National Savings and Investments
 


Ffyrdd eraill o wneud cais

Ar-lein

Mae gwneud cais ar-lein yn gyflym ac yn hawdd. Mae help ar gael trwy gydol y broses ac os byddwch yn methu mynd gam ymhellach, galwch ni a bydd aelod o’n tîm gwasanaeth cwsmeriaid yn gorffen y cais i chi dros y ffôn.

 

Ffôn

Mae’n hawdd gwneud cais am mini ISA arian dros y ffôn ac nid yw’n cymryd ond ychydig o funudau. Ffoniwch:

0845 964 5000 
(Mae llinellau ar agor o 7 o’r gloch y bore hyd hanner nos, 7 niwrnod yr wythnos)

Bydd ein tîm gwasanaeth cwsmeriaid yn ateb unrhyw gwestiynau olaf fod gennych ac yn eich helpu drwy’r broses werthu. Sicrhewch fod gennych y wybodaeth ganlynol wrth law:


  • Manylion eich cerdyn debyd (Maestro/Switch neu Visa Debit)
  • Eich rhif Yswiriant Gwladol

Post

Os ydych am dalu â siec bydd yn rhaid i chi anfon eich ffurflen gais trwy’r post. Codwch lyfryn o gangen leol Swyddfa’r Post neu ffoniwch ni ar 0845 964 5000 ac fe anfonwn un atoch chi. Mae’r llyfryn yn cynnwys ffurflen gais ac amlen ragdaledig er hwylustod.

 

Swyddfa’r Post ®

Gellir prynu’r mwyafrif o’n cynilion a’n buddsoddiadau dros y cownter mewn cangen leol o Swyddfa’r Post ® hefyd.

 Hafan    Argraffu    E-bostio i gyfaill  

Chwilio

Buddsoddwch nawr

Manteision

  • Rhydd o dreth
  • Cyfradd llog gystadleuol
  • Mynediad Rhwydd
  • Diogel, syml a hygyrch

Canllaw Buddsoddwyr

Diogelwch