National Savings and Investments
 


Treth a chynilion /

Esbonio ISAs

Mae tri math o gyfrif mini ISA ar gael.  Gallwch gael cyfrif arian parod (h.y. cyfrifon cadw), cyfrif stociau a chyfranddaliadau, a chyfrif aswiriant bywyd.  Cewch fuddsoddi mewn hyd at dri mini ISA mewn unrhyw flwyddyn dreth (h.y. un o bob math) a gall pob un fod gyda darparwr gwahanol.  Cewch fuddsoddi hyd at £3,000 mewn mini ISA arian, hyd at £3,600 mewn cyfrif mini ISA stociau a chyfranddaliadau a hyd at £1,000 mewn ISA aswiriant bywyd.

Neu gallwch fuddsoddi mewn un maxi ISA mewn unrhyw flwyddyn dreth.  Mae’n rhaid i maxi ISA gynnwys stociau a chyfranddaliadau.  Gall gynnwys stociau a chyfranddaliadau yn unig hyd at £7,000, neu gall fod yn gymysgedd o stociau a chyfranddaliadau, arian parod ac aswiriant bywyd sy’n cynnwys hyd at £3,000 mewn arian parod a hyd at £1,000 mewn aswiriant bywyd.

Ni chewch fuddsoddi mewn mwy nag un mini ISA arian mewn unrhyw flwyddyn dreth.  Ni allwch fuddsoddi mewn maxi ISA os ydych wedi prynu mini ISA gan unrhyw ddarparwr (gan gynnwys Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol) yn yr un flwyddyn dreth. Felly, os buddsoddwch mewn mini ISA arian bydd hyn yn cyfyngu faint gallwch ei fuddsoddi mewn stociau a chyfranddaliadau drwy ISAs i £3,600 yn y flwyddyn dreth honno.

 Hafan    Argraffu    E-bostio i gyfaill  

Chwilio