![]() |
Ein hystod
/
Bondiau Incwm
/
Sut maent yn gweithioMae Bondiau Incwm yn darparu incwm misol ar gyfradd llog amrywiol gystadleuol, heb unrhyw berygl i’ch cyfalaf. Incwm IncwmByddwn yn talu eich incwm yn syth i’ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu neu Gyfrif Buddsoddi neu Gyfrif Cynilo Mynediad Rhwydd Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol, os yw'n well gennych, ar y 5ed o bob mis (neu'r diwrnod gwaith nesaf os yw'r 5ed yn digwydd ar benwythnos neu wyl y banc). Rhowch wybod i ni wrth wneud cais i ba gyfrif yr hoffech i'ch incwm gael ei dalu. Yn ôl i frig y dudalenLlogBydd eich arian yn ennill llog yn ddyddiol, a byddwn yn dechrau ei gyfrifo o'r diwrnod y daw eich cais a'ch buddsoddiad i law. Mae'r cyfraddau yn amrywiol felly gallant newid o bryd i'w gilydd. Byddwn yn rhoi chwe wythnos o rybudd am unrhyw newid drwy hysbysebu mewn papurau newydd. Byddwn hefyd yn ysgrifennu atoch cyn i unrhyw newid ddod i rym. Cliciwch yma am fanylion cyfraddau llog cyfredol, neu codwch ein taflen cyfraddau llog o unrhyw gangen o Swyddfa'r Post® Yn ôl i frig y dudalenLlog bonwsWrth reswm, po fwyaf rydych yn ei fuddsoddi mewn Bondiau Incwm, y mwyaf fydd eich incwm bob mis. Ond mae bonws ychwanegol i'w gael wrth fuddsoddi mwy - os ydych yn buddsoddi £25,000 neu fwy, fe dalwn gyfradd llog uwch. Er mwyn gweld beth yw’r cyfraddau cyfredol cliciwch ar cyfraddau llog, neu ffoniwch ni ar 0845 964 5000, neu codwch ein taflen cyfraddau llog o unrhyw gangen o Swyddfa'r Post ®. Yn ôl i frig y dudalenPwy sy’n cael buddsoddi?Gall unrhyw un sy’n saith oed neu’n hyn fuddsoddi mewn Bondiau Incwm, un ai'n unigol neu ar y cyd ag un person arall. Gellir prynu Bondiau ar ran plant o dan saith oed hefyd. Gellir eu prynu gan ymddiriedolwyr hefyd ar ran hyd at ddau fuddiolwr personol o unrhyw oedran. Yn ôl i frig y dudalenTrethEr bod y llog yn drethadwy, nid ydym yn tynnu dreth - felly os nad ydych yn drethdalwr, nid oes yn rhaid i chi lenwi ffurflen Cyllid y Wlad er mwyn derbyn eich llog gros. Os ydych yn drethdalwyr bydd angen i chi ddatgelu'r llog i Gyllid y Wlad. Byddwn yn anfon cyfriflen atoch cyn diwedd mis Mai bob blwyddyn, yn dangos faint o log rydych wedi'i ennill. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am dreth a chynilion. Yn ôl i frig y dudalenTerfynau buddsoddiGallwch fuddsoddi unrhyw swm rhwng £500 a £1,000,000, yn unigol neu ar y cyd. Yn ôl i frig y dudalenSicrwydd 100%Bydd unrhyw arian rydych yn ei fuddsoddi mewn Bondiau Incwm 100% yn