![]() |
Ein hystod
/
Tystysgrifau Cynilo Mynegrifol
/
Telerau ac Amodau5 Medi 2005 Disgrifiad1. Mae Tystysgrifau Cynilion Cenedlaethol yn warant gan Lywodraeth y DU a gyhoeddir o dan Ddeddf Benthyciadau Cenedlaethol 1968. Mae'r Tystysgrifau a'r amodau a’r telerau hyn yn amodol ar Reoliadau Tystysgrifau Cynilo 1991 (Rhif Offeryn Statudol: 1991/1031) fel y’u diwygir neu eu hailbasir o bryd i'w gilydd (gweler paragraff 45). Os oes gwahaniaeth rhwng yr amodau a’r telerau hyn a’r Rheoliadau, y Rheoliadau fydd yn drech. Diffiniadau2. Yn yr amodau a’r telerau hyn: (a) golyga ‘dyddiad pen-blwydd’ ben?blwydd dyddiad prynu Tystysgrif, (ac eithrio unrhyw ddyddiad ar ôl y dyddiad aeddfedu), ond os prynwyd Tystysgrif ar 29ain Chwefror, 28ain Chwefror fydd y dyddiad pen-blwydd bob tro (hyd yn oed mewn blwyddyn naid); (b) golyga 'dyddiad-sail' y dyddiad y cymerir bod Mynegrif Cyffredinol Prisiau Adwerthu’r DU yn cyfateb i 100; (c) golyga 'mis calendr' fis a enwir gan gychwyn ar ei ddiwrnod cyntaf a gorffen ar ei ddiwrnod olaf (ee 1 tan 31 Ionawr); (d) golyga 'Tystysgrif' Dystysgrif Fynegrifol Cynilion Cenedlaethol; (e) golyga 'Cyfarwyddwr' y Cyfarwyddwr Cynilion; (f) golyga ‘dyddiad aeddfedu’ y diwrnod ar ôl diwrnod olaf y tymor; (g) golyga ‘CBC’ Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (Cynilion Cenedlaethol gynt) yn gweithredu drwy ei swyddfa yn Durham neu gyfryw swyddfa arall y gall y Cyfarwyddwr ei phennu; (h) golyga ‘swyddfa bost’ gangen o Swyddfa’r Post Cyf yn y DU; (i) golyga 'Tystysgrif Ailfuddsoddi' Dystysgrif Fynegrifol lle; (i) caiff y Dystysgrif ei phrynu o enillion Tystysgrifau Cynilion Cenedlaethol neu Dystysgrifau Cynilion Ulster o unrhyw Gyhoeddiad (gan gynnwys Cyhoeddiadau nad ydynt yn rhai Mynegrifol) neu Dystysgrifau Cynllun Blynyddol wedi’u cyfnewid am arian, a’i dal yn yr un enw â'r person a ddaliai’r Tystysgrifau Cynilion a gyfnewidiwyd am arian; (ii) mae'r cyfnewid am arian a'r pryniant yn cael eu gwneud ar yr un pryd trwy anfon cais ailfuddsoddi wedi'i gwblhau i CBC, neu yn achos Tystysgrifau Cynilion Ulster, trwy anfon cais ailfuddsoddi wedi'i gwblhau i Gangen Cynilion Ulster, Coleraine; ac (iii) nad oedd y Tystysgrifau a gyfnewidiwyd am arian wedi'u cyfnewid cyn eu dyddiad aeddfedu, neu yn achos Tystysgrifau Cynllun Blynyddol, cyn pedwerydd pen-blwydd eu dyddiad tystysgrif. (j) golyga ‘tymor’, ac eithrio ym mharagraff 44, y cyfnod y pennwyd y cyfraddau llog ar ei gyfer pan brynwyd y Dystysgrif, heb ystyried a yw'r Dystysgrif yn parhau i ennill llog ar ôl y tymor hwnnw ai peidio (gweler paragraff 4 hefyd). 