National Savings and Investments
 
Ein hystod / Tystysgrifau Cynilo Mynegrifol /

Sut maent yn gweithio

Gyda Thystysgrifau Cynilo Mynegrifol, mae gwerth eich cynilion yn symud yn unol â chwyddiant ac yn ennill cyfraddau llog gwarantedig - ac mae'r holl adenillion yn rhydd o dreth. Gallwch eu dal yn ychwanegol at unrhyw fuddsoddiadau eraill rhydd o dreth sydd gennych eisoes.

Beth yw ystyr “Yn warantedig i guro chwyddiant”?

Mae Tystysgrifau Cynilo Mynegrifol yn gwarantu y bydd gwerth eich buddsoddiad yn curo chwyddiant. Gwneir hyn trwy gysylltu eu gwerth â mynegai sy’n mesur chwyddiant, sef y Mynegai Prisiau Adwerthu (RPI). Mae hynny’n sicrhau eu bod yn symud yn unol â chwyddiant. I guro chwyddiant, rydym yn talu cyfradd llog warantedig ar ben y cynnydd mewn chwyddiant. Ac maent yn rhydd o dreth, felly cewch gadw eich adenillion i gyd, beth bynnag fo’r gyfradd dreth y byddwch yn ei thalu.

Yn ôl i frig y dudalen

Mynegai Prisiau Adwerthu

Mae’r Mynegai Prisiau Adwerthu (RPI), a adweinir weithiau fel y Prif Gyfradd Chwyddiant, yn ffordd gyffredin o fesur chwyddiant a gyfrifir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol bob mis. Gallwch ei gweld ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol www.statistics.gov.uk neu drwy ein ffonio ar 0845 964 5000.

 Yn ôl i frig y dudalen

Tymhorau buddsoddi

Rydym yn cynnig Tystysgrifau Cynilo gyda dewis o ddau dymor, sef 3 blynedd a 5 mlynedd ar hyn o bryd. Gallwch ddewis pa dymor sydd fwyaf addas i chi. Neu gallwch fuddsoddi yn y ddau.

 Yn ôl i frig y dudalen

Cyhoeddiadau

Mae pob tymor yn cael ei werthu mewn Cyhoeddiadau. Byddwn yn cyflwyno Cyhoeddiad newydd bob tro mae'r cyfraddau llog sefydlog a gynigiwn yn newid. Nid yw hyn yn effeithio ar gyfraddau llog unrhyw Dystysgrifau Cynilo sydd gennych eisoes - maent yn warantedig. Ond mae'n golygu y gallwch fuddsoddi yn y Cyhoeddiad newydd ar y cyfraddau newydd, sy'n caniatáu i chi gynilo mwy o arian yn rhydd o dreth.

 Yn ôl i frig y dudalen

Pwy sy’n cael buddsoddi?

Gall unrhyw un sy'n saith oed neu’n hyn fuddsoddi mewn Tystysgrifau Cynilo, un ai'n unigol neu ar y cyd. Mae modd eu prynu ar ran plentyn o dan saith oed hefyd. Bydd y plentyn yn dod yn gyfrifol amdanynt ar ei ben-blwydd yn saith oed. Gallwch brynu Tystysgrifau Cynilo fel ymddiriedolwr hefyd.

 Yn ôl i frig y dudalen

Manteision rhydd o dreth

Gyda Thystysgrifau Cynilo Mynegrifol, mae pob ceiniog rydych yn ei hennill yn eiddo i chi. Os ydych yn drethdalwr cyfradd sylfaenol, er enghraifft byddai adenillion rhydd o dreth o 1.25% ynghyd â chwyddiant o 3%* yn golygu adenillion o 4.25% yn rhydd o dreth. Byddai hyn yr un fath ag adenillion trethadwy o 5.31% gros ar gyfer trethdalwr cyfradd sylfaenol a 7.08% gros ar gyfer trethdalwyr cyfradd uwch.

*Mae’r enghraifft hon yn tybio y bydd RPI yn cynyddu o 3% (y gyfradd ym mis Medi 2004) ym mhob un o’r pum mlynedd nesaf.

Gallwch weld y Mynegai Prisiau Adwerthu cyfredol ar wefan Swyddfa’r Ystadegau Gwladol www.statistics.gov.uk neu drwy ein ffonio ar 0845 964 5000.

