National Savings & Investments - Buddsoddwch nawr
National Savings and Investments
 
Ein hystod / ISA arian /

ISA arian - Buddsoddwch nawr

Gallwch wneud cais ar-lein — mae’n hawdd ac yn ddiogel ac ni fydd yn cymryd ond ychydig o funudau i’w lenwi. I ddechrau gweneud cais, rhowch dic yn y blwch isod i gadarnhau eich bod yn cytuno â'r telerau ac amodau, ac yna cliciwch "Ymlaen" ar waelod y sgrin.

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • Manylion eich cerdyn debyd (Maestro/Switch neu Visa Debit)
  • Eich rhif Yswiriant Gwladol

Darllenwch y telerau ac amodau cyn gwneud cais.

1 Ionawr 2005

Disgrifiad

1. Mae arian a roddir ar gadw mewn mini ISA (Cyfrif Cynilo Unigol) arian Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (Cynilion Cenedlaethol gynt), yn daliadau buddsoddi yn y Banc Cynilion Cenedlaethol ac yn amodol ar Ddeddf Banc Cynilion Cenedlaethol 1971, Rheoliadau Banc Cynilion Cenedlaethol 1972 (Rhif Offeryn Statudol 1972/764 – gweler paragraff 30) a Gorchymyn y Banc Cynilion Cenedlaethol (Taliadau Buddsoddi) (Terfynau) 1977 fel y'u diwygir neu eu hailbasir o bryd i'w gilydd. Dyma arweiniad i'r prif ddarpariaethau. Caiff pob ISA ei reoli hefyd gan Reoliadau Cyfrifon Cynilion Unigol 1998. Dan y Rheoliadau hyn, rhaid i ISA aros ym mherchnogaeth llesiannol y buddsoddwr ac ni ellir ei ddefnyddio fel ernes dros fenthyciad.

2. Yn y telerau ac amodau hyn:

(a) golyga 'Cyfarwyddwr' y Cyfarwyddwr Cynilion;

(b) golyga 'CBC' Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol yn gweithredu trwy ei swyddfa yn Durham neu gyfryw swyddfa arall y gallai'r Cyfarwyddwr ei phennu.

(c) golyga ‘swyddfa bost’ gangen o Swyddfa’r Post Cyf yn y DU;

Llog a Threth

3. Bydd cyfrifon ISA yn ennill llog ar gyfraddau amrywiol. Rhoddir rhybudd o newidiadau i gyfraddau yn Newyddiaduron Llundain, Caeredin a Belfast.  Nodir manylion ein cyfraddau presennol yn ein taflen Cyfraddau Llog sydd ar gael mewn swyddfeydd post ac o CBC.

4. A bwrw bod o leiaf £1 yn y cyfrif, enillir llog am bob dydd y buddsoddir arian. Mae hyn yn cynnwys diwrnod talu'r arian i mewn (gweler paragraff 15) ond nid diwrnod ei dynnu allan (gweler paragraffau 19 a 21). Enillir llog yn ddyddiol ar gyfradd sy'n 1/365 y gyfradd flynyddol (neu 1/366 y gyfradd flynyddol mewn blwyddyn galendr naid).

5. Telir y llog i'r cyfrif bob blwyddyn ar ddiwedd busnes ar 5 Ebrill.

6. Mae llog yn rhydd o Dreth Incwm y DU, ac nid yw Treth Enillion Cyfalaf yn gymwys.  O dan reoliadau Cyllid y Wlad, daw'r hawl i gyfrif ennill llog i ben ar farwolaeth deiliad y cyfrif a chodir treth ar unrhyw log a enillir ar ôl dyddiad ei farwolaeth.

Pwy s'yn cael agor cyfrif

7. Gallwch agor cyfrif os ydych yn unigolyn 16 oed neu’n hyn, sy’n byw yn y Deyrnas Unedig ac yn breswylydd y DU at ddibenion treth. Ni chaniateir i berson agor cyfrif ar ran person arall oni bai ei fod yn dderbyniwr ar ran person ag anhwylder meddwl.

8. Ni chaniateir dal ISA mewn ymddiriedolaeth nac ar y cyd â pherson arall ac ni chaniateir i berson sydd o dan anabledd cyfreithiol oherwydd anabledd meddyliol, neu am ei fod yn fethdalwr heb ei ryddhau, agor ISA.

