![]() |
Ein hystod
/
Cyfrif Buddsoddi
/
Telerau ac Amodau1 Ionawr 2005 Disgrifiad1. Mae arian a delir i mewn i Gyfrif Buddsoddi Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (Cynilion Cenedlaethol cynt), yn daliadau buddsoddi yn y Banc Cynilion Cenedlaethol ac yn amodol ar Ddeddf Banc Cynilion Cenedlaethol 1971 a Rheoliadau Banc Cynilion Cenedlaethol 1972 (Rhif Offeryn Statudol 1972/764 – gweler paragraff 31) a Gorchymyn 1977 Banc Cynilion Cenedlaethol (Taliadau Buddsoddi) (Terfynau) fel y'u diwygir neu eu hailbasir o bryd i'w gilydd. Dyma arweiniad i’r prif ddarpariaethau. Diffiniadau2. Yn y telerau ac amodau hyn: (a) golyga “Cyfarwyddwr” y Cyfarwyddwr Cynilion; (b) golyga “CBC” Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol yn gweithredu trwy ei swyddfa yn Glasgow neu gyfryw swyddfa arall y gallai’r Cyfarwyddwr ei phennu; (c) golyga “swyddfa bost” gangen o Swyddfa’r Post Cyf yn y DU neu awdurdodau’r post yn Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw. Llog a Threth3. Mae Cyfrif Buddsoddi yn ennill llog ar gyfraddau amrywiol. Bydd y gyfradd sy’n berthnasol i gyfrif penodol ar unrhyw adeg yn dibynnu ar y balans yn y cyfrif hwnnw. Cyhoeddir y cyfraddau presennol, a’r balansau sydd eu hangen i’w hennill, yn Newyddiaduron Llundain, Caeredin a Belfast (y Newyddiaduron). Gall y cyfraddau, a'r balansau sydd eu hangen i’w hennill, newid o bryd i’w gilydd. Bydd hysbysiad o newidiadau o'r fath yn cael ei roi yn y Newyddiaduron. Nodir manylion am y cyfraddau presennol, a'r balansau sydd eu hangen i’w hennill, yn ein taflen Cyfraddau Llog hefyd, sydd ar gael mewn swyddfeydd post ac o CBC, ac ar ein gwefan yn www.nsandi.com. 4. Enillir llog yn ddyddiol ar bob £1 gyfan sydd yn y balans terfynol bob dydd. Bydd y balans terfynol ar unrhyw ddiwrnod penodol yn cynnwys unrhyw arian a delir i mewn ar y dyddiad hwnnw (gweler paragraff 20 i 22 yn gynwysedig) ond nid unrhyw arian a dynnir allan ar y dyddiad hwn (gweler paragraff 26). Enillir llog bob dydd ar gyfradd sy'n 1/365 y gyfradd flynyddol (neu 1/366 y gyfradd flynyddol mewn blwyddyn galendr naid). 5. Telir y llog i’r cyfrif bob blwyddyn ar ddiwedd busnes ar 31 Rhagfyr a bydd yn cynnwys yr holl log a enillwyd hyd at ac yn cynnwys 31 Rhagfyr. Yna bydd y llog yn ffurfio rhan o'r balans yn y cyfrif ar ac wedi’r diwrnod canlynol (1 Ionawr). 6. Telir llog i’r cyfrif heb dynnu treth. Fodd bynnag, mae’n drethadwy yn ôl Treth Incwm y DU, felly bydd angen i fuddsoddwyr ddatgan eu diddordeb i Gyllid y Wlad. Pwy all agor cyfrif?7. Unigolion. Yn amodol ar baragraff 11, os ydych yn unigolyn sy’n o leiaf 7 oed, gallwch agor cyfrif: (a) yn eich enw eich hun; neu (b) ar y cyd ag unigolyn arall. Gallwch ddal mwy nag un cyfrif yn un o’r ddwy ffordd, neu y ddwy ffordd hyn. 8. Plant. Ni all plentyn o dan 7 oed agor cyfrif. Gellir agor cyfrif ar gyfer plentyn o dan 7 oed i’w ddal yn enw ac fel eiddo’r plentyn. 