Cymraeg
Pam cynilo gyda ni
Sefydlwyd y Cynilion Cenedlaethol ym 1861 gyda’r weledigaeth ‘y byddai banc cynilo o fewn llai nag awr o waith cerdded o aelwyd pob gweithiwr’. Daethom yn Asiantaeth Weithredol Canghellor y Trysorlys ym 1996. Erbyn heddiw mae CBC (Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol) yn un o’r sefydliadau cynilo mwyaf yn y DU, gyda mwy na 26 miliwn o gwsmeriaid a bron £100 biliwn wedi eu buddsoddi.
Ein cynilion a’n buddsoddiadau
Yn CBC rydym yn cynnig amrywiaeth o gynilion a buddsoddiadau i weddu i wahanol anghenion pobl. Oherwydd bod Trysorlys EM wrth gefn Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol, gallwch fod yn hollol sicr bod eich holl gyfalaf yn ddiogel 100%, faint bynnag a fuddsoddwch.
Mwy o wybodaethEin cyfraddau llog
Gwelwch y cyfraddau llog diweddaraf ar ein cynilion a’n buddsoddiadau.
Gwelwch ein cyfraddau llog Gwelwch fanylion tynfa wobrau'rBondiau Premiwm
Cysylltwch â ni
Cwestiynau? Rydym yma i helpu. Gallwch gysylltu â ni ar-lein, ar y ffôn neu drwy’r post.
Mwy o wybodaethY Cynllun Iaith Gymraeg
Mae’r ddogfen hon yn cyflwyno’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig i’n cwsmeriaid sy’n siarad Cymraeg.
Darllenwch am ein CynllunIaith Gymraeg

