![]() |
Ein hystod
/
Bondiau Premiwm
/
Sut maent yn gweithio
Beth yw Bondiau Premiwm?Buddsoddiad yw Bondiau Premiwm lle caiff buddsoddwyr y cyfle i ennill gwobrau rhydd o dreth yn hytrach na chael taliadau llog. Pan fydd rhywun yn buddsoddi mewn Bondiau Premiwm, cânt gyfres o rifau, un am bob £1 a fuddsoddwyd. Y lleiafswm y gellir ei brynu yw £100 (neu £50 os ydych yn eu prynu drwy archeb sefydlog fisol), sy’n golygu bod gennych 100 o rifau Bondiau ac felly, 100 siawns o ennill gwobr. Gallwch ddal hyd at uchafswm o £30,000. Gyda 23 miliwn o ddeiliaid yn dal gwerth £25 biliwn o Fondiau Premiwm drwy’r wlad i gyd, mae Bondiau Premiwm yn un o lwyddiannau ariannol Prydain. Maent yn rhoi hwyl a sbri, ond hefyd maent yn ffordd gyfrifol o gynilo trwy gyfuno’r siawns o ennill gwobrau rhydd o dreth gyda’r tawelwch meddwl hwnnw a ddaw o wybod bod eich cyfalaf 100% yn ddiogel. Yn ôl i frig y dudalenGwobrauYnghyd â’r jacpot o £1 miliwn, gallwch ennill unrhyw swm rhwng £50 a £100,000 am bob Bond rydych yn ei ddal. Mae’r tabl isod yn nodi’r holl ystod o wobrau
Mae cronfa wobrau pob mis yn gyfwerth â llog un mis ar gyfanswm gwerth pob Bond cymwys. Mae’r adran cyfraddau llog yn dangos y gyfradd gyfredol ar gyfer y gronfa wobrau, nifer y jacpotiau, ynghyd â’r gyfran o’r gronfa a ddyrennir i bob band gwobrau. Mae hefyd yn cynnwys y siawns o ennill gwobr sydd gan bob Bond gwerth £1. Yn ôl i frig y dudalenNewidiadau i gronfa wobrau Bondiau PremiwmMae’r gyfradd llog a ddefnyddir i gyfrifo’r gronfa wobrau, nifer y jacpotiau, y gyfran o’r gronfa wobrau a ddyrennir i bob band gwobrau a’r siawns o ennill i gyd yn newidiol, felly mae’n bosibl y byddant yn newid o bryd i’w gilydd. Siawns o ennillRydym yn cynnal cystadleuaeth tynnu rhifau bob mis. O 1 Awst 2005 ymlaen bydd dwy wobr o jacpot gwerth £1 miliwn a, gyda’r siawns gyfredol o ennill, dros 1 miliwn o wobrau arian parod eraill. Dewisir rhifau’r Bondiau ar hap ac mae gan bob Bond gwerth £1 gyfle cyfartal ac unigol o ennill gwobr. Os hoffech ddarganfod beth yw’r siawns gyfredol o ennill gwobr gweler Cyfraddau llog. Manteision rhydd o drethMae unrhyw wobr rydych yn ei derbyn yn rhydd o Dreth Enillion Cyfalaf a Threth Incwm y DU ac nid oes angen i chi ei datgan ar eich ffurflen dreth. Yn ôl i frig y dudalenPwy sy’n cael buddsoddi?Gall unrhyw un sy'n 16 oed neu'n hyn brynu Bondiau Premiwm. Gall rhieni, nain a thaid/mam-gu a thad-cu neu warcheidwad plentyn o dan 16 oed brynu Bondiau ar eu cyfer. Yn enw un person yn unig y gellir dal Bond Premiwm ac nid oes modd ei drosglwyddo. Yn ôl i frig y dudalenBuddsoddi ar ran plentynOs ydych yn rhiant neu'n warcheidwad sy’n prynu Bondiau Premiwm ar ran eich plentyn o dan 16 oed, bydd angen i chi roi manylion y plentyn a'ch manylion chi eich hun ar y