|
|
Ein hystod
/
ISA arian
/
Sut mae’n gweithioRydych yn gweithio’n galed am eich arian. Ac mae’r incwm a gewch eisoes wedi’i drethu unwaith. Felly, pam ddylech chi dalu treth ar y llog rydych wedi’i ennill ar unrhyw arian rydych wedi llwyddo i’w gynilo? Mae agor mini ISA arian gyda CBC yn union fel agor cyfrif cynilo arferol, ond ni fyddwch yn talu treth ar y llog byddwch yn ei ennill.
Egluro ISAsMae tri math o gyfrif mini ISA ar gael. Gallwch gael cyfrif arian (h.y. cyfrifon cadw), stociau a chyfranddaliadau, ac yswiriant bywyd. Gallwch fuddsoddi mewn hyd at dri mini ISA mewn unrhyw flwyddyn dreth (h.y. un o bob math) a gall pob un fod gyda darparwr gwahanol. Gallwch fuddsoddi hyd at £3,000 mewn mini ISA arian, hyd at £3,000 mewn cyfrif mini ISA stociau a chyfranddaliadau a hyd at £1,000 mewn ISA aswiriant bywyd. Neu, gallwch fuddsoddi mewn un maxi ISA mewn unrhyw flwyddyn dreth. Mae'n rhaid i maxi ISA gynnwys stociau a chyfranddaliadau. Gall gynnwys stociau a chyfranddaliadau yn unig hyd at £7,000, neu gall fod yn gymysgfa o stociau a chyfranddaliadau, arian ac aswiriant bywyd sy'n cynnwys hyd at £3,000 mewn arian a hyd at £1,000 mewn aswiriant bywyd. Dim ond mewn un mini ISA arian y gallwch fuddsoddi mewn unrhyw flwyddyn dreth. Ni allwch fuddsoddi mewn maxi ISA os ydych wedi prynu mini ISA gan unrhyw ddarparwr (gan gynnwys Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol) yn yr un flwyddyn dreth. Felly, os byddwch yn buddsoddi mewn mini ISA arian bydd hyn yn cyfyngu ar faint y gallwch fuddsoddi mewn stociau a chyfranddaliadau trwy ISAs i £3,000 yn y flwyddyn dreth honno. Agor mini ISA arianMae’n hawdd agor cyfrif. Gallwch ddechrau gyda £10 yn unig. Ac yna gallwch fuddsoddi £10 neu fwy, beth bynnag sy’n addas i chi. Ac mae nifer o ffyrdd o agor cyfrif. Gwelwch buddsoddwch nawr am ragor o fanylion. Yn ôl i frig y dudalenTalu arian i mewnByddwn yn anfon llyfr talu i mewn personol atoch yn fuan ar ôl i chi agor eich cyfrif. Mae dewis o nifer o ffyrdd hwylus i dalu i mewn i’ch cyfrif – cewch y manylion llawn yn eich pecyn croeso. Yn ôl i frig y dudalenTynnu arian allanGallwch dynnu arian allan o’ch mini ISA arian trwy’r post neu dros y ffôn, pryd bynnag y bydd angen i chi wneud hynny, heb rybudd na chosb. Byddwn yn anfon yr arian atoch cyn pen saith niwrnod gwaith ar ôl cael eich cyfarwyddiadau. Dim ond i chi yn bersonol y byddwn yn gwneud taliadau o’ch ISA. Byddwn yn eu talu’n uniongyrchol i’ch banc neu’ch cymdeithas adeiladu neu drwy warant (fel siec). Neu os yw’n well gennych gael eich talu mewn arian, gallwn drefnu gwarant arbennig i chi ei chyfnewid am hyd at £300 ar y tro mewn cangen o Swyddfa’r Post®. Pan fyddwch yn tynnu arian allan, mae’n peidio ag ennill llog ar y diwrnod y byddwn yn gwneud eich taliad. Yn ôl i frig y dudalenCynilo’n rheolaiddGallwch ddewis i sefydlu archeb sefydlog ar gyfer eich mini ISA arian. Cliciwch yma am ragor o fanylion am gynilo’n rheolaidd. Yn ôl i frig y dudalenLlogCyfrifir y llog yn ddyddiol ar falans o £1 neu fwy. Yna, credydir y llog hwnnw i’ch cyfrif unwaith y flwyddyn ar 5ed Ebrill. Mae’r gyfradd llog yn amrywio. Er mwyn bodloni safonau CAT ni fydd byth yn is na 2% o dan y gyfradd sylfaenol. Cliciwch yma am fanylion am y cyfraddau llog. Yn ôl i frig y dudalen
Pwy sy’n cael buddsoddi?Gall unrhyw un sy'n 16 oed neu’n hyn agor cyfrif mini ISA arian, ar yr amod eu bod yn byw yn y DU at ddibenion treth. Yn ôl i frig y dudalen