3. At ddibenion y telerau a’r amodau hyn, mae mis yn dod i ben ar ddiwedd y diwrnod sydd yn union o flaen yr un diwrnod enwol â dyddiad y pryniant (er enghraifft, ar gyfer Tystysgrif a brynwyd ar 5 Ionawr, mae’r mis cyntaf yn dod i ben ar ddiwedd 4 Chwefror). Lle roedd dyddiad y pryniant yn disgyn ar 29ain, 30ain, neu 31ain o fis, ac nid yw mis calendr diweddarach yn cynnwys dyddiad felly, mae’r mis dan sylw yn dod i ben ar ddiwedd y dydd cyn diwrnod olaf y mis calendr hwnnw (er enghraifft, ar gyfer Tystysgrif a brynwyd ar 31 Mawrth, mae’r mis cyntaf yn dod i ben ar ddiwedd 29 Ebrill). Er hynny, yn achos Tystysgrif gyda dyddiad pryniant 29 Chwefror, bydd pob deuddegfed mis yn dod i ben ar ddiwedd 27 Chwefror, hyd yn oed pan fydd y mis hwnnw yn digwydd mewn blwyddyn naid. Mynegrifo, llog a rhyddhad treth4. Mae Tystysgrif yn tyfu mewn gwerth trwy fynegrifo a llog ar gyfraddau a bennir am gyfnod penodol na fydd yn llai na blwyddyn (e.e. 18 mis, dwy flynedd, pum mlynedd, ac ati) sy'n cychwyn ar ddyddiad y pryniant. Yr enw a roddir ar bob cyfnod amser yw 'tymor'. Yn achos tymhorau a fynegir fel nifer o fisoedd, mae’r tymor yn dod i ben pan fydd y mis olaf yn dod i ben (gweler paragraff 3). Yn achos tymhorau a fynegir fel blwyddyn neu nifer o flynyddoedd, diwrnod olaf y tymor fydd y diwrnod yn union o flaen y dyddiad pen-blwydd perthnasol (er enghraifft, diwrnod olaf tymor blwyddyn sydd yn dechrau ar 5 Ionawr fydd 4 Ionawr yn y flwyddyn ganlynol). Bydd gan bob tymor ei 'Gyhoeddiadau' ei hun o Dystysgrifau, a fydd yn cael eu cyhoeddi yn dilyn ei gilydd a bydd cyfraddau llog gwahanol yn gymwys i bob Cyhoeddiad o fewn pob tymor. Mae'n bosibl y bydd mwy nag un tymor ar gael ar unrhyw adeg. Am fanylion sut mae mynegrifo yn cael ei gymhwyso i Dystysgrifau, gweler paragraffau 15 –17. 5. Bydd pob tymor sydd ar gael a'r cyfraddau llog ar gyfer pob Cyhoeddiad yn cael eu cyhoeddi yn Newyddiaduron Llundain, Caeredin a Belfast. Am fanylion y Tystysgrifau sydd ar gael ar y pryd, gweler ein taflen ar Gyfraddau Llog sydd ar gael mewn swyddfeydd post ac o CBC. Gellir rhoi’r gorau i werthu unrhyw Gyhoeddiad o Dystysgrifau heb roi rhybudd. Gellir derbyn cais am y Cyhoeddiad sydd ar werth ar y dyddiad prynu yn unig (gweler paragraff 26). 6. Caiff arian mynegrifol a llog eu hennill, o’r dyddiad prynu, fel a ganlyn: (a) ar gyfer Tystysgrifau Ailfuddsoddi, pob mis cyfan y’u delir; (b) ar gyfer Tystysgrifau eraill, pob mis cyfan y’u delir, ond nid enillir unrhyw arian mynegrifol na llog mewn perthynas â Thystysgrif o’r fath a gyfnewidir am arian cyn dyddiad y pen-blwydd cyntaf. 