National Savings and Investments
 
Ein hystod / Bondiau Premiwm /

Buddsoddi’n rheolaidd

Bellach mae ffordd o ychwanegu at eich buddsoddiad mewn Bondiau Premiwm a chynyddu’ch siawns o ennill gwobrau rhydd o dreth – trwy archeb sefydlog fisol.

Ar ôl i chi brynu Bondiau Premiwm am y tro cyntaf ac rydym wedi anfon eich rhif deiliad atoch, fe anfonwn fanylion atoch am sut i ddechrau buddsoddi’n rheolaidd. Os ydych eisoes yn dal Bondiau Premiwm, a hoffech fuddsoddi’n rheolaidd ffoniwch ni ar 0845 964 5000 ac fe anfonwn fanylion atoch.

Yr hyn y mae angen i chi ei wybod cyn buddsoddi’n rheolaidd:

  • Mae’n rhaid i fuddsoddwyr fod yn 16 oed neu’n hyn (Ni ellir prynu Bondiau trwy archeb sefydlog ar ran plentyn o dan 16 oed)
  • Lleiafswm y buddsoddiad misol trwy archeb sefydlog yw £50 ac os byddwch chi’n buddsoddi mwy na’r lleiafswm hwn, rhaid i chi wneud hynny mewn lluosrifau o £10 (os byddwn yn derbyn taliad sy’n llai na £50 neu nad yw’n lluosrif o £10, byddwn yn ei ad-dalu’n gyflawn i’ch cyfrif banc ac fe ysgrifennwn atoch i roi gwybod am hyn i chi).
  • Mae’n rhaid i’ch taliadau archeb sefydlog ddod o’ch cyfrif banc neu’ch cyfrif cymdeithas adeiladu chi.
  • Gallwch ganslo’ch archeb sefydlog unrhyw bryd heb orfod rhoi gwybod i ni.
  • Dyddiad prynu bob Bond fydd y dyddiad y byddwn yn derbyn eich taliad – felly, os ydych am brynu Bondiau tua diwedd bob mis, sicrhewch eich bod yn gadael digon o amser i’ch taliad ein cyrraedd ni.
  • Rhaid i chi nodi eich rhif deiliad Bondiau Premiwm ar y ffurflen.

Beth sy’n digwydd nesaf

Ar ôl i chi dderbyn y ffurflen archeb sefydlog oddi wrthym, llenwch hi a’i phostio neu ewch â hi i’ch banc neu’ch cymdeithas adeiladu. Ar ôl sefydlu’r archeb sefydlog, fe anfonwn Fondiau atoch bob mis, yn fuan wedi i ni gael bob taliad. Cofiwch roi gwybod i ni os byddwch yn newid eich cyfeiriad fel y gallwn sicrhau bod eich Bondiau yn parhau i’ch cyrraedd.

 Hafan    Argraffu    E-bostio i gyfaill  

Chwilio

Buddsoddwch nawr

Manteision

  • Jacpot £1 miliwn
  • Mwy na 1 miliwn o wobrau bob mis
  • Siawns o ennill bob mis
  • Pob gwobr yn rhydd o dreth

Canllaw Buddsoddwyr

Diogelwch