National Savings and Investments
 
Amodau safle a datganiadau cyfreithiol /

Cod Bancio

Mae Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol yn tanysgrifio i’r Cod Bancio ac mae ganddo weithdrefn gwyno ffurfiol â chynllun cyflafareddu annibynnol. Gallwch lawrlwytho copi o’r Cod Bancio neu daflen ein trefn gwyno yma. Mae’r cysylltau hyn â ffeiliau PDF a byddant yn agor mewn ffenestr newydd -

Cod gwirfoddol yw’r Cod Bancio sy’n pennu’r safonau arferion da rydym yn bwriadu eu dilyn wrth ddelio â chwsmeriaid. Mae’r mwyafrif  o sefydliadau ariannol yn y DU, gan gynnwys banciau a chymdeithasau adeiladu, yn tanysgrifio i’r Cod.

Mae ein tanysgrifiad i’r Cod Bancio yn cynnwys ein holl gynhyrchion ar wahân i Fondiau Premiwm.

Caiff ein cydymffurfiad â’r Cod Bancio ei fonitro gan gorff annibynnol o’r enw Bwrdd Safonau’r Cod Bancio. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Cymdeithas Bancwyr Prydain.



Acrobat Reader

Mae'r dudalen hon yn cynnwys ffeiliau PDF (Portable Document Format) a bydd angen Adobe Reader® arnoch i'w darllen.

Os nad oes gennych Adobe Reader ar eich cyfrifiadur, ewch i wefan Adobe website i gael y rhaglen am ddim.

 Hafan    Argraffu    E-bostio i gyfaill  

Chwilio