9. Ymddiriedolwyr. Os ydych yn ymddiriedolwr, gallwch agor cyfrif fel ymddiriedolwr naill ai (a) ar eich pen eich hun, neu (b) ar y cyd ag un ymddiriedolwr arall, neu (c) ar y cyd â’r buddiolwr. Gall fod gan yr ymddiriedolaeth hyd at ddau fuddiolwr ac mae’n rhaid iddynt fod yn unigolion (ond mae buddiolwr nad yw ond yn cael budd pan fo buddiolwr arall yn marw yn cael ei ddiystyru ar gyfer pwrpas y terfyn hwn). 10. Derbynwyr. Os ydych chi’n dderbyniwr (neu berson arall sydd wedi’i awdurdodi yn y modd hwnnw) ar gyfer person ag anhwylder meddwl, gallwch agor cyfrif ar ran ac yn enw’r person hwnnw. 11. Cyffredinol. Ni all person sydd dan anabledd cyfreithiol agor cyfrif ar wahân i’r ffaith y gall plentyn sy’n o leiaf 7 oed agor cyfrif os yw ef neu hi o dan anabledd cyfreithiol oherwydd eu hoed yn unig. Sut i agor cyfrif12. I agor cyfrif, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais – ar gyfer cyfrifon unigolion neu blant mae’r ffurflenni ar gael mewn swyddfeydd post a chan CBC; dim ond gan CBC y gellir cael ffurflenni cyfrifon ymddiriedolaeth. Pan fo cyfrif i’w ddal ar y cyd gan ddau unigolyn, bydd angen i’r ymgeiswyr nodi a ddylai tynnu arian allan gael ei awdurdodi gan y ddau ohonynt, neu gan y naill neu’r llall yn gweithredu ar ei ben ei hun. Sylwch y gall y cyfleuster i unrhyw berson i awdurdodi tynnu arian allan gael ei ganslo gan y naill ddeiliad neu’r llall. 13. Y taliad lleiaf posibl i agor cyfrif yw £20. Gellir agor y cyfrif ag unrhyw swm sy’n uwch na’r taliad lleiaf posibl yn amodol ar y terfyn dal uchaf o £100,000 (gweler paragraff 28). 14. Gellir gwneud ceisiadau i agor cyfrif yn enw: (a) unigolyn sy’n o leiaf 7 oed, neu (b) dau unigolyn o’r fath ar y cyd, neu (c) plentyn dan 7 oed, mewn unrhyw swyddfa bost sy’n gweithredu busnes CBC neu drwy ei anfon drwy’r post i CBC. 15. Rhaid i geisiadau ar gyfer cyfrifon sydd i’w hagor gan ymddiriedolwr neu dderbyniwr gael eu hanfon drwy’r post i CBC. 16. Ym mhob achos, mae cais i agor cyfrif yn amodol ar gael ei dderbyn gan y Cyfarwyddwr. Pan fyddwch yn gwneud cais mewn swyddfa bost, ni ellir ei dderbyn nes ei fod wedi cael ei brosesu’n ddiweddarach gan CBC Llyfrau Talu i mewn17. Ar gyfer pob cyfrif rydych yn ei agor, byddwn yn anfon llyfr talu i mewn atoch (fe’i gelwir yn llyfr cyfrif hefyd) yn dangos eich taliad cychwynnol. Dyddiad y taliad fydd y dyddiad y cafodd y swyddfa bost eich taliad, neu ar gyfer cyfrifon sy’n cael eu hagor drwy’r post yn CBC, y dyddiad y bydd eich cais a'ch taliad yn cyrraedd swyddfa CBC. Defnyddir y llyfr i gofnodi eich trafodion i gyd o hynny ymlaen. Pan fydd y cyfrif yn gyfrif ar y cyd, anfonir y llyfr taliadau at y deiliad cyfrif a enwir gyntaf ar y ffurflen gais. Erys y llyfr taliadau yn eiddo’r Cyfarwyddwr bob amser. Talu arian i mewn 18. £20 yw’r isafswm ar gyfer pob taliad. Yn amodol ar y terfyn dal uchaf o £100,000 (gweler paragraff 28), gellir gwneud taliad am unrhyw swm sy’n fwy na’r isafswm. 