7. Y swm a fydd yn ddyledus pan gyfnewidir Tystysgrif am arian ar y dyddiad aeddfedu fydd y gwerth aeddfedu (gweler y daflen Cyfraddau Llog). 8. Y swm a fydd yn ddyledus pan gyfnewidir Tystysgrif am arian ar ddyddiad pen-blwydd (ac eithrio pan fydd hwnnw hefyd yn ddyddiad aeddfedu) neu lai na mis cyfan wedyn, fydd y gwerth pen-blwydd perthnasol (gweler taflen Cyfraddau Llog). Talgrynnir gwerthoedd pen-blwydd i’r geiniog agosaf. 9. Y swm a fydd yn ddyledus wrth gyfnewid am arian Dystysgrif sydd wedi'i chadw am o leiaf un mis cyfan o ddyddiad pen-blwydd fydd y gwerth pen-blwydd ar y dyddiad pen-blwydd hwnnw ynghyd â: (a) mynegrifo am bob mis cyfan o'r dyddiad pen-blwydd hwnnw hyd y dyddiad ad-dalu; ac (b) 1 rhan o 12 o'r llog blynyddol am bob mis cyfan y’i daliwyd o'r dyddiad pen-blwydd hwnnw. Nid yw’r paragraff hwn yn berthnasol i unrhyw fis na ddaeth i ben cyn y dyddiad aeddfedu. 10. Y swm a fydd yn ddyledus wrth gyfnewid Tystysgrif Ailfuddsoddi am arian cyn y dyddiad pen-blwydd cyntaf, ond sydd wedi'i chadw am o leiaf un mis cyfan o’r dyddiad prynu, fydd y pris prynu ynghyd â: (a) mynegrifo am bob mis cyfan o'r dyddiad pen-blwydd hwnnw hyd y dyddiad ad-dalu; a (b) 1 rhan o 12 o'r llog blynyddol am bob mis cyfan y’i daliwyd o'r dyddiad prynu. 11. Os bydd gostyngiad yn y Mynegrif Prisiau Adwerthu: (a) ni fydd unrhyw werth aeddfedu fyth yn llai na gwerth y pen-blwydd blaenorol, neu, yn achos Tystysgrif â thymor o flwyddyn, y pris prynu, ynghyd â llog ar y gyfradd berthnasol am y cyfnod o’r dyddiad pen-blwydd blaenorol i’r dyddiad aeddfedu; (b) ni fydd unrhyw werth pen-blwydd byth yn llai na’r gwerth ar ddyddiad y pen-blwydd blaenorol neu, yn achos y pen-blwydd cyntaf, y pris prynu, ynghyd â llog ar y gyfradd sy’n berthnasol i’r flwyddyn. 12. Ni fydd y swm dyledus pan gyfnewidir Tystysgrif am arian ar ôl dyddiad aeddfedu byth yn llai na’r gwerth aeddfedu. 13. Talgrynnir gwerth Tystysgrif i'r geiniog agosaf wrth ei chyfnewid am arian. 14. Bydd symiau taladwy o ran mynegrifo a llog yn rhydd o Dreth Incwm y Deyrnas Unedig a Threth Enillion Cyfalaf. 15. Bydd gwerthusiad mynegrifol yn ôl y telerau a’r amodau hyn yn gysylltiedig â symudiad Mynegrif Cyffredinol Prisiau Adwerthu y DU a gedwir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, neu unrhyw Fynegrif a fydd yn cymryd lle'r Mynegrif hwnnw. Bydd y symudiad hwn yn cael ei ddynodi gan y Mynegrif a gyhoeddir bob mis, a'i gyhoeddi wedyn yn Newyddiaduron Llundain, Caeredin a Belfast. At ddibenion yr amodau a’r telerau hyn, y Mynegrif a fydd yn gymwys i unrhyw fis calendr fydd y Mynegrif a gyhoeddir yn y mis calendr blaenorol. 