9. Dylid rhoi gwybod i CBC os bydd person sy'n dal ISA yn peidio â bod yn breswylydd y Deyrnas Unedig at ddibenion treth. Nid oes hawl i fuddsoddwr felly dalu rhagor o arian i mewn i'w ISA nes bodloni unwaith eto cymhwyster preswylio’r Deyrnas Unedig.

10. Nid oes hawl i'r ymgeisydd danysgrifio i maxi ISA na mini ISA arian arall yn yr un flwyddyn dreth (h.y. cyfnod o 12 mis yn dechrau ar 6 Ebrill).

11. Bydd CBC yn rhoi gwybod i ddeiliad y cyfrif os bydd yr ISA yn ddi-rym neu'n mynd i fod yn ddi-rym oherwydd ei fod am ryw reswm wedi methu bodloni darpariaethau Rheoliadau ISA Cyllid y Wlad.

12. Gellir gwneud cais i agor cyfrif dros y rhyngrwyd, dros y ffôn, neu drwy ysgrifennu i CBC; neu drwy wneud cais personol mewn unrhyw swyddfa bost sy'n gwneud gwaith CBC. Pan fyddwch yn gwneud cais dros y rhyngrwyd, rhaid i chi gadarnhau'ch cais trwy lofnodi a dychwelyd ffurflen gadarnhau a anfonir atoch drwy'r post gan CBC. Efallai y byddwn yn ysgrifennu atoch i ofyn am dystiolaeth ddogfennol o bwy ydych chi a’ch cyfeiriad. Bydd y ffurflen a/neu lythyr a fydd yn gofyn am dystiolaeth o bwy ydych chi yn nodi o fewn pa gyfnod y bydd angen dychwelyd y ffurflen a/neu’r dystiolaeth i CBC. Os na dderbynnir y ffurflen a/neu’r dystiolaeth o fewn y cyfnod penodedig ni fydd y Cyfarwyddwr yn gallu derbyn eich cais.

Taliadau

13. £10 yw'r isafswm buddsoddi ar gyfer agor cyfrif. Gellir agor cyfrif ag unrhyw swm sy'n fwy na hynny'n amodol ar y terfynau dal uchaf (gweler paragraff 16). Mae'n rhaid i'r taliad cyntaf sy'n agor y cyfrif gael ei dalu naill ai â siec bersonol (gan gynnwys siec cymdeithas adeiladu neu ddrafft banc) a godwyd ar gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu a ddelir gan yr ymgeisydd, neu os ydych yn agor cyfrif dros y rhyngrwyd neu ar y ffôn, â cherdyn debyd yn enw'r ymgeisydd. Os ydych yn agor cyfrif mewn swyddfa bost gallwch dalu ag arian, siec neu gerdyn debyd.

14. Dylid talu o leiaf £10 ar y tro i mewn i'r cyfrif o hynny ymlaen naill ai drwy anfon siec i CBC; trwy ddefnyddio cerdyn debyd; ag arian neu siec mewn swyddfa bost; ag arian neu siec gan ddefnyddio system credyd giro y banc mewn banc neu gymdeithas adeiladu; trwy system drosglwyddo electronig; neu drwy archeb sefydlog.

15. Dyddiad y taliad â siec fydd y dyddiad y mae’r siec yn cyrraedd CBC. Dyddiad taliadau cardiau debyd a wneir ar y rhyngrwyd, dros y ffôn neu drwy'r post fydd y dyddiad y bydd manylion y cerdyn debyd yn cyrraedd CBC. Bydd taliadau ag arian parod neu siec mewn swyddfa bost yn cael eu dyddio ar y diwrnod y gwneir y taliad. Bydd taliadau trwy gredyd giro banc, system drosglwyddo electronig neu archeb sefydlog yn cael eu dyddio ar y dyddiad y bydd yr arian yn cyrraedd cyfrif y Cyfarwyddwr ym Manc Lloegr.

Terfynau tanysgrifio

16. Y terfyn tanysgrifio ar gyfer pob blwyddyn dreth hyd at 5 Ebrill 2006 yw £3,000. Sylwch fod y terfyn ar gyfanswm y tanysgrifiadau (h.y. cyfanswm yr arian a delir i mewn). Gellir ailfuddsoddi'r symiau a dynnwyd allan os nad ydynt yn torri'r terfynau tanysgrifio.

