Ein hystod
/
Cyfrif Buddsoddi
/
Sut mae’n gweithio
Mae’r Cyfrif Cynilo yn hawdd i’w ddefnyddio. Gallwch agor cyfrif â chyn lleied ag £20, ac yna wneud taliadau eraill o £20 neu fwy pryd bynnag y mynnoch. Ar ôl i chi agor cyfrif, anfonwn baslyfr atoch fel y gallwch gadw cofnod o faint rydych yn ei gynilo.
Talu arian i mewn
Gallwch dalu arian i’ch cyfrif mewn unrhyw gangen o Swyddfa’r Post®, drwy anfon sieciau atom drwy’r post, neu drwy archeb sefydlog os ydych am gynilo'n rheolaidd.
Cangen o Swyddfa’r Post®
Mewn cangen o Swyddfa’r Post®: rhowch eich arian a’ch paslyfr i glerc y cownter ynghyd â ffurflen talu i mewn wedi’i llenwi. Os ydych yn talu â siec, gwnewch y siec yn daladwy i 'Swyddfa’r Post Cyf'. Neu, wrth gwrs, gallwch dalu sieciau sy’n daladwy i ddeiliad y Cyfrif Buddsoddi.
Post
Trwy’r post: gwnewch eich siec yn daladwy i 'National Savings and Investments'. Ysgrifennwch eich enw, eich cyfeiriad a rhif eich Cyfrif Buddsoddi ar gefn y siec a’i anfon ynghyd â’ch paslyfr (y byddwn yn ei dychwelyd i chi), i: National Savings and Investments, Glasgow G58 1SB. Hefyd gallwch dalu sieciau i mewn sy’n daladwy i ddeiliad y Cyfrif Buddsoddi. Peidiwch ag anfon arian drwy’r post.
Bydd eich taliad yn dechrau ennill llog o’r diwrnod y bydd yn dod i law neu’r dyddiad y’i telir i mewn mewn cangen o Swyddfa’r Post®. Y lleiafswm ar gyfer pob taliad yw £20.
Yn ôl i frig y dudalen
Tynnu arian allan
Gallwch dynnu arian allan ar unrhyw adeg heb rybudd na chosb – anfonwn eich taliad o fewn ychydig ddiwrnodau ar ôl cael eich cais
I dynnu arian allan, gwnewch gais yn union i ni drwy’r post. Gofynnwch mewn unrhyw gangen o Swyddfa’r Post® am ffurflen i dynnu arian allan o’ch Cyfrif Buddsoddi ac amlen â’r cyfeiriad arni. Llenwch y ffurflen a’i hanfon atom ynghyd â’ch paslyfr. Gallwn anfon eich arian ar ffurf gwarant (fel siec) neu gallwch ofyn i’w gael mewn arian parod mewn cangen benodol o Swyddfa’r Post®.
Yn ôl i frig y dudalen
Cynilo’n rheolaidd
Y ffordd hwylusaf i gynilo’n rheolaidd yw trwy archeb sefydlog, gyda thaliadau rheolaidd o’ch banc neu’ch cymdeithas adeiladu. Byddwch yn ennill llog o’r dyddiad y byddwn yn derbyn eich taliad ac nid oes angen i chi anfon eich paslyfr atom bob mis. Byddwn yn ei ddiweddaru’r tro nesaf y byddwch yn ei anfon atom.
Ar ôl agor Cyfrif Buddsoddi a chael manylion eich rhif cyfrif, ffoniwch ni ar 0845 964 5000 ac fe anfonwn ffurflen archeb sefydlog atoch i’w llenwi.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am gynilo’n rheolaidd.
Yn ôl i frig y dudalen
Llog
Bydd eich balans yn ennill llog ar gyfraddau da, hyd yn oed os byddwch yn cynilo ond ychydig bach o arian. Ac oherwydd bod y cyfraddau yn raddedig, byddwch yn ennill cyfraddau uwch wrth i’ch cynilion gynyddu.
Mae’r cyfraddau llog yn amrywiol.
Bydd pob punt gyflawn yn eich cyfrif yn ennill llog yn ddyddiol o’r dyddiad y bydd eich taliad yn dod i law nes byddwch yn ei dynnu allan.
Credydir eich llog i’ch cyfrif yn awtomatig ar 31 Rhagfyr bob blwyddyn. Nid oes angen i chi anfon eich paslyfr atom i gofnodi’ch llog – gwnawn hynny y tro nesaf y byddwch yn ei anfon atom, er enghraifft pan fyddwch am dynnu arian allan.
Yn ôl i frig y dudalen
Pwy sy’n cael buddsoddi?
Gall unrhyw un sy’n saith oed neu’n hyn agor Cyfrif Buddsoddi, naill ai’n unigol neu ar y cyd ag un person arall.