16. Bydd gwerth mynegrifol yn cael ei gyfrifo fel V x B/A lle: (a) 'V' fydd gwerth Tystysgrif ar ddechrau’r cyfnod mynegrifol (hwn fydd y pris pryniant neu’r gwerth ar ddyddiad pen-blwydd); (b) 'A' yw ffigur y Mynegrif sy'n gymwys i'r mis calendr y mae diwrnod cyntaf y cyfnod mynegrifol yn disgyn ynddo (y diwrnod hwn fydd y dyddiad prynu neu ei ben-blwydd); a (c) 'B' yw ffigur y Mynegrif sy'n gymwys i'r mis calendr y bydd y diwrnod ar ôl diwrnod olaf y cyfnod mynegrifol yn disgyn ynddo. Y diwrnod hwn fydd y dyddiad aeddfedu, dyddiad pen-blwydd neu’r diwrnod ar ôl y mis cyfan olaf yr enillir arian mynegrifol amdano. 17. Os diwygir y Mynegrif i ddyddiad-sail newydd bydd y Cyfarwyddwr yn cyfrifo ffigurau Mynegrif amcanol a gaiff eu llunio i gynhyrchu effaith mor agos ag sy’n ymarferol â phe na bai'r Mynegrif wedi'i ddiwygio. Bydd hyn yn gymwys i Dystysgrifau a brynwyd cyn diwygio. Pwy sy’n cael prynu Tystysgrifau a’u dal18. Mae paragraffau 19–24 yn crynhoi prif nodweddion y Rheoliadau cyfredol (gweler paragraff 1). 19. Unigolion. Gallwch brynu Tystysgrifau a’u dal: (a) yn eich enw eich hun; neu (b) ar y cyd ag un neu fwy o unigolion eraill. Gall unrhyw berson arall brynu Tystysgrifau hefyd ar eich rhan chi ac yn eich enw. 20. Plant. Ni all plant dan 7 oed brynu Tystysgrifau. Gellir prynu Tystysgrifau i blentyn dan 7 oed i’w dal yn enw'r plentyn. Gellir prynu Tystysgrifau yn yr un modd i ddau neu fwy o blant o’r fath i’w dal yn eu henwau ar y cyd. 21. Ymddiriedolwyr. Gallwch brynu Tystysgrifau a’u dal fel ymddiriedolwr naill ai ar eich pen eich hun neu ar y cyd ag un neu fwy o ymddiriedolwyr eraill. Gall ymddiriedolwyr corfforaethol hefyd brynu Tystysgrifau a’u dal. Gall y Tystysgrifau gael eu dal gan yr ymddiriedolwr(wyr) yn unig neu ar y cyd â'r buddiolwr(wyr). 22. Derbynwyr. Gall derbyniwr brynu Tystysgrifau ar ran ac yn enw person sydd ag anhwylder meddyliol. 23. Eraill. Gall cymdeithasau cyfeillgar cofrestredig neu unrhyw gorff arall o bobl a gymeradwyir gan y Cyfarwyddwr brynu Tystysgrifau a’u dal. Gall unrhyw berson arall brynu Tystysgrifau hefyd ar ran ac yn enw cymdeithas neu gorff arall o’r fath. 24. Cyffredinol. Ni chaiff person o dan anabledd cyfreithiol brynu Tystysgrifau. Sut i brynu25. Gallwch brynu Tystysgrif trwy wneud cais dros y rhyngrwyd, dros y ffôn neu drwy'r post i swyddfa CBC, neu’n bersonol mewn unrhyw swyddfa bost sy'n ymdrin â busnes CBC. Pan fyddwch yn gwneud cais dros y rhyngrwyd neu dros y ffôn, a dyma’ch cais cyntaf, bydd yn rhaid i chi gadarnhau eich cais trwy lofnodi a dychwelyd ffurflen gadarnhau y byddwn yn ei hanfon atoch drwy’r post. Efallai y byddwn yn ysgrifennu atoch i ofyn am