17. Ni fydd y llog a ychwanegir bob blwyddyn yn cyfrif tuag at yr uchafswm taliadau a ganiateir.

Tynnu arian allan

18. Gellir tynnu arian allan drwy wneud cais ysgrifenedig i CBC neu drwy ffonio gan ddefnyddio'r drefn ffôn awdurdodedig (gweler paragraffau 24 i 28). Gwneir taliadau drwy system drosglwyddo electronig (credyd uniongyrchol) neu warant wedi'i chroesi i'r person a enwyd ar y cyfrif yn unig.

Talu drwy system drosglwyddo electronig

19. Mae modd gwneud taliadau drwy system drosglwyddo electronig i unrhyw gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu sy'n cael ei ddal yn enw deiliad yr ISA yn unol â'r cyfarwyddiadau ar gyfer tynnu arian neu'r manylion yn y cais i gofrestru ar gyfer y gwasanaeth ffôn. Mae CBC yn bwriadu defnyddio Gwasanaeth Clirio Bancwyr Wedi'i Awtomeiddio (BACS) at y diben hwn ond mae'n cadw'r hawl i ddefnyddio system drosglwyddo electronig wahanol. Dyddiad codi'r arian fydd y dyddiad y mae disgwyl i'r arian hwnnw gyrraedd cyfrif y person a ofynnodd amdano yn nhrefn arferol pethau, yn dilyn rhoi'r trosglwyddiad electronig ar waith.

20. Pan fydd system drosglwyddo electronig wedi'i sefydlu'n foddhaol ni fydd CBC yn atebol am:

(a) unrhyw fethiant nac oedi ar ran y banc neu'r gymdeithas adeiladu sy'n derbyn yr arian i gredydu'r cyfrif a enwir; nac

(b) unrhyw fethiant nac oedi yn ystod unrhyw gam o'r broses drosglwyddo electronig sydd y tu allan i'w reolaeth uniongyrchol;

gan gynnwys unrhyw fethiant i drosglwyddo'r arian am na all y cyfrif penodedig ei dderbyn drwy system drosglwyddo electronig.

Talu â gwarant wedi'i chroesi

21. Pan ofynnir am daliad drwy warant wedi'i chroesi, fe'i hanfonir at y deiliad yn ei gyfeiriad ei hun neu'n uniongyrchol i fanc neu gymdeithas adeiladu a enwir er mwyn ei dalu i gyfrif yn enw’r deiliad. Cymerir mai'r dyddiad ar y warant yw dyddiad codi'r arian.

22. Gellir hefyd wneud cais i dynnu hyd at £300 ar yr un diwrnod i'w dalu mewn arian parod mewn swyddfa bost. Fel y dywedwyd ym mharagraff 21 uchod, anfonir gwarant at ddeiliad y cyfrif yn ei gyfeiriad ei hun. Rhaid cyflwyno’r warant mewn swyddfa bost er mwyn cael arian parod. Rhaid dangos tystiolaeth o bwy ydych chi hefyd cyn cael arian parod.

Cyfriflenni cyfrifon

23. Bydd CBC yn anfon cyfriflen atoch bob chwe mis sy'n dangos holl drafodion yr hanner blwyddyn blaenorol a ddaw i ben ar 5 Ebrill a’r 5 Hydref. Bydd cyfriflen yr hanner blwyddyn sy'n dod i ben ar 5 Ebrill yn dangos faint o log a ychwanegwyd at y cyfrif. Mae CBC yn cadw'r hawl i newid nifer y cyfriflenni ar ôl rhoi rhybudd ysgrifenedig i ddeiliad y cyfrif.

Gwasanaeth ffôn

24. Drwy wneud cais i CBC, gall deiliad cyfrif gofrestru i weithredu ei gyfrif dros y ffôn. Byddwn wedyn yn rheoli'r cyfrif yn unol â'i gyfarwyddiadau dros y ffôn. Yn ogystal ag agor ISA dros y ffôn, gallwch hefyd:

(a) dalu arian i mewn i'ch cyfrif gan ddefnyddio'ch cerdyn debyd;

(b) gwneud cais i dynnu arian allan;

(c) cael gwybod balans eich cyfrif a manylion am eich 10 trafodyn diwethaf;

(ch) cael prisiad cyfrif (sef balans eich cyfrif ac unrhyw log a enillwyd na chafodd ei dalu eto);

(d) rhoi gwybod eich bod yn newid eich cyfeiriad.