ffurflen gais. Os chi yw (hen) nain neu daid/mam-gu neu dad-cu y plentyn bydd angen i chi roi manylion y plentyn, manylion y rhieni a'ch manylion chi eich hun ar y ffurflen. Y rhiant neu'r gwarcheidwad fydd yn gyfrifol am y Bondiau ac yn cael eu hysbysu am y pryniant. Anfonir y tystysgrifau Bond at y prynwr i gadarnhau'r pryniant. Anfonir unrhyw wobrau at y rhiant neu’r gwarcheidwad. Sylwch ni ellir prynu Bondiau ar ran plant o dan 16 oed ar-lein, dros y ffôn neu drwy archeb sefydlog fisol. Os dymunwch wneud cais drwy’r post cliciwch yma am ffurflen gais. Yn ôl i frig y dudalenTerfynau buddsoddiRhaid i chi fuddsoddi o leiaf £100 am bob pryniant (neu £50 pan fyddwch yn prynu trwy archeb sefydlog fisol - gweler buddsoddi’n rheolaidd am fanylion). Os byddwch chi’n buddsoddi mwy na’r lleiafswm hwn, rhaid i chi wneud hynny mewn lluosrifau o £10, a gallwch ddal hyd at gyfanswm o £30,000. Po fwyaf rydych chi’n ei fuddsoddi, y mwyaf o gyfle sydd gennych i ennill, felly mae’n talu i fuddsoddi cymaint ag y gallwch chi. Yn ôl i frig y dudalenSicrwydd 100%Mae unrhyw arian y byddwch yn ei fuddsoddi mewn Bondiau Premiwm 100% yn ddiogel. Dim ond Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol all wneud yr addewid hwn, gan fod ein buddsoddiadau yn cael eu cefnogi gan Drysorlys EM. Yn ôl i frig y dudalenMynediadGallwch gyfnewid eich Bondiau neu ran ohonynt am arian, unrhyw bryd. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am sut i gyfnewid am arian. Fel arall, cysylltwch â ni ac fe anfonwn ffurflen atoch neu gofynnwch am ffurflen ad-dalu Bondiau Premiwm ac amlen â’n cyfeiriad arni mewn unrhyw gangen o Swyddfa’r Post®. Llenwch y ffurflen a’i hanfon ynghyd â’r Bondiau i’w cyfnewid am arian atom ni. Fel arfer, byddwn yn talu’r arian yn uniongyrchol i’ch banc neu’ch cymdeithas adeiladu, ond gallwch ofyn am warant (fel siec) os yw’n well gennych. Byddwn yn anfon eich tâl o fewn wyth diwrnod gwaith ar ôl i ni dderbyn eich ffurflen. Yn ôl i frig y dudalenBuddsoddi’n rheolaiddSefydlu archeb sefydlog i brynu Bondiau Premiwm yw’r ffordd hawsaf o ychwanegu at eich cynilion a chynyddu i’ch siawns o ennill. Ar ôl i chi brynu rhai am y tro cyntaf (ar y rhyngrwyd, dros y ffôn neu mewn cangen o Swyddfa’r Post®) fe anfonwn fanylion atoch am sut i ddechrau buddsoddi’n rheolaidd. Os ydych eisoes yn dal Bondiau Premiwm, ffoniwch ni ar 0845 964 5000 ac fe anfonwn fanylion atoch. Yn ôl i frig y dudalenPryd fydd Bondiau’n cael eu cynnwys yn y gystadleuaethBydd eich Bondiau yn gymwys i’w cynnwys yn y gystadleuaeth tynnu rhif pan fyddwch wedi’u dal am un mis calendr cyflawn yn dilyn mis eu prynu. Yna cânt eu cynnwys ym mhob cystadleuaeth nes i chi benderfynu eu cyfnewid am arian, felly cewch y cyfle bob mis i ennill gwobrau rhydd o dreth. Yn ôl i