Gellir agor cyfrif ar ran plentyn o dan saith oed hefyd ond fel arfer telir unrhyw arian a dynnir allan i riant neu warcheidwad nes i’r plentyn gyrraedd saith oed.
Gellir dal cyfrifon mewn ymddiriedaeth am hyd at ddau fuddiolwr personol o unrhyw oedran.
Back to top
Cyfrifon ar y cyd
Gofynnwn i chi ar y ffurflen gais benderfynu a fydd dau ddeiliad y cyfrif gyda’i gilydd yn llofnodi i dynnu arian allan neu a all unrhyw un ohonoch lofnodi. Sylwch os byddwch yn dewis y gall un ohonoch lofnodi, gall y naill ddeiliad neu’r llall dynnu’r arian i gyd o’r cyfrif ar ei ben/phen ei hun.
Yn ôl i frig y dudalen
Cyfrifon plant
Gellir agor cyfrifon ar ran plentyn o dan saith mlwydd oed. Ni all y plentyn dynnu arian allan, ond os bydd angen arian er ei les/lles, gall riant neu warcheidwad dynnu arian allan ar ei ran/rhan.
Gall plentyn sy’n saith oed neu’n hyn agor a rheoli cyfrif eu hunain, gan dalu arian i mewn a thynnu arian allan o’u cyfrif.
Yn ôl i frig y dudalen
Treth
Er bod y llog a enillir mewn Cyfrif Buddsoddi yn drethadwy, mae’n cael ei gredydu’n gros i’ch cyfrif (h.y. heb dynnu treth). Felly gall pobl nad ydynt yn drethdalwyr gadw’r arian i gyd heb orfod llenwi ffurflen gofrestru Cyllid y Wlad, ar yr amod nad yw’r llog yn golygu bod cyfanswm eu hincwm trethadwy yn fwy na’u lwfans treth.
Os ydych chi’n drethdalwr, rhaid i chi ddatgan eich llog i Cyllid a Thollau EM (yr enw newydd ar Gyllid y Wlad). Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am dreth a chynilion.
Yn ôl i frig y dudalen
Terfyn buddsoddi
Gallwch fuddsoddi unrhyw swm o £20 hyd at uchafswm o £100,000. Os byddwch yn cyrraedd y terfyn hwn, ni allwch fuddsoddi mwy o arian, ond byddwn yn parhau i ychwanegu llog at y cyfanswm.
Yn ôl i frig y dudalen
Sicrwydd 100%
Mae unrhyw arian rydych yn ei fuddsoddi mewn Cyfrif Buddsoddi 100% yn ddiogel. Dim ond Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol sy'n gallu gwneud yr addewid hwn, am fod ein buddsoddiadau yn cael eu cefnogi gan Drysorlys EM.
Yn ôl i frig y dudalen
Ynghylch y telerau ac amodau
Darllenwch y telerau ac amodau cyn i chi fuddsoddi. Os byddwn ni'n gwneud unrhyw newidiadau i'r telerau ac amodau ar ôl i chi fuddsoddi, fe wnawn adael i chi wybod. Os bydd unrhyw newid yn achosi anfantais i chi, byddwn yn rhoi gwybod i chi'n bersonol o leiaf 30 diwrnod cyn y newid*. Yn yr achos hwn, gallwch newid i gynnyrch arall neu gau’ch cyfrif, heb rybudd na chosb, o fewn 60 diwrnod ar ôl i ni roi gwybod i chi. Os caiff unrhyw newidiadau eraill eu gwneud, byddwn yn rhoi rhybudd gyda mantolen neu gyfathrebiaeth arall neu roi hysbysiad ar ein gwefanl.
* Sylwch, nid yw hyn yn berthnasol i newidiadau mewn cyfraddau llog, a fydd yn cael eu nodi mewn ystod o bapurau newydd cenedlaethol, ar ein gwefan ac mewn canghennau o Swyddfa'r Post®.
Yn ôl i frig y dudalen
Diogelu’ch gwybodaeth bersonol
Pan fyddwch chi’n dod yn un o’n cwsmeriaid, byddwn yn cadw’r holl wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch yn breifat ac yn gyfrinachol. Cliciwch yma am fanylion am ein polisi cyfrinachedd.
Yn ôl i frig y dudalen
Ein hymrwymiad i wasanaeth da
Yn rhan o’n hymrwymiad i ddarparu gwasanaeth o safon dda i chi, rydym yn tanysgrifio i’r Cod Bancio. Os byddwn yn gwneud camgymeriad, fe wnawn geisio ei gywiro yn ddi-oed ac yn ddiffwdan. Ac os oes gennych g?yn, mae gennym drefn i’w datrys yn deg. Rydym hefyd wedi’n diogelu gan Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am y Cod Bancio neu’n trefn gwyno.
Yn ôl i frig y dudalen