25. Bydd angen i ddeiliad y cyfrif roi cyfrinair a gwybodaeth ddiogelu arall y bydd CBC yn gofyn amdani. Defnyddiwn y wybodaeth hon i gadarnhau enw'r galwr sy'n gwneud cais am drin ei gyfrif ar y ffôn. Os hoffai deiliad y cyfrif newid ei wybodaeth ddiogelu neu'i gyfrinair am unrhyw reswm, dylai ysgrifennu at CBC a fydd yn anfon ffurflenni newydd ato/ati. MAE'N BWYSIG CADW GWYBODAETH DIOGELWCH A CHYFRINEIRIAU'N GYFRINACHOL.

26. Dylai pob deiliad cyfrif gymryd camau rhesymol i rwystro pobl heb awdurdod rhag defnyddio'r gwasanaeth ffôn neu gael mynediad i'w gyfrif. Dylai pawb ofalu rhag datgelu unrhyw wybodaeth a allai roi'r cyfle i rywun neu rywrai ar wahân i CBC gael mynediad i'w gyfrif drwy'r gwasanaeth ffôn. Nodwch fod hawl gan CBC i ddilyn unrhyw drefniadau ar y ffôn i dynnu arian allan o gyfrif os rhoddwyd gwybodaeth diogelwch gywir.

27. Os oes gan ddeiliad cyfrif reswm dros amau bod ei (g)wybodaeth diogelwch yn  hysbys i drydydd person, dylai roi gwybod i CBC ar unwaith drwy ffonio ac anfon llythyr wedyn i gadarnhau hynny.

28. At ddibenion diogelwch, ac i sicrhau ein bod yn rhoi'r safon uchaf o wasanaeth i chi, caiff galwadau eu recordio fel arfer.

Trosglwyddo

29. Gallwch drosglwyddo'ch mini ISA arian (yn unol â'r Rheoliadau ISA) i reolwr ISA gwahanol drwy ysgrifennu i CBC. Fe'i trosglwyddir ar yr amod bod y rheolwr ISA arall yn cytuno i'w dderbyn.

Rheoliadau

30. Ar 1 Tachwedd 2004, diwygiwyd Rheoliadau Banc Cynilion Cenedlaethol 1972 (Rhif Offeryn Statudol 1972/764) gan yr Offerynnau Statudol hyn:

1974/553

1975/1190

1975/2153

1977/1807

1978/888

1978/1594

1980/619

1981/484

1982/294

1982/487

1982/1282

1982/1762

1983/1367

1983/1750

1984/9

1984/602

1985/342

1986/2001

1988/1166

1988/2144

1989/25

1989/2045

1991/72

1992/2892

1993/3130

1996/801

1996/1724

1999/588

1999/1611

2000/1421

2001/858

2003/2895

 

 

 

Y gyfraith ac awdurdodaeth

31. Bydd y telerau ac amodau hyn ac unrhyw gytundeb a wneir ar eu sail yn cael eu rheoli a'u dehongli yn unol â chyfraith Lloegr.

32. Yn amodol ar baragraffau 33 a 34, bydd gan lysoedd Lloegr awdurdod unigryw i ddatrys unrhyw ddadl (gan gynnwys hawliadau cydbwyso a gwrth-hawliadau) a all godi mewn cysylltiad â'r telerau ac amodau hyn neu unrhyw gytundeb a wneir o'u herwydd ac sydd, yn amodol ar y Rheoliadau, yn cael ei benderfynu gan lys cyfraith.

33. Lle bo adran 16 Deddf Awdurdodaeth Sifil a Dyfarniadau 1982 yn gymwys, llys cyfraith perthnasol yn y rhan berthnasol o'r Deyrnas Unedig fydd ag awdurdod i ddatrys unrhyw anghydfod o'r fath.

34. Mae paragraffau 32 a 33 yn cael eu cynnwys er budd CBC. Yn unol â hyn mae CBC yn cadw'r hawl i ddwyn achos mewn unrhyw lys arall sydd ag awdurdod yr ymostwng y deiliad yn derfynol iddo.

Mini ISA arian

Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol
Durham
DH99 1NS

1 Ionawr 2005

CADWCH AR GYFER EICH COFNODION

Rwyf yn derbyn y telerau ac amodau dyddiedig 6 Ebrill 2006 ac yn caniatáu i’m henw a’m cyfeiriad gael eu gwirio fel y nodir o dan Prawf o’ch enw a’ch cyfeiriad.

 

 Hafan    Argraffu    E-bostio i gyfaill  

Chwilio

Manteision

  • Rhydd o dreth
  • Cyfradd llog gystadleuol
  • Mynediad Rhwydd
  • Diogel, syml a hygyrch

Canllaw Buddsoddwyr

Diogelwch