Ein hystod
/
Bondiau Premiwm
/
Pen-blwydd hapus iawn!
Pum jacpot gwerth £1 filiwn yr un
Rydym yn dathlu 50 mlynedd o ennill â Bondiau Premiwm trwy gynnig PUM jacpot gwerth £1 filiwn yr un mewn dwy gystadleuaeth tynnu rhifau ben-blwydd, gan roi mwy o gyfleoedd fyth i chi ddod yn filiynydd dros nos.
Fel cystadleuaeth unrhyw fis arall, byddwn yn parhau i dalu dros un filiwn o wobrau arian parod eraill o £50 i £100,000. Ond byddwn hefyd yn cynnig tri jacpot ychwanegol £1 filiwn yr un yn y ddwy gystadleuaeth tynnu rhifau ben-blwydd, ar ben y ddwy wobr o £1 filiwn yr un rydym yn eu talu fel arfer.

Pryd mae’r cystadlaethau tynnu rhifau pen-blwydd?
Aeth Bondiau Premiwm ar werth am y tro cyntaf tua diwedd 1956, ac fe gynhaliwyd y gystadleuaeth tynnu rhifau gyntaf ym Mehefin 1957. Gan ein bod yn trin hyn fel 50fed pen-blwydd dwbl, byddwn yn cynnig y jacpotiau ychwanegol yng nghystadlaethau Rhagfyr 2006 a Mehefin 2007.
A fydd cymaint o wobrau eraill o hyd?
Bydd – rydym yn talu am y tri jacpot ychwanegol gwerth £1 filiwn yr un yn y ddwy gystadleuaeth tynnu rhifau ben-blwydd trwy godi cyfradd llog y gronfa wobrau. Cofiwch fod y gyfradd waelodol yn amrywiol felly gall newid o bryd i’w gilydd.
Pryd ddylwn fuddsoddi er mwyn cymryd rhan yn y gystadleuaeth tynnu rhifau ben-blwydd?
Buddsoddwch nawr! I gael cyfle i ennill un o’r pum jacpot gwerth £1 filiwn yr un yng nghystadleuaeth tynnu rhifau ben-blwydd Rhagfyr, mae’n rhaid i chi brynu’ch Bondiau erbyn 31 Hydref fan bellaf. Ond pam oedi? Hyd yn oed yn ein cystadlaethau tynnu rhifau misol arferol, rydym yn talu dau jacpot o £1 filiwn yr un i enillwyr lwcus, ynghyd â thros filiwn o wobrau eraill.
Mynnwch fwy o wybodaeth
Cyn buddsoddi mewn Bondiau Premiwm, darllenwch Sut maent yn gweithio a gwiriwch fanylion cyfraddau llog a chronfa'r gystadleuaeth tynnu gwobrau.
Beth os oes gennyf Fondiau Premiwm yn barod?
Os oes gennych Fondiau Premiwm yn barod, cadwch afael arnynt a byddwch yn cymryd rhan yn y cystadlaethau tynnu rhifau pen-blwydd yn awtomatig. Cofiwch po fwyaf o Fondiau sydd gennych gwell yw’ch cyfle i ennill, felly efallai dyma’r amser delfrydol i ychwanegu at eich buddsoddiad.