|
|
Ein hystod
/
Cynhyrchion eraillCyfrif y Trysorydd - cyfrif ar gyfer sefydliadau dielwMae’r sawl yr ymddiriedwyd ynddynt i reoli arian elusen, clwb neu gymdeithas mewn safle cyfrifol iawn - dibynnir arnoch chi i wneud y defnydd gorau o arian y sefydliad a pheidio â'u peryglu’n ddianghenraid. Yn ddelfrydol, dylai unrhyw arian nad oes ei angen yn ddiymdroi fod yn gweithio’n galed i ennill cyfraddau llog da. Fodd bynnag, mae’n rhaid i chi ystyried diogelwch unrhyw fuddsoddiad - ni allwch fforddio gamblo ag arian eich sefydliad. Mae Cyfrif y Trysorydd Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol yn cynnig y gorau ar y ddau fyd – llog atyniadol a diogelwch llwyr. Gall sefydliadau dielw megis elusennau, cymdeithasau cyfeillgar, clybiau a chymdeithasau eraill (ac eithrio cymdeithasau adeiladu) agor cyfrif. Bwriedir Cyfrif y Trysorydd ar gyfer buddsoddiadau mwy hirdymor, ond mae cael mynediad i arian eich sefydliad yn syml – rhowch 30 diwrnod o rybudd i ni a gallwch dynnu eich arian allan heb unrhyw gosb llog. Cyfraddau llog
Os bydd balans Cyfrif y Trysorydd yn disgyn yn is na £10,000 telir llog sy’n cyfateb i hanner cyfradd yr haen gyntaf - h.y. 1.8% y flwyddyn - am y cyfnod hwnnw. Mae’r cyfraddau amrywiol, felly gallant newid o bryd i’w gilydd. Ysgrifennwn at bob deiliad cyfrif pan fydd y cyfraddau’n newid. I weld y cyfraddau diweddaraf ffoniwch ni ar 0845 964 5000. Codir pris galwad leol ar alwadau. Ychwanegir llog ar ddiwedd busnes ar 31 Rhagfyr bob blwyddyn.
Gros yw’r gyfradd llog drethadwy heb dynnu Treth Incwm y DU. Cyfradd dybiedig yw AER (Cyfradd Flynyddol Gyfatebol) sy’n dangos beth fyddai’r gyfradd llog flynyddol petai’r llog yn cael ei gompowndio bob tro y’i telir. Lle telir llog yn flynyddol, mae’r gyfradd a ddyfynnir a’r AER yr un fath. Os hoffech gael manylion pellach am ein Cyfrif y Trysorydd, ffoniwch 0845 964 5000 - mae’r llinellau ar agor o 7 o’r gloch y bore hyd hanner nos, 7 niwrnod yr wythnos; codir tâl am alwadau ar y gyfradd leol. Yn ôl i frig y dudalenCynhyrchion nad ydynt ar werth bellach
Cyfrif CyffredinNid yw Cyfrif Cyffredin Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol ar werth bellach, ac mae’r cyfrifon sydd eisoes yn bodoli wedi’u cau ar gyfer trafodion. Os oes gennych Gyfrif Cyffredin eisoes, ni allwch dalu arian i mewn na thynnu arian allan ohono, ac eithrio i drosglwyddo i gyfrif CBC arall neu i gau’r cyfrif Yn ddiweddar, cyflwynwyd y Cyfrif Cynilo Mynediad Rhwydd i gymryd lle’r Cyfrif Cyffredin a’r bwriad oedd gwneud cynilo gyda ni yn haws, yn fwy hygyrch ac yn fwy gwerth chweil. Mae’r Cyfrif Cynilo Mynediad Rhwydd yn talu cyfraddau llog uwch na’r Cyfrif Cyffredin a cheir cerdyn arian parod gydag ef y gellir ei ddefnyddio mewn canghennau o Swyddfa’r Post® a pheiriannau arian LINK®. Beth yw’r dewisiadau o ran trosglwyddo?Oedolion a phlant dros 11 oed Neu mae’r Cyfrif Buddsoddi ar gael ar gyfer cwsmeriaid y mae’n well ganddynt baslyfr. Mae’r Cyfrif Buddsoddi yn talu cyfraddau llog uwch na’r Cyfrif Cyffredin ond mae