dystiolaeth ddogfennol o bwy ydych chi a’ch cyfeiriad. Bydd y ffurflen a/neu lythyr a fydd yn gofyn am dystiolaeth o bwy ydych chi yn nodi o fewn pa gyfnod y bydd angen dychwelyd y ffurflen a/neu’r dystiolaeth i CBC. Os na dderbynnir y ffurflen a/neu’r dystiolaeth gan CBC o fewn y cyfnod penodedig ni fydd y Cyfarwyddwr yn gallu derbyn eich cais. 26. Ym mhob achos, mae cais i brynu yn amodol ar gael ei dderbyn gan y Cyfarwyddwr: os ydych yn gwneud cais mewn swyddfa bost, ni ellir derbyn y cais nes iddo gael ei brosesu yn swyddfa CBC. Os caiff ei dderbyn, y dyddiad buddsoddi fydd: (a) ar gyfer ceisiadau sy’n cael eu hanfon trwy’r post, y dyddiad y cyrhaeddodd eich cais a’ch taliad CBC; (b) ar gyfer ceisiadau dros y rhyngrwyd, y dyddiad y cafodd CBC eich cais ar-lein, gan gynnwys awdurdod am daliad cerdyn debyd; (c) ar gyfer ceisiadau dros y ffôn, y dyddiad cyntaf y nododd CBC fanylion eich cais, gan gynnwys awdurdod am daliad cerdyn debyd; (d) ar gyfer ceisiadau mewn swyddfa bost, y dyddiad y cafwyd eich cais a’ch taliad yno. 27. Oherwydd y gall Tystysgrifau o fwy nag un tymor fod ar werth ar unrhyw adeg benodol, rhaid i chi nodi'ch dewis o dymor wrth wneud cais i fuddsoddi. 28. Byddwn yn anfon tystysgrif buddsoddi atoch yn dangos y gwerth a’r dyddiad buddsoddi. Terfynau prynu a dal29. Yr isafswm ar gyfer pob pryniant yw £100 ar wahân i Dystysgrifau Ailfuddsoddi lle nad oes isafswm. Gallwch brynu unrhyw nifer yn amodol ar y terfyn dal uchaf ym mharagraff 30. 30. Ni chewch brynu (neu ddal, os y’i prynir ar eich rhan gan rywun arall) Tystysgrif o unrhyw Gyhoeddiad os bydd hynny’n golygu eich bod chi wedyn yn dal, ar eich pen eich hun neu ar y cyd â pherson arall, fwy na £15,000 mewn Tystysgrifau (pris pryniant) o'r Cyhoeddiad hwnnw. Nid yw hyn yn berthnasol i Dystysgrifau Ailfuddsoddi, lle nad oes uchafswm, ac nid yw Tystysgrifau Ailfuddsoddi'n cyfrif o ran cymhwyso’r terfyn i ddaliadau eraill o'r un Cyhoeddiad. 31. Pan fydd Tystysgrifau'n cael eu dal ar y cyd yn enw dau berson neu fwy, caiff cyfanswm gwerth y Tystysgrifau (pris prynu) ei gyfrif yn erbyn pob un o'r cyd-ddeiliaid wrth gyfrifo gwerth Tystysgrifau a ddelir ganddynt i'r diben hwn. 32. Er hynny ni fydd Tystysgrifau a ddelir gan berson fel ymddiriedolwr yn cyfrif tuag at ddaliad uchaf y person hwnnw. Hefyd, ni fydd Tystysgrifau a ddelir ar y cyd yn enwau ymddiriedolwr a buddiolwr yn cyfrif tuag at ddaliad uchaf y buddiolwr. Er bod y terfyn dal uchaf yn berthnasol i ddaliadau ymddiriedolaeth, bydd pob cronfa ymddiriedolaeth yn cael ei thrin ar wahân. 