Gallwch fuddsoddi hyd at £93,000 yn rhydd o dreth gydag CBC - Cewch fwy o wybodaeth gyda’n cyfrifiannell buddsoddiadau rhydd o dreth. Rydych wedi gweithio’n galed am eich arian.... gwnewch iddo weithio'n galetach drosoch chi. Heb dreth incwm i’w dalu ar y buddsoddiadau a welir isod, cewch gadw’r holl adenillion
Bondiau Premiwm
Y siawns bob mis i ennill £1 miliwn neu un o fwy na miliwn o wobrau arian parod eraill yn rhydd o dreth. Buddsoddwch o £100 at £30,000. Cewch eich arian yn ôl unrhyw bryd
ISA arian
Y ffordd hawl i gynilo’n rhydd o dreth. Cynilwch o £10 at £3,600 yn y flwyddyn dreth hon
Tystysgrifau Cynilo Mynegrifol
Adenillion sy’n warantedig i guro chwyddiant. Dewis o dymhorau buddsoddi. Buddsoddwch o £100 at £15,000 ym mhob cyhoeddiad yn rhydd o dreth.
Tystysgrifau Cynilo Llog Sefydlog
Mwynhewch y tawelwch meddwl o gyfraddau llog gwarantedig. Dewis o dymhorau buddsoddi. Buddsoddwch o £100 at £15,000 ym mhob cyhoeddiad yn rhydd o dreth.