frig y dudalenDewis y rhifau buddugolBob mis cynhyrchir rhifau’r Bondiau buddugol ar hap gan beiriant o’r enw ERNIE (offer electronig ar gyfer dewis rhifau ar hap). Ar ôl i ERNIE gynhyrchu’r rhifau, maent yn cael eu cymharu yn y drefn y cawsant eu cynhyrchu â phob rhif Bond cymwys - mae pob un sy’n cyfateb yn ennill gwobr. Oherwydd bod ERNIE yn cynhyrchu’r rhifau yn gyfan gwbl ar hap, mae gan bob Bond gyfle cyfartal ac unigol i ennill gwobr, waeth pryd, lle a sut y’i prynwyd. Yn ôl i frig y dudalenGwiriadau annibynnolCaiff cynnyrch ERNIE ei brofi bob mis gan Actiwari’r Llywodraeth, sy’n annibynnol ar Gynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol, er mwyn sicrhau bod pob cystadleuaeth yn cynhyrchu rhifau ar hap. Yn ôl i frig y dudalenEnillwyrOs byddwch yn ennill gwobr, fe ysgrifennwn atoch, oni bai eich bod yn ennill un o’n jacpotiau gwerth £1 miliwn pan fydd ein cynrychiolydd yn galw draw’n bersonol i roi’r newyddion da i chi (gofynnwch am dystiolaeth o bwy ydynt bob tro). Felly mae’n hanfodol eich bod yn rhoi gwybod i ni os ydych yn newid eich enw neu’ch cyfeiriad. Yn ôl i frig y dudalenBeth os ydw i’n byw y tu allan i’r DU?Bydd yn rhaid i chi wneud yn siwr bod rheoliadau lleol yn eich caniatáu i chi brynu Bondiau Premiwm. Os felly, postiwch eich ffurflen gais i’n swyddfa yn Blackpool, ynghyd â’ch siec y mae’n rhaid iddo fod mewn £ sterling a’i dynnu o fanc yn y DU. Yn ôl i frig y dudalenGwobrau heb eu hawlioCysylltir â phawb sy’n ennill gwobr yn awtomatig. Ond ceir sefyllfaoedd pan fydd pobl wedi symud heb ddweud wrthym. Os byddwch wedi ennill gwobr ac ni allwn gysylltu â chi, byddwn yn cadw’r wobr nes y byddwch chi yn cysylltu â ni. Peidiwch â phoeni, nid oes terfyn amser ar gyfer hawlio gwobrau. I weld a oes gennych chi wobr heb ei hawlio ewch i Ydych chi wedi ennill? a rhowch eich rhif deiliad yn y blwch (nid rhif eich Bond). Neu gallwch ysgrifennu atom yn: Neu edrychwch yn atodiad blynyddol Newyddiadur Llundain, sydd ar gael ym mhrif ganghennau o Swyddfa’r Post. Diogelu’ch gwybodaeth bersonolPan fyddwch chi’n dod yn un o’n cwsmeriaid, byddwn yn cadw’r holl wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch yn breifat ac yn gyfrinachol. Cliciwch yma am fanylion am ein polisi cyfrinachedd. Yn ôl i frig y dudalenEin safonau gwasanaethYn Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol ein nod yw cynnig gwasanaeth prydlon, cywir a chyfeillgar i bob cwsmer. Os gwnawn gamgymeriad, ceisiwn unioni pethau’n gyflym ac yn ddiffwdan. Mae gennym drefn gwyno ffurfiol ynghyd â chynllun cyflafareddu annibynnol. Os byddwch am gopi o daflen y drefn gwyno, ffoniwch 0845 964 5000 Yn ôl i frig y dudalen |
ChwilioBuddsoddwch nawrManteision
Canllaw Buddsoddwyr
Diogelwch
|
|
||||||||||||||||||||||||||||||||

