Adenillion sy’n warantedig i guro chwyddiant, yn rhydd o dreth
Gyda Thystysgrifau Cynilo Mynegrifol, mae gwerth eich cynilion yn symud yn unol â chwyddiant ac yn ennill cyfraddau llog gwarantedig — ac mae’ch holl adenillion yn rhydd o dreth. Nid oes angen i chi ddatgan y llog ar eich ffurflen dreth hyd yn oed.
Pam dewis y cynnyrch hwn?
Os ydych am fod yn sicr y bydd eich buddsoddiad yn curo chwyddiant, yn rhydd o dreth
Pwy sy’n cael buddsoddi?
Unrhyw un sy’n 7oed neu’n hyn; gellir eu prynu ar ran plant o dan 7oed
Lleiafswm y gellir ei brynu
£100
Uchafswm
£15,000 y cyhoeddiad
Tymor buddsoddi
Dewis o dymhorau — 3 a 5 mlynedd ar hyn o bryd
Llog
Mynegrifo ynghyd â chyfraddau llog gwarantedig am gyfnod y tymor
Drwy ddefnyddio’r wefan hon, y’i bwriedir ar gyfer preswylwyr y DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, cymerir eich bod wedi cadarnhau eich bod yn breswylydd yn y mannau hynny.