Rydym yn cynnal cystadleuaeth tynnu rhifau bob mis. O 1 Awst bydd dwy wobr o jacpot gwerth £1 miliwn ynghyd â mwy na miliwn o wobrau eraill yn rhydd o dreth bob mis. Po fwyaf o Fondiau sydd gennych, y mwyaf o gyfle sydd gennych i ennill.
Pam dewis y cynnyrch hwn?
Os ydych am fuddsoddiad sy’n cynnig yr hwyl a’r cyffro o ennill swm mawr o arian.
Pwy sy’n cael buddsoddi?
Unrhyw un sy’n 16oed neu’n hyn; gellir eu prynu hefyd ar ran plant o dan 16oed gan rieni a theidiau a neiniau.
Lleiafswm y gellir ei brynu
£100
Uchafswm y gellir ei ddal
£30,000
Tymor buddsoddi
Nid oes tymor penodedig
Gwobrau
Yn ogystal â jacpot o £1 miliwn gallwch ennill unrhyw wobr o £50 i £100,000 am bob Bond rydych yn ei ddal.
Drwy ddefnyddio’r wefan hon, y’i bwriedir ar gyfer preswylwyr y DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, cymerir eich bod wedi cadarnhau eich bod yn breswylydd yn y mannau hynny.