wneud cais. 1. Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol yw un o’r sefydliadau cynilo mwyaf yn y DU, sy’n cynnig ystod o gynhyrchion cynilo a buddsoddi i 26 miliwn o gwsmeriaid. Mae pob un o’r cynhyrchion yn cynnig diogelwch 100% ar gyfalaf. 2. Ffynonellau a methodoleg: Mae’r ymchwil yn ceisio cymharu’r nifer o fisoedd y mae eu hangen i ddarpar-brynwyr tai ar y tro cyntaf gynilo i gael digon o arian am flaendal ar eiddo nodweddiadol a brynwyd yn ystod Ch1 2004, Ch3 2004, Ch1 2005 a Ch3 2005. Cymerir bod prynwyr tai y tro cyntaf yn cynilo 5% o’u hincwm bob chwarter ac yn ei dalu i gyfrif cynilo cymdeithas adeiladu / banc nodweddiadol sy’n ennill llog. Mae’r dadansoddiad yn cyfrifo nifer y misoedd y byddai’n cymryd cyn y gallai prynwyr tai y tro cyntaf fforddio talu’r blaendal gwerth 5% i brynu t? yn ystod Ch1 2004, Ch3 2004, Ch1 2005 a Ch3 2005. Cymerir prisiau anheddau i brynwyr y tro cyntaf o Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog, Ystadegau Tai Tabl Byw 508. Cyfrifir y blaendaliadau fel 5% o’r prisiau y mae’r prynwyr tai y tro cyntaf yn eu talu. Mae’r ffigurau incwm chwarterol cyfartalog prynwyr tai y tro cyntaf wedi’u cael o Dabl Byw 516, Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog. Ceir y cyfraddau llog cynilo chwarterol o ystadegau cyfraddau llog chwarterol Cyngor Benthycwyr Morgeisi ar gyfer cyfrifon cynilo cadw. Gwneir dadansoddiad am bob un o 12 prif ranbarth economaidd safonol y DU. Tîm Cyfryngau CBC Elen Thomas 020 7348 9654 elen.thomas@nsandi.com
Media team The numbers below are for media use only. Customers wishing to contact NS&I can find details here.
|
Search |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
||||||||||||||||||||||||||||||||

