National Savings and Investments
 
Ein hystod / ISA arian /

Cynilo’n rheolaidd

Y ffordd rwydd i ychwanegu at eich cynilion

Sefydlu archeb sefydlog yw’r ffordd hawsaf i ychwanegu at eich cynilion heb orfod meddwl yn ei gylch.

Ar ôl ei sefydlu, bydd eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu yn talu'r un faint i mewn i'ch mini ISA arian bob mis.

Sylwch fod rhaid eich bod wedi agor mini ISA arian CBC ac wedi cael manylion y rhif cyfrif cyn llenwi’r ffurflen archeb sefydlog.

Pan fyddwch wedi cael y rhif cyfrif ar gyfer eich mini ISA arian CBC, ffoniwch ni ar 0845 964 5000 ac fe anfonwn ffurflen archeb sefydlog atoch. Llenwch y ffurflen gan nodi faint rydych am gynilo bob mis, a naill ai postiwch y ffurflen i ni neu ewch â hi i’ch banc neu’ch cymdeithas adeiladu

Cofiwch na allwch fuddsoddi ond hyd at £3,000 mewn mini ISA arian yn y flwyddyn dreth hon felly sicrhewch na fydd cyfanswm eich taliadau archeb sefydlog yn fwy na hyn yn y flwyddyn (gan gynnwys unrhyw daliadau eraill hefyd).

 Hafan    Argraffu    E-bostio i gyfaill  

Chwilio

Buddsoddwch nawr

Manteision

  • Rhydd o dreth
  • Cyfradd llog gystadleuol
  • Mynediad Rhwydd
  • Diogel, syml a hygyrch

Canllaw Buddsoddwyr

Diogelwch