angen un mis o rybudd i dynnu arian allan. Plant o dan 11 oed Beth i’w wneud nesafFfoniwch ni ar 0845 366 6667 ac fe anfonwn becyn gwybodaeth yn cynnwys popeth y bydd ei angen arnoch i drosglwyddo’ch cyfrif. Beth os nad wyf am drosglwyddo?Os nad yw trosglwyddo i gyfrif CBC yn eich gweddu, gallwch gau eich Cyfrif Cyffredin yn lle. Gofynnwch am ffurflen i gau’r Cyfrif Cyffredin ac amlen bwrpasol mewn cangen o Swyddfa’r Post®. Llenwch y ffurflen a’i hanfon atom ni ynghyd â’ch paslyfr. Os yw eich paslyfr ar goll, gofynnwch am ffurflen (NSA 49) ar gyfer “Llyfr Cynilion ar goll neu wedi’i ddwyn” mewn cangen o Swyddfa’r Post®. Llenwch y ffurflen ac anfonwch hi atom ni gyda’ch ffurflen i gau’r cyfrif. I gau Cyfrif Cyffredin ar ran plentyn o dan saith oed , rhaid i’r rhiant neu’r gwarcheidwad lenwi a llofnodi’r ffurflen i gau’r cyfrif. Yn ôl i frig y dudalen
TESSA ISAGan fod y Cyfrifon Cynilo Arbennig Rhydd o Dreth (TESSAs) olaf a brynwyd ym mis Ebrill 1999 wedi aeddfedu ym mis Ebrill 2004, mae’r cyfnod chwe mis pryd gellir ail-fuddsoddi’r cyfalaf mewn TESSA ISA wedi dod i ben bellach. Mae hyn yn golygu na all CBC – fel pob banc a chymdeithas adeiladu arall- dderbyn ceisiadau am TESSA ISAs newydd. Efallai y byddai o ddiddordeb i chi wybod bod CBC yn cynnig ystod unigryw o fuddsoddiadau eraill rhydd o dreth gan gynnwys Bondiau Premiwm a Thystysgrifau Cynilo. Os oes gennych TESSA ISA gyda CBC eisoes, gallwn eich sicrhau y gallwch barhau i ddal eich cyfrif a bydd eich arian yn dal i ennill llog yn rhydd o dreth. [[back-to-top-cy]]
Cynilo wrth Ennill (SAYE)Nid yw’r cynnyrch hwn ar gael bellach. Os oeddech wedi buddsoddi o’r blaen mewn cynllun Cynilo wrth Ennill Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol, mae llawer o’r cyhoeddiadau yn methu ag ennill llog bellach. Os dymunech ailfuddsoddi neu gyfnewid eich buddsoddiadau am arian, bydd yn rhaid i chi lenwi ffurflen i dynnu’r arian allan. Ffoniwch ni ar 0845 964 5000 i drafod yr opsiynau neu i ofyn am ffurflen i dynnu’r arian allan - mae’r llinellau ar agor o 7 o’r gloch y bore hyd hanner nos, 7 niwrnod yr wythnos; codir tâl am alwadau yn ôl y gyfradd leol. [[back-to-top-cy]]
Cynllun BlynyddolNid yw’r cynnyrch hwn ar gael bellach. Os oeddech wedi buddsoddi o’r blaen mewn Cynllun Blynyddol Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol byddwch nawr yn ennill llog ar ein Cyfradd Estyniad Gyffredinol. I gael gwell gyfradd llog, gallwch ailfuddsoddi’r arian o’ch Cynllun Blynyddol mewn unrhyw un o’n cyhoeddiadau cyfredol o Dystysgrifau Cynilo neu un o’n cynhyrchion eraill. Os hoffech ailfuddsoddi neu gyfnewid eich cynllun am arian bydd yn rhaid i chi lenwi’r ffurflen briodol. Ffoniwch ni ar 0845 964 5000 i drafod yr opsiynau neu i wneud cais am ffurflen i dynnu’r arian allan - mae’r llinellau ar agor o 7 o’r gloch y bore hyd hanner nos, 7 niwrnod yr wythnos; codir tâl am alwadau yn ôl y gyfradd leol. [[back-to-top-cy]]
|
Chwilio
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
||||||||||||||||||||||||||||||||