19. Gellir talu arian i mewn mewn unrhyw swyddfa bost sy’n gweithredu busnes CBC, neu drwy’r post i CBC. Os hoffech wneud taliadau rheolaidd, gallwch sefydlu archeb sefydlog gyda’ch banc neu’ch cymdeithas adeiladu. Bydd taliadau o’r fath yn cael eu hanfon i CBC gan eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu drwy drosglwyddiad electronig. Taliadau mewn swyddfa bost20. Gallwch dalu arian neu sieciau i mewn mewn unrhyw swyddfa bost. Bydd angen i chi lenwi ffurflen dalu i mewn, sydd ar gael o’r swyddfa bost, a chyflwyno’ch llyfr talu i mewn. Dyddiad y taliad fydd y dyddiad y cafodd y swyddfa bost eich taliad, eich ffurflen a’ch llyfr talu i mewn. Taliadau drwy’r post21. Gallwch dalu â sieciau drwy’r post. Bydd angen i chi anfon y siec, ynghyd â’r llyfr taliadau, drwy’r post i CBC. Dyddiad y taliad fydd y dyddiad y cyrhaeddodd eich siec a’ch llyfr taliadau CBC. Byddwn yn dychwelyd eich llyfr taliadau atoch drwy’r post. Talu i mewn gydag archeb sefydlog22. Os hoffech gynilo’n rheolaidd gydag archeb sefydlog, bydd angen i chi lenwi ffurflen, sydd ar gael gan CBC, sy’n cynnwys gorchymyn archeb sefydlog i chi ei anfon i’ch banc. Dyddiad taliadau i mewn o’r fath fydd y dyddiad y bydd yr arian yn cyrraedd cyfrif y Cyfarwyddwr ym Manc Lloegr. Nid oes angen i chi anfon eich llyfr atom ar ôl pob taliad, gan y byddwn yn ei ddiweddaru y tro nesaf y byddwch yn ei anfon atom. Tynnu arian allan23. Er mwyn tynnu arian allan, bydd angen i chi lenwi ffurflen tynnu arian allan, sydd ar gael o swyddfeydd post a CBC, a’i hanfon drwy’r post i CBC. Sylwch, lle bo cyfrif yn cael ei ddal ar y cyd a bod deiliaid y cyfrif wedi penderfynu caniatáu i’r naill ddeiliad neu’r llall awdurdodi tynnu arian allan (gweler paragraff 12), gall y naill ddeiliad neu’r llall dynnu arian allan, gan gynnwys cau’r cyfrif, yn annibynnol ar y deiliad arall. Tynnu arian allan ar ôl rhoi rhybudd24. Gallwch dynnu arian allan heb gosb, drwy roi mis o rybudd. Mae cyfnod y rhybudd yn cychwyn ar y diwrnod y mae’r ffurflen tynnu arian allan yn cyrraedd CBC. Tynnu arian allan heb rybudd25. Ar yr amod bod yr arian sydd i’w dynnu allan wedi bod yn y cyfrif am gyfnod parhaus o 30 diwrnod o leiaf, neu ei fod yn llog a ychwanegwyd at eich cyfrif, gellir tynnu arian allan heb roi rhybudd, ond bydd cosb sy’n cyfateb i’r llog a enillir ar y swm sydd i’w dynnu allan yn ystod y cyfnod o 30 diwrnod yn union cyn dyddiad tynnu’r arian allan yn cael ei thynnu o’r swm. Talu26. Telir yr arian a dynnir allan drwy warant wedi'i chroesi yn daladwy i chi yn eich cyfeiriad neu’n uniongyrchol i fanc neu gymdeithas adeiladu a enwyd i’w gredydu i gyfrif yn eich enw. Dyddiad tynnu’r arian allan fydd y dyddiad ar y warant. Ar gyfer taliadau heb roi rhybudd, byddwn fel arfer yn postio’r warant o fewn tri diwrnod gwaith o’r dyddiad rydym yn cael eich ffurflen tynnu arian allan. 