33. Os bydd person yn etifeddu Tystysgrifau sy'n golygu bod ei (d)daliad yn fwy na'r terfyn uchaf, gall y person gadw'r Tystysgrifau sydd dros ben ond ni chaiff brynu rhagor o'r Cyhoeddiad hwnnw os byddai’n achosi i'w (d)daliad (gan gynnwys Tystysgrifau a etifeddwyd) fod yn uwch, neu'n uwch eto, na'r terfyn dal. 34. Mae'r Rheoliadau cyfredol (gweler paragraff 1) yn dangos sut mae'r terfyn yn berthnasol mewn achosion arbennig. Cyfnewid am arian35. Gellir cyfnewid Tystysgrifau am arian trwy lenwi ffurflen (sydd ar gael mewn swyddfeydd post a chan CBC) a’i anfon i CBC ynghyd â’ch tystysgrif buddsoddi. 36. Bydd taliad yn cael ei wneud fel arfer trwy gredyd uniongyrchol i gyfrif banc (gan gynnwys Cyfrif Buddsoddi Cynilion Cenedlaethol) neu gyfrif cymdeithas adeiladu a enwir gennych yn y cyfarwyddiadau i gyfnewid am arian. Mae’r Cyfarwyddwr yn bwriadu defnyddio Gwasanaeth Clirio Bancwyr Wedi’i Awtomateiddio (BACS) at y pwrpas hwn, ond yn cadw’r hawl i ddefnyddio dull arall o drosglwyddo’n electronig. 37. Cymerir y dyddiad y cyfnewidir Tystysgrif am arian fel y dyddiad y byddai’r taliad yn y ffordd arferol yn cael ei gredydu i’r cyfrif a enwir ar ôl i’r Cyfarwyddwr weithredu’r trosglwyddiad electronig. Yn achos BACS, bydd hyn fel rheol ddau ddiwrnod bancio ar ôl i’r Cyfarwyddwr weithredu’r trosglwyddiad. 38. Lle bydd y Cyfarwyddwr yn gweithredu trosglwyddiad electronig yn gywir, ni fydd ef na’r Trysorlys yn gyfrifol am: (a) unrhyw fethiant neu oedi ar ran y banc neu’r gymdeithas adeiladu sy’n derbyn yr arian i gredydu’r cyfrif a enwir; (b) unrhyw fethiant neu oedi mewn unrhyw ran o’r broses trosglwyddo electronig sydd y tu hwnt i reolaeth uniongyrchol y Cyfarwyddwr; gan gynnwys unrhyw fethiant sydd yn digwydd oherwydd nad yw’r cyfrif a enwir yn gallu derbyn trosglwyddiad electronig. 39. Mewn amgylchiadau eithriadol, gellir gofyn am daliad trwy warant wedi’i chroesi (fel siec). Mewn achosion felly, cymerir dyddiad cyfnewid y Dystysgrif am arian fel y dyddiad ar y warant. 40. Yn lle taliad trwy drosglwyddiad electronig neu warant, gellir ailfuddsoddi’r arian a geir mewn unrhyw Gyhoeddiad Tystysgrifau Cynilion Cenedlaethol (Llog Sefydlog neu Fynegrifol) sydd ar werth ar y pryd (yn amodol ar y telerau a’r amodau perthnasol) a bernir mai dyddiad cyfnewid y dystysgrif am arian neu ailfuddsoddi’r arian fydd y dyddiad prynu ar y dystysgrif fuddsoddi newydd. 41. Er y bydd CBC fel rheol yn gweithredu’r trosglwyddiad electronig (gweler paragraff 37), yn rhoi'r warant yn y post, neu’n ailfuddsoddi’r arian, cyn pen wyth diwrnod gwaith ar ôl cael cyfarwyddiadau i gyfnewid am arian, ni ellir rhoi sicrwydd o hyn, ac fe'ch cynghorir i wneud cais cyn gynted ag y bo modd. 42. Yn achos ad-dalu Tystysgrif a ddelir gan blentyn dan 7 oed, ni roddir ad-daliad i berson oni bai ei fod yn bodloni'r Cyfarwyddwr ei fod yn berson priodol i'w dderbyn. 