|
|
Prawf o’ch enw a’ch cyfeiriadRheoliadau Cannu ArianO dan y rheoliadau hyn, fel pob banc a chymdeithas adeiladu, mae’n ofynnol i ni wirio enw a chyfeiriad ein cwsmeriaid cyn y gallwn dderbyn cais i fuddsoddi. Cwsmeriaid sy’n byw yn y Deyrnas UnedigEr mwyn gwneud hyn, mae’n bosibl y gwnawn wiriadau electronig trwy ddefnyddio data gan drydydd parti gan gynnwys gwybodaeth o’r Gofrestr Etholwyr. Byddant yn cadw cofnodion o wiriadau p’un a fydd y cais yn mynd yn ei flaen ai peidio, ond ni welir y rhain gan unrhyw gwmni arall. Efallai y byddwn yn defnyddio dulliau marcio. Efallai hefyd, os bydd angen, y byddwn yn gofyn i chi anfon dogfennau atom i gadarnhau’ch enw a’ch cyfeiriad. Os byddwch yn rhoi gwybodaeth am berson arall fel rhan o’r cais, rydych hefyd yn cadarnhau eu bod hwythau wedi rhoi caniatâd i chi i brosesu eu data personol. Mae hyn yn golygu eich bod wedi rhoi gwybod iddynt pwy ydym ni ac y bydd eu data personol yn cael ei brosesu, gan gynnwys gwirio eu henw a’u cyfeiriad. Mae hyn yn gymwys hefyd i ddaliadau ymddiriedaeth, lle bo’n rhaid gwirio manylion yr ymddiriedolwyr a’r buddiolwyr fel ei gilydd, ac i fuddsoddiadau a wneir o dan Bwer Twrnai. Pryniadau ar ran plantLle prynir Bondiau ar ran plentyn, mae’n rhaid i ni wirio enw a chyfeiriad y rhiant neu’r gwarcheidwad a’r prynwr os nad yw’n rhiant na gwarcheidwad y plentyn. Ar ôl i’r plentyn gyrraedd oedran, pan fydd yn cymryd cyfrifoldeb dros y buddsoddiad/cyfrif, ac yna’n gwneud cais am ad-daliad, byddwn yn gofyn am dystiolaeth ynghylch pwy yw ef/hi. Byddwn yn ysgrifennu atynt â manylion ar yr adeg honno. Cwsmeriaid sy’n byw y tu allan i’r Deyrnas Unedig (mae hyn yn gymwys i gwsmeriaid sy’n byw yn Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw hefyd)Mae angen tystiolaeth ddogfennol arnom o enw a chyfeiriad pob cwsmer sy’n gwneud buddsoddiad ac sy’n byw y tu allan i’r DU. Rhaid anfon y dogfennau canlynol ar gyfer pob person a enwir yn y ffurflen gais sy’n byw y tu allan i’r DU:
Hefyd mae’n ofynnol i ni gael rhif adnabod treth (TIN) ar gyfer pob person a enwir yn y ffurflen gais sy’n byw y tu allan i’r DU. Lle na roir TIN, bydd angen manylion am ddyddiad eich geni a lle y’ch ganwyd (tref a gwlad) arnom yn lle’r TIN. Defnyddiwch dudalen arall o bapur ar gyfer y manylion hyn. Sylwch, na allwn dderbyn eich cais os nad yw’n cynnwys yr holl ddogfennau a’r manylion y gofynnir amdanynt uchod. * “Copi ardystiedig” yw copi sydd wedi’i ardystio gan Lysgenhadaeth, Consyliaeth neu Uchel Gomisiwn o’r wlad lle y’i cyflwynwyd neu gan gyfreithiwr neu dwrnai. Rhaid dyddio a llofnodi’r copi “Gwelwyd y gwreiddiol”. Yn achos preswylwyr Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw yn unig, gall copïau gael eu hardystio gan berson proffesiynol fel bancwr, cyfryngwr ariannol awdurdodedig, brocer morgeisiau a reolir gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol, athro/athrawes, meddyg, gweinidog crefydd neu was sifil. Rhaid i’r sawl sy’n llofnodi’r copi nodi eu henw llawn, eu cyfeiriad a’u swydd. Wrth gopïo pasportau, nid oes angen i chi gynnwys unrhyw dudalennau gwag neu dudalennau sy’n cynnwys stampiau teitheb. |
Chwilio |
|
||||||||||||||||||||||||||||||||