27. Gellir talu’r swm a dynnir allan mewn arian parod yn y swyddfa bost rydych yn ei nodi ar eich ffurflen gais. Anfonir gwarant heb ei chroesi (cyfeirir ati hefyd fel gwarant arian parod) atoch yn eich cyfeiriad. Dylid cyflwyno’r warant a’r llyfr talu i mewn yn y swyddfa bost a enwir er mwyn cael eich talu mewn arian parod. Efallai y bydd arnoch angen tystiolaeth o bwy ydych chi bryd hynny. Terfyn dal uchaf28. £100,000 yw’r swm uchaf y gellir ei ddal gan unrhyw berson mewn Cyfrifon Buddsoddi (boed mewn un cyfrif neu fwy), naill ai’n unigol neu ar y cyd. Os cyrhaeddir y terfyn hwn ni ellir gwneud unrhyw daliadau eraill ond bydd llog yn parhau i gael ei ychwanegu bob blwyddyn. Ni fydd y terfyn hwn yn rhwystro trosglwyddo swm a etifeddir o gyfrif cadw buddsoddi arall gyda’r Banc Cynilion Cenedlaethol. 29. At ddiben y terfyn dal uchaf, bydd unrhyw swm sy’n cael ei ddal gan ymddiriedolwr yn cael ei drin ar wahân i unrhyw swm y mae’n ei ddal yn bersonol. Plant30. Ni thelir symiau a dynnir allan o gyfrif a ddelir yn enw plentyn dan 7 oed i berson oni bai iddo/iddi fodloni'r Cyfarwyddwr ei f/bod yn berson priodol i gael y taliad. Unwaith y bydd y plentyn yn 7 oed, dim ond y plentyn a all awdurdodi taliadau o’r cyfrif. Rheoliadau31. Ar 1 Tachwedd 2004, diwygiwyd Rheoliadau Banc Cynilion Cenedlaethol 1972 (Rhif Offeryn Statudol 1972/764) gan yr Offerynnau Statudol hyn:
Y gyfraith ac awdurdodaeth32. Bydd y telerau ac amodau hyn ac unrhyw gytundeb a wneir ar eu sail yn cael eu rheoli a'u dehongli yn unol â chyfraith Lloegr. 33. Yn amodol ar baragraffau 34 a 35, bydd gan lysoedd Lloegr awdurdod unigryw i ddatrys unrhyw ddadl (gan gynnwys hawliadau cydbwyso a gwrth-hawliadau) a all godi mewn cysylltiad â'r telerau ac amodau hyn neu unrhyw gytundeb a wneir o'u herwydd ac sydd, yn amodol ar y Rheoliadau, yn cael ei benderfynu gan lys cyfraith. 34. Lle bo adran 16 Deddf Awdurdodaeth Sifil a Dyfarniadau 1982 yn gymwys, llys cyfraith perthnasol yn y rhan berthnasol o'r Deyrnas Unedig fydd ag awdurdod i ddatrys unrhyw anghydfod o'r fath. 35. Mae paragraffau 33 a 34 yn cael eu cynnwys er budd CBC. Yn unol â hyn mae CBC yn cadw'r hawl i ddwyn achos yn unrhyw lys arall sydd ag awdurdod yr ymostwng y deiliad yn derfynol iddo. Cyfrif BuddsoddiCynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol 1 Ionawr 2005 CADWCH AR GYFER EICH COFNODION |
Chwilio |
|
||||||||||||||||||||||||||||||||