 Yn ôl i frig y dudalen

Terfynau buddsoddi

Gallwch gynilo unrhyw swm rhwng £100 a £15,000 ym mhob Cyhoeddiad o Dystysgrifau Cynilo Mynegrifol. Po fwyaf rydych yn ei fuddsoddi, mwyaf i gyd fydd eich adenillion rhydd o dreth. Ac nid yw hyn yn cyfrif tuag at eich lwfans am ein Tystysgrifau Cynilion Llog Sefydlog neu’n mini ISA arian.

 Yn ôl i frig y dudalen

Sicrwydd 100%

Mae unrhyw arian rydych yn ei fuddsoddi mewn Tystysgrifau Cynilo Mynegrifol 100% yn ddiogel. Dim ond Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol sy'n gallu gwneud yr addewid hwn, am fod ein buddsoddiadau yn cael eu cefnogi gan Drysorlys EM.

 Yn ôl i frig y dudalen

Mynediad

Er mwyn manteisio i’r eithaf ar eich Tystysgrifau Cynilo, mae angen i chi fuddsoddi'ch arian am gyfnod llawn y tymor rydych yn ei ddewis. Gallwch eu cyfnewid am arian yn gynnar, ond byddwch yn ennill cyfradd is o adenillion. Os byddwch yn eu cyfnewid am arian ar ôl y flwyddyn gyntaf, ond cyn i'ch Tystysgrif aeddfedu, byddwch yn ennill llog am bob cyfnod cyflawn o fis. Os byddwch yn eu cyfnewid am arian yn ystod y flwyddyn gyntaf, ni fyddwch yn ennill unrhyw log na mynegrifo. Er mwyn cyfnewid Tystysgrif a ddelir ar y cyd am arian, mae angen i'r ddau fuddsoddwr arwyddo'r ffurflen.

 Yn ôl i frig y dudalen

Beth sy’n digwydd ar ddiwedd bob tymor

Byddwn yn ysgrifennu atoch ychydig cyn i'ch Tystysgrifau Cynilo aeddfedu i roi gwybod i chi pa gynigion sydd ar gael ar yr adeg honno. Bydd gennych nifer o ddewisiadau:

  • Parhau â'ch buddsoddiad am dymor arall o'r un hyd
  • Ailfuddsoddi mewn Tystysgrif Cynilo Mynegrifol am dymor gwahanol
  • Ailfuddsoddi mewn Tystysgrif Cynilo Llog Sefydlog - am fwy o wybodaeth am y rhain, ewch i Tystysgrifau Cynilo Llog Sefydlog neu ffoniwch 0845 964 5000
  • Ailfuddsoddi yn un o'n cynhyrchion eraill
  • Cyfnewid eich buddsoddiad am arian

Os na fyddwn yn clywed oddi wrthych erbyn diwedd tymor buddsoddi'r Dystysgrif, bydd eich Tystysgrif yn ennill llog ar y gyfradd sy’n cael ei chynnig am dymor arall o’r un hyd.

  Yn ôl i frig y dudalen

Ynghylch telerau ac amodau

Darllenwch y telerau ac amodau cyn i chi fuddsoddi. Os byddwn ni'n gwneud unrhyw newidiadau i'r telerau ac amodau ar ôl i chi fuddsoddi, fe wnawn adael i chi wybod. Os bydd unrhyw newid yn achosi anfantais i chi, byddwn yn rhoi gwybod i chi'n bersonol o leiaf 30 diwrnod cyn y newid. Yn yr achos hwn, gallwch newid i gynnyrch arall neu gyfnewid eich Bond am arian heb rybudd na chosb, o fewn 60 diwrnod ar ôl i ni roi gwybod i chi. Os caiff unrhyw newidiadau eraill eu gwneud, byddwn yn rhoi gwybod i'n cwsmeriaid drwy roi hysbysiad ar ein gwefan ac mewn ystod o bapurau newydd cenedlaethol.

  Yn ôl i frig y dudalen

Diogelu’ch gwybodaeth bersonol

Pan fyddwch chi’n dod yn un o’n cwsmeriaid, byddwn yn cadw’r holl wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch yn breifat ac yn gyfrinachol. Cliciwch yma am fanylion am ein polisi Cyfrinachedd.

  Back to top

Y Cod Bancio

Mae Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol yn tanysgrifio i’r Cod Bancio ac mae gennym drefn gwyno ffurfiol gyda chynllun cyflafareddu annibynnol. Cliciwch yma am fanylion pellach y Cod neun trefn gwyno.

Yn ôl i frig y dudalen 

 Hafan    Argraffu    E-bostio i gyfaill  

Chwilio