![]() |
Ein hystod
/
Bondiau Premiwm
/
Yr holl hanes am ERNIEPwy yw ERNIE?Mae’n parhau’n ddirgelwch pwy a luniodd yr acronym ‘ERNIE’ sef Offer Electronig ar gyfer Dewis Rhifau ar Hap, ond mae’n ganolog i’r holl gysyniad o Fondiau Premiwm gan mai ef sy’n dewis yr holl rifau sy’n ennill gwobrau. Ers 1957, mae pedair cenhedlaeth o ERNIE wedi dewis rhifau i dros 110 miliwn o wobrau rhydd o dreth gwerth dros £7 biliwn. Nid yw swyddogaeth sylfaenol bob peiriant ERNIE wedi newid ond, gyda’r datblygiadau parhaol mewn technoleg, disodlwyd pob ERNIE â pheiriant cyflymach a llai i gyd-fynd â’r galw am Fondiau Premiwm. Pe defnyddid ERNIE 1 heddiw, byddai’n cymryd 52 niwrnod i gyflawni’r gystadleuaeth o gymharu â dwy awr a hanner mae’n cymryd i ERNIE 4 wneud hyn. Mae pob ERNIE wedi cael ei ddefnyddio am ryw 16 o flynyddoedd. Yn y DU, mae 23 miliwn o bobl yn ymddiried yn integredd ERNIE i ddewis rhifau Bondiau Premiwm ar hap. Buddsoddir rhyw £25 biliwn mewn Bondiau Premiwm. Mae Bondiau Premiwm yn dod yn fwyfwy poblogaidd. Yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, bu cynnydd saith-plyg yn nifer y Bondiau yn y gystadleuaeth. Er mwyn ymdrin â’r cynnydd hwn, o fis Mehefin 2005, bydd Bondiau Premiwm yn cynnwys 11 digid- mae Bondiau hyn yn cynnwys 9 neu 10 digid - a bydd ERNIE 4 yn gallu dewis y tri math o rifau Bondiau. Yn ôl i frig y dudalenHanes ERNIEGwnaeth ERNIE ei ymddangosiad cyhoeddus cyntaf ym 1957, pan oedd ‘ef’ yr un maint â fan. Ym 1972, lansiwyd ERNIE 2 a oedd yn gyflymach ac yn gallu cynhyrchu mwy o rifau Bondiau Premiwm. Fe’i digomisiynwyd ym 1988, a’i ddisodli gan ERNIE 3, a oedd yr un maint â chyfrifiadur personol. Ond erbyn 2004, roedd angen peiriant newydd oherwydd y cynnydd mewn rhifau Bondiau Premiwm. Bellach mae gennym ERNIE 4. Yn ôl i frig y dudalenY mythau am ERNIEFel unrhyw un enwog, tyfodd chwedlau am ERNIE a Bondiau Premiwm dros y blynyddoedd. Dyma chwalu rhai ohonynt. Myth 1: “Nid yw ERNIE yn ddewis ar hap” Ardystir haprwydd ERNIE a chystadleuaeth Bondiau Premiwm gan Adran Actiwari’r Llywodraeth (GAD). Anfonir canlyniadau’r gystadleuaeth at GAD bob mis a byddant hwy yn gwneud nifer o brofion ystadegol arnynt. Pan fyddant yn fodlon bod y canlyniadau ar hap, maent yn cyflwyno tystysgrif i Gynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (CBC) i gadarnhau hynny. Heb y dystysgrif, ni all CBC gyhoeddi’r rhifau na rhoi gwobrau Bondiau Premiwm. Myth 2: “Mae’n rhaid cael gwerth £30,000 o Fondiau Premiwm i ennill y jacpot” Ym mis Gorffennaf 2004, roedd gan enillydd y jacpot o £1 miliwn ond gwerth £17 o Fondiau Premiwm, a brynwyd ym 1959, ac roedd 8 o 12 enillwyr diweddaraf y jacpot yn dal llai na’r uchafswm o £30,000. Po fwyaf