43. Gellir cyfnewid rhan o werth cyfredol Tystysgrif am arian neu’i hailfuddsoddi fel ym mharagraffau 35–42. Bydd y gwerth a ad-delir neu a ailfuddsoddir yn cynnwys rhan o bris prynu’r Dystysgrif ynghyd ag unrhyw arian mynegrifol neu log y mae'r rhan honno wedi'i ennill. Rhoddir tystysgrif fuddsoddi newydd, yn dangos y dyddiad prynu gwreiddiol a gweddill y pris prynu sydd ar ôl. Cadw Tystysgrif ar ôl tymor y gyfradd sefydlog44. Ar ddiwedd y tymor gwreiddiol (neu unrhyw dymor pellach pan enillir arian mynegrifol a/neu log o dan y paragraff hwn), fe all Tystysgrif fod yn gymwys i ennill arian mynegrifol a/neu log am dymor pellach o'r un hyd. Bydd y Trysorlys yn penderfynu a yw hyn yn gymwys, ac os felly, ar ba delerau gyda golwg ar yr arian mynegrifol a/neu log. Bydd y Cyfarwyddwr yn ysgrifennu at y deiliad, yn y cyfeiriad diwethaf a gofnodwyd ar gyfer y daliad, yn fuan cyn diwedd pob tymor i roi gwybod iddo am benderfyniad y Trysorlys. Os bydd y cyfryw arian mynegrifol a/neu log yn gymwys, bydd yn cael ei gymhwyso'n awtomatig ac yn cael ei warantu am y tymor pellach i gyd. Wrth gwrs, bydd y deiliad yn dal i gael yr hawl i gyfnewid y Dystysgrif am arian unrhyw bryd (gan gynnwys ei ailfuddsoddi mewn Cyhoeddiad arall neu un arall o gynhyrchion CBC). Rheoliadau45. Ar 1 Tachwedd 2004, diwygiwyd y Rheoliadau Cynilion Cenedlaethol 1991 (Rhif Offeryn Statudol 1991/1031) gan yr Offerynnau Statudol hyn:
Y gyfraith ac awdurdodaeth46. Bydd y telerau a’r amodau hyn ac unrhyw gytundeb a wneir ar eu sail yn cael eu rheoli a'u dehongli yn unol â chyfraith Lloegr. 47. Yn amodol ar baragraffau 48 a 49, bydd gan lysoedd Lloegr awdurdod llwyr i ddatrys unrhyw ddadl (gan gynnwys hawliadau cydbwyso a gwrth-hawliadau) a all godi mewn cysylltiad â'r telerau a’r amodau hyn neu unrhyw gytundeb a wneir ar eu sail ac sydd, yn amodol ar y Rheoliadau, yn cael ei phenderfynu gan lys. 48. Lle bydd adran 16 Deddf Awdurdodaeth Sifil a Dyfarniadau 1982 yn gymwys, llys perthnasol yn y rhan berthnasol o'r Deyrnas Unedig fydd ag awdurdod i ddatrys unrhyw anghydfod o'r fath. 49. Mae paragraffau 47 a 48 yn cael eu cynnwys er mwyn CBC. Yn unol â hyn, mae CBC yn cadw'r hawl i ddwyn achos mewn unrhyw lys arall sydd ag awdurdod, a’r deiliad yn ymostwng yn ddiwrthdro i hwnnw. Tystysgrifau CyniloCynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol CADWCH AR GYFER EICH COFNODION |
Chwilio |
|
||||||||||||||||||||||||||||||||

