National Savings and Investments
 


Ffyrdd eraill o wneud cais

Ar-lein

Mae gwneud cais ar-lein yn gyflym ac yn hawdd. Mae help ar gael trwy gydol y broses ac os byddwch yn methu mynd gam ymhellach, cliciwch ar “Galwch nôl”  a bydd aelod o’n tîm gwasanaeth cwsmeriaid yn eich ffonio i roi cyfarwyddyd i chi neu i orffen y cais i chi dros y ffôn.

Ffôn

Mae’n hawdd gwneud cais am Fondiau Premiwm dros y ffôn ac nid yw’n cymryd ond ychydig o funudau. Ffoniwch

0845 964 5000        
(Mae llinellau ar agor o 7 o’r gloch y bore hyd hanner nos, 7 niwrnod yr wythnos)

Bydd ein tîm gwasanaeth cwsmeriaid yn ateb unrhyw gwestiynau olaf sydd gennych ac yn eich helpu drwy’r broses werthu. Sicrhewch fod gennych y wybodaeth ganlynol wrth law:


  • Manylion eich cerdyn debyd (Maestro/Switch neu Visa Debit)
  • Os ydych eisoes yn ddeiliad Bondiau Premiwm, rhowch eich rhif deiliad [Format of bullets needs to be consistent]

Buddsoddi’n rheolaidd

Os ydych am ffordd hawdd o fuddsoddi’n rheolaidd mewn Bondiau Premiwm gallwch sefydlu archeb sefydlog fisol.

Post

Os ydych am dalu â siec neu brynu Bondiau Premiwm ar ran plentyn bydd yn rhaid i chi anfon eich ffurflen gais trwy’r post. Cliciwch ar y ffurflen gais isod i argraffu copi. Os ydych yn byw y tu allan i’r DU, bydd yn rhaid i chi anfon eich cais trwy’r post, ynghyd â thystiolaeth ddogfennol o’ch enw a’ch cyfeiriad. Cliciwch yma i gael gwybod pa ddogfennau y bydd yn rhaid i chi eu hanfon [Last sentence should be a link and goes to long clause]. Fel arall codwch lyfryn mewn cangen leol o Swyddfa’r Post® neu ffoniwch 0845 964 5000 ac fe anfonwn ni un atoch. Mae’r llyfryn yn cynnwys ffurflen gais ac amlen ragdaledig er hwylustod. Sylwch na allwch ddefnyddio’r ffurflen isod i brynu Bondiau dros y cownter mewn cangen o Swyddfa’r Post®.

Llenwch y ffurflen gais a’i phostio, ynghyd â’ch siec neu fanylion eich cerdyn debyd, i

Premium Bonds
National Savings and Investments
FREEPOST BJ2092
Blackpool
FY3 9XR

Swyddfa’r Post ®

Gellir prynu’r mwyafrif o’n cynilion a’n buddsoddiadau dros y cownter mewn cangen leol o Swyddfa’r Post® Codwch lyfryn i gael y manylion llawn.



Acrobat Reader

Mae'r dudalen hon yn cynnwys ffeiliau PDF (Portable Document Format) a bydd angen Adobe Reader® arnoch i'w darllen.

Os nad oes gennych Adobe Reader ar eich cyfrifiadur, ewch i wefan Adobe website i gael y rhaglen am ddim.

 Hafan    Argraffu    E-bostio i gyfaill  

Chwilio

Buddsoddwch nawr

Manteision

  • Jacpot £1 miliwn
  • Mwy na 1 miliwn o wobrau bob mis
  • Siawns o ennill bob mis
  • Pob gwobr yn rhydd o dreth

Canllaw Buddsoddwyr

Diogelwch