Manteision rhydd o drethMae unrhyw log rydych yn ei dderbyn ar eich mini ISA arian yn gwbl rydd o Dreth Incwm y DU ac nid oes angen ei ddatgan ar eich ffurflen dreth. Pan gyflwynodd y llywodraeth ISAs ym 1999 fe ymrwymodd i'w cadw'n rhydd o dreth am o leiaf 10 mlynedd. Sylwch y gall triniaeth dreth ISAs newid yn y dyfodol. Yn ôl i frig y dudalenTerfynau buddsoddiMae'n rhaid i chi fuddsoddi o leiaf £10 bob tro y byddwch yn talu arian i mewn, ac fe allwch dalu hyd at gyfanswm o £3,000 ym mhob blwyddyn dreth hyd at 2005/06. Unwaith y byddwch wedi buddsoddi'r uchafswm, ni allwch dalu mwy o arian i mewn yn yr un flwyddyn dreth. Yn ôl i frig y dudalenSicrwydd 100%Mae unrhyw arian rydych yn ei fuddsoddi yn ein mini ISA arian 100% yn ddiogel. Dim ond Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol sy'n gallu gwneud yr addewid hwn, am fod ein buddsoddiadau yn cael eu cefnogi gan Drysorlys EM. Yn ôl i frig y dudalenSafonau CATPan lansiwyd cyfrifon ISA gyntaf i annog pobl i gynilo, cyflwynodd y Llywodraeth gyfres o safonau gwirfoddol am bob math o ISA, yn ymdrin â Chostau, Mynediad a Thelerau (CAT):
Wrth gwrs, mae'n mini ISA arian ni yn bodloni'r safonau CAT hyn, ac rydym wedi ymrwymo i gadw atynt. Bwriedir safonau CAT i sicrhau cynilwyr eu bod yn cael bargen deg. Nid yw'r ffaith bod unrhyw ISA yn bodloni safonau CAT yn golygu ei fod o anghenraid yn addas ar gyfer pawb sy'n cynilo. Yn ôl i frig y dudalenSut gallaf gadw cofnod o’m ISA?Byddwn yn anfon cyfriflen atoch ddwywaith y flwyddyn – ym mis Ebrill a mis Hydref. Os byddwch chi’n cofrestru ar gyfer ein gwasanaeth ffôn, gallwch ffonio unrhyw ddiwrnod o’r flwyddyn i holi am eich balans a chael manylion am drafodion diweddar. Byddwn yn anfon y manylion llawn atoch pan fyddwch yn agor eich ISA. Trosglwyddo o ISAs eraill?Gallwch drosglwyddo mini ISA arian gan gwmni arall i gyfrif mini ISA arian Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol. Am ragor o wybodaeth ffoniwch 0845 964 5000 (ar agor o 7 o’r gloch y bore hyd hanner nos, 7 niwrnod yr wythnos). Yn ôl i frig y dudalenYnghylch telerau ac amodauDarllenwch y telerau ac amodau cyn i chi fuddsoddi. Os byddwn ni'n gwneud unrhyw newidiadau i'r telerau ac amodau ar ôl i chi fuddsoddi, fe wnawn adael i chi wybod. Os bydd unrhyw newid yn achosi anfantais i chi, byddwn yn rhoi gwybod i chi'n bersonol o leiaf 30 diwrnod cyn y newid*. Yn yr achos hwn, gallwch newid i gynnyrch arall neu gau eich cyfrif, heb rybudd na chosb, o fewn 60 diwrnod ar ôl i ni roi gwybod i chi. Os caiff unrhyw newidiadau eraill eu gwneud, byddwn yn rhoi gwybod i'n cwsmeriaid drwy roi hysbysiad ar y wefan hon ac mewn ystod o bapurau newydd cenedlaethol. *Sylwch, nid yw hyn yn berthnasol i newidiadau mewn cyfraddau llog, a fydd yn cael eu nodi ar y wefan hon, mewn canghennau o Swyddfa'r Post® ac mewn ystod o bapurau newydd cenedlaethol. Diogelu’ch gwybodaeth bersonolPan fyddwch chi’n dod yn un o’n cwsmeriaid, byddwn yn cadw’r holl wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch yn breifat ac yn gyfrinachol. Cliciwch yma am fanylion am ein polisi cyfrinachedd. Yn ôl i frig y dudalenY Cod BancioMae Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol yn tanysgrifio i’r Cod Bancio ac mae gennym drefn gwyno ffurfiol gyda chynllun cyflafareddu annibynnol. Cliciwch yma am fanylion pellach o’r Cod neu’n trefn gwyno. Yn ôl i frig y dudalen |
ChwilioBuddsoddwch nawrManteision
Canllaw Buddsoddwyr
Diogelwch
|
|
||||||||||||||||||||||||||||||||
