National Savings and Investments
 
Eich anghenion cynilo /

Cynilo’n rheolaidd

Mae cynilo rhywfaint o arian yn rheolaidd yn ffordd ddelfrydol o adeiladu’ch cynilion, ond ambell waith mae’n anodd cadw at yr ymrwymiad hwnnw. Sefydlu archeb sefydlog yw’r ffordd hawsaf i gynilo’n rheolaidd heb orfod meddwl amdano fe, hyd yn oed. Ar ôl ei sefydlu, bydd eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu yn talu yr un swm i’ch cyfrif cynilo neu’ch buddsoddiad CBC bob mis, a byddwch yn synnu pa mor gyflym y gall gwerth y cynilion godi.

Mae gennym un cyfrif buddsoddi a phedwar cyfrif cynilo sy’n cynnig dewis i gynilo’n rheolaidd  – Bondiau Premiwm, ISA Uniongyrchol, mini ISA arian, Cyfrif Cynilo Mynediad Rhwydd a’n Cyfrif Buddsoddi – dewiswch yr un sydd fwyaf addas i chi.

Oes gennych Fondiau Premiwm neu un o’r cyfrifon hyn eisoes?

Os oes, gallwch ddechrau cynilo’n rheolaidd ar unwaith. Trwy ddefnyddio’r cysylltiadau isod, argraffwch y ffurflen archeb sefydlog berthnasol ac anfonwch hi neu ewch â hi i’ch banc neu’ch cymdeithas adeiladu.

Os nag oes, gwelwch isod am fwy o wybodaeth:

 

Bondiau Premiwm

Cyfle bob mis i ennill un o ddau jacpot gwerth £1 miliwn, neu un o dros filiwn o wobrau arian eraill yn rhydd o dreth. Gallwch fuddsoddi isafswm o £100 (neu £50 ar gyfer cynilo’n rheolaidd) a gallwch ddal hyd at gyfanswm gwerth £30,000. Po fwyaf o Fondiau sydd gennych, gorau i gyd yw’ch cyfle o ennill.

 

ISA Uniongyrchol

Ein cyfradd rydd o dreth uchaf. Gallwch gynilo o £1,000 hyd at £3,600 ym mhob blwyddyn dreth. Gallwch rheoli’ch cyfrif dros y ffôn neu ar-lein.

 

Mini ISA arian

Y ffordd hawdd i gynilo’n rhydd o dreth. Gallwch gynilo o £10 hyd at £3,600 ym mhob blwyddyn dreth a byddwch yn ennill cyfraddau llog cystadleuol heb unrhyw dreth i’w dalu.

 

Cyfrif Cynilo Mynediad Rhwydd

Po fwyaf rydych yn ei gynilo, uchaf fydd y gyfradd llog. Cewch gerdyn ar gyfer talu arian i mewn i’ch cyfrif a thynnu arian allan ohono yn hwylus ac yn hawdd, a’r cyfleuster ychwanegol o wasanaeth ffôn. Gallwch gynilo o £100 hyd at £2 miliwn.

 

Cyfrif Buddsoddi

Cyfrif cynilo syml ynghyd â phaslyfr, nawr â mynediad rhwyddach. Po fwyaf rydych yn ei gynilo, uchaf fydd y gyfradd llog. Cewch baslyfr i’ch helpu i nodi’ch cynilion. Gallwch gynilo o £20 hyd at £100,000.

 

 Hafan    Argraffu    E-bostio i gyfaill  

Chwilio