![]() |
Media centre /
Press releaseY CYMRY YW’R CYNILWYR GORAU YN ÔL AROLWG O’R DU A GYNHALIWYD YN YR HYDREF14 December 2005Mae nifer y bobl yng Nghymru sy’n cynilo’n rheolaidd a’r ganran o’u hincwm maen nhw’n ei chynilo wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed Mae mwy o bobl yng Nghymru yn cynilo nawr na blwyddyn yn ôl, ac maen nhw’n cynilo canran fwy o’u hincwm nag erioed o’r blaen yn ôl ymchwilnewydd gan Gynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (CBC), y darparwr cynilion a buddsoddiadau a gefnogir gan y llywodraeth. Yn ôl pumed Arolwg Chwarterol CBC ar Gynilion, roedd mwy na dau draean (67%) o bobl yng Nghymru yn cynilo’n rheolaidd - y nifer uchaf o gynilwyr rheolaidd a gofnodwyd yng Nghymru ers i’r arolwg gychwyn yn hydref 2004, a thipyn mwy na chyfartaledd y DU sef 55% (gweler tabl 2). Cododd y nifer o gynilwyr rheolaidd o 42% yn ystod yr haf i 67% yn hydref 2005 - y lefel uchaf erioed a gofnodwyd yng Nghymru ers dechrau’r arolwg, yn ogystal â’r lefel uchaf yn y DU. Roedd pobl yng Nghymru wedi cynilo’r ganran uchaf erioed o’u hincwm (8.97%) - yr uchaf ymhlith yr holl ranbarthau a gofnodwyd (gweler tabl 1). Tabl 1: Cynilion yng Nghymru ers Hydref 2004
Fodd bynnag, er gwaethaf y perfformiad da hwn, mae cryn dipyn o fwlch rhwng yr hyn mae pobl yng Nghymru yn ei gynilo (8.97% o’u hincwm misol) a’u targed cynilo (17.14%). Awgryma hyn, er bod camau cadarnhaol wedi’u cymryd, fod tipyn o waith i’w wneud o hyd gan bobl yng Nghymru cyn iddynt allu cyrraedd eu targedau personol uchel – yn enwedig gan fod 33% o bobl yn rhagweld y byddant yn llai tebygol o gynilo mwy yn ystod y tri mis nesaf o gymharu â 22% sy’n meddwl y byddant yn cynilo mwy. Dywedodd Dax Harkins, uwch strategydd cynilion, CBC: “Mae’r Hydref wedi bod yn dymor eithriadol o dda ar gyfer cynilo yng Nghymru. Nid yn unig am fod y nifer cynilwyr rheolaidd wedi codi i’r nifer mwyaf erioed sef 67% ond hefyd cofnodwyd y ffigur gorau erioed am y ganran o incwm a gynilwyd. “Awgryma canfyddiadau o’r fath fod pobl yng Nghymru wedi gwrando ar y rhybuddion ynghylch peryglon peidio â chael digon o gynilion ac maen nhw wedi derbyn yr her. Er bod pobl yng Nghymru yn llai cadarnhaol ynghylch cynilo yn ystod adeg y Nadolig, gobeithiwn y gallant barhau â’r duedd bresennol yn y tymor hir.” UCHAFBWYNTIAU ALLWEDDOL YNG NGHYMRU Tueddiadau cynilo yn hydref 2005 a chynlluniau cynilwyr ar gyfer y dyfodol:
