|
|
Treth a chynilion
/
Treth a chynilionCyfrifiannell buddsoddiadau rhydd o drethOs ydych yn talu treth incwm mae’r arian rydych yn gweithio’n galed amdano eisoes wedi’i drethu unwaith felly byddwch o bosibl yn awyddus i osgoi talu treth ar eich cynilion. A oeddech chi’n gwybod y gallwch fuddsoddi hyd at £93,000 yn rhydd o dreth gyda CBC? - i ddarganfod mwy am hyn defnyddiwch ein cyfrifiannell buddsoddiadau rhydd o dreth Back to top
Cynilo rhydd o dreth gyda CBCMae llawer o sefydliadau ariannol yn cynnig cynhyrchion rhydd o dreth megis ISAs lle caiff unrhyw log neu incwm rydych yn ei ennill ei gysgodi rhag y dyn treth, ni chaiff treth ei thynnu i ffwrdd ac nid oes angen eu datgan ar eich ffurflen dreth. Mae CBC yn cynnig mini ISA arian - un o’r ffyrdd hawsaf i ddechrau cynilo’n rhydd o dreth. Rydym hefyd yn cynnig ystod unigryw o fuddsoddiadau eraill rhydd o dreth:
Deall llog gros a llog netOs ydych yn drethdalwr yn y DU mae’r gyfradd dreth rydych yn ei thalu yn ffactor allweddol mewn penderfynu buddsoddi. Mae’n rhaid i chi ddarganfod a yw’r llog neu adenillion ar eich buddsoddiad yn rhydd o dreth, yn gros neu yn net o dreth. Bydd hyn o gymorth wrth gymharu cyfraddau’r gwahanol gynhyrchion a/neu ddarparwyr fel bod y cymariaethau’n deg. Yn ogystal â’n cyfraddau llog rydym yn cynnwys gwybodaeth am dreth - ar gyfer ein buddsoddiadau rhydd o dreth rydym yn cynnwys y cyfraddau gros cyfatebol i drethdalwyr cyfradd sylfaenol a chyfradd uwch. Am ragor o wybodaeth am ein cyfraddau llog cliciwch yma. Llog gros Os ydych yn drethdalwr ac yn cael llog gros, bydd yn rhaid i chi ddatgan unrhyw log rydych yn ei ennill ar eich ffurflen dreth. Os nad ydych yn drethdalwr gallwch gadw’r llog gros i gyd. Llog net Lle telir llog yn net, tynnir y dreth i ffwrdd cyn i chi gael y llog, yn ôl y gyfradd gynilo berthnasol (20% ar hyn o bryd). Os ydych yn drethdalwr sylfaenol yna nid oes rhaid i chi boeni am hyn. Os ydych yn drethdalwr cyfradd uwch yna mae’n rhaid i chi gynnwys manylion am y llog a’r dreth a delir ar eich ffurflen dreth. Mae Cyllid y Wlad yn cynhyrchu “Canllaw i bobl â chynilion” (IR110). Mae copïau ar gael o unrhyw swyddfa drethi neu Ganolfan Ymholiadau Cyllid y Wlad neu ewch i www.inlandrevenue.gov.uk Back to top |
Chwilio |
|
||||||||||||||||||||||||||||||||