o Fondiau sydd gennych, y mwyaf o gyfle sydd gennych i ennill, ond nid yw hyn yn golygu bod gwobrau yn cael eu hennill gan ddeiliaid gwerth uwch yn unig. Myth 3: “Bondiau newydd yn unig sy’n ennill gwobrau” Mae gan bob Bond £1 yr un cyfle o ennill, pryd bynnag y’i prynwyd. Efallai yr ymddengys fod Bondiau a brynwyd yn ddiweddar yn ennill yn amlach, ond y rheswm am hyn yw bod mwy o Fondiau newydd na hen rai. Ers cyflwyno’r jacpot o £1 miliwn ym mis Ebrill 1994, gwerthwyd mwy o Fondiau nag a werthwyd yn ystod yr holl 37 blynedd blaenorol gyda’i gilydd. Myth 4: “Gadewir hen Fondiau allan o’r gystadleuaeth” Ni chaiff rhifau Bondiau Premiwm eu rhaglennu na’u cadw yn ERNIE, felly ni ellir gadael unrhyw rif allan o’r gystadleuaeth. Unig swyddogaeth ERNIE yw cynhyrchu rhifau ar hap. Mae’r rhain wedyn yn cael eu cymharu â’r rhifau Bondiau cymwys presennol. Myth 5: “ Bondiau Premiwm gan ddeiliaid o Dde-Ddwyrain Lloegr yn unig sy’n ennill gwobrau” Efallai yr ymddengys bod deiliaid o Dde-Ddwyrain Lloegr yn ennill mwy o wobrau, ond mae hynny oherwydd bod mwy o Fondiau Premiwm yn cael eu dal yn Ne-Ddwyrain Lloegr o gymharu â gweddill y DU. Yn ystod y flwyddyn ddiweddaf mae enillwyr y jacpot o £1 miliwn wedi dod o Draean Ddwyreiniol Swydd Efrog, Tyne a Wear, Swydd Gaerwrangon, Dyfnaint, Berkshire, Swydd Gaerloyw, Cymbria, Surrey, Hampshire, Swydd Lincoln, Bwrdeistref Newham yn Llundain a Bryste. Yn ôl i frig y dudalenHaprwydd a Bondiau PremiwmYstyr haprwydd yw nad yw canlyniad digwyddiad yn gynllun rhagderfynedig. I Fondiau Premiwm, golyga hyn fod ennill gwobr yn dibynnu’n llwyr ar gynhyrchu rhifau ar hap gan ERNIE. Gan na ellir rhaglennu ERNIE, ni ellir rhagderfynu’r rhifau a chynhyrchir pob rhif yn annibynnol ar unrhyw rif arall. Golyga hyn fod gan bob rhif Bond Premiwm unigol gyfle cyfartal o ennill gwobr. Bob mis, mae ERNIE yn cynhyrchu mwy o rifau nag o wobrau sydd ar gael. Bydd yn cynhyrchu mwy na 2 filiwn o rifau ond dim ond rhyw 1 miliwn ohonynt fydd yn ennill gwobrau. Y rheswm am hyn yw bod rhai rhifau y cynhyrchir ar gyfer Bondiau Premiwm sydd heb eu prynu eto neu sydd eisoes wedi’u cyfnewid am arian. Bydd canlyniad bob cystadleuaeth yn cael ei wirio’n annibynnol gan Adran Actiwari’r Llywodraeth (GAD). Mae’n defnyddio pedwar prawf - Amlder, Cyfres, Pocer a Chydberthyniad - er mwyn sicrhau nad yw’r canlyniad wedi dilyn unrhyw batrymau gosodedig, oherwydd byddai unrhyw batrwm yn awgrymu tuedd. Os na welir patrwm o’r fath yna bernir bod y gystadleuaeth yn un ar hap. Cyflwynir tystysgrif gan GAD i gadarnhau haprwydd y gystadleuaeth. Yn ôl i frig y dudalen |
ChwilioBuddsoddwch nawrManteision
Canllaw Buddsoddwyr
Diogelwch
|
|
||||||||||||||||||||||||||||||||