Barn CBC: Ychwanegodd Dax Harkins, uwch strategydd cynilion, CBC: “Er ei bod yn ymddangos bod Cymru yn well na’r cyfartaledd cenedlaethol o ran nifer y bobl sy’n cynilo’n rheolaidd a’r ganran o’r incwm maen nhw’n ei chynilo, mae’n destun gofid bod 6% o’r bobl yng Nghymru heb unrhyw gynilion o gwbl. Mae hyn yn amlygu’r angen i’r diwydiant gwasanaethau ariannol wella’i hymdrechion i ddenu mwy o bobl i gynilo’n rheolaidd.” “Mae angen i bobl yng Nghymru wrthsefyll y demtasiwn i orwario adeg y Nadolig os gallant ac i gadw’u cynilion ar y gyfradd uchel hon i gau’r bwlch ac i sicrhau bod ganddynt y diogelwch ar gyfer y dyfodol maen nhw’n anelu ato. Gall sefydlu archebion sefydlog ar gyfer trosglwyddo arian yn awtomatig i gyfrif cynilo bob mis fod yn ffordd dda i sicrhau nad yw lefelau cynilo yn newid yn dymhorol ac y mae’n helpu cynilwyr i gyrraedd eu nodau.” Tabl 2: Tabl cynilwyr rheolaidd: chwarter yr hydref (mae ffigurau chwarter yr haf 2005 mewn cromfachau)
ADOLYGIAD CENEDLAETHOL Mae pobl Cymru’n gwneud yn dda i fod y cynilwyr gorau yn ystod yn chwarter hwn, gan gynilo 8.97% o’u hincwm ar gyfartaledd. Y cynilwyr gwaethaf oedd y rheiny yn Ne-ddwyrain Lloegr a lwyddodd i gynilo ond 5.79% o’u hincwm ac yno hefyd roedd y nifer lleiaf o gynilwyr rheolaidd – dim ond 48%. Mae’r ffigurau hyn yn is na rhai cyfatebol y llynedd pan oedd 52% o bobl yn cynilo 6.15% o’u hincwm ar gyfartaledd. PAM NAD YW POBL YN CYNILO MWY Prinder incwm dros ben yw’r prif reswm a roddir am beidio â chynilo mwy. Fodd bynnag, mae bron i un o bob pump o bobl heb gynilo mwy naill ai am eu bod yn meddwl nad oes angen iddynt wneud neu mae’n well ganddynt “fyw am y dydd” yn hytrach na chynilo.
Am fwy o wybodaeth am yr ystadegau yn y datganiad hwn neu am fanylion y tueddiadau rhanbarthol unigol, cysylltwch â’r tîm cyfryngau a nodir isod. DIWEDD Nodiadau i Olygyddion Arolwg Chwarterol Cynilion CBC: 1. Ers mis Medi 2004, mae Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (CBC) wedi cynnal Arolwg Chwarterol ar Gynilion, gan archwilio patrymau cynilo a rhagfynegiadau ar draws Prydain er mwyn darparu dadansoddiad cynhwysfawr o farchnad Cynilion Prydain Fawr. 2. Mae Traciwr Cynilion CBC yn archwilio arferion cynilo’n fisol ar draws Prydain Fawr, yn adrodd yn chwarterol ar bwy sy’n cynilo, faint rydyn nhw’n cynilo, lefelau targed cynilo, amcanion cynilo, ac a yw cynilion yn codi neu’n gostwng. Gellir cael copi o Arolwg Cynilo CBC trwy gysylltu â thîm cyfryngau CBC. 3. Cynhaliwyd arolwg o arferion cynilo pobl a’u tebygrwydd i gynilo yn y dyfodol gan TNS Phonebus ymysg 1520 o oedolion 16 oed neu’n h?n ym Mhrydain Fawr rhwng 2 Medi 2005 a 6 Tachwedd 2005. Mae Dax Harkins ar gael ar gyfer cyfweliadau a gellir cyflenwi ffotograffau cydraniad uchel. Cysylltwch â’r tîm cyfryngau i drefnu cyfweliad neu i wneud cais am ffotograffau trwy’r e-bost. Tîm Cyfryngau CBC: Elen Thomas 020 7348 9654 elen.thomas@nsandi.com
Media team The numbers below are for media use only. Customers wishing to contact NS&I can find details here.
|
Search |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
||||||||||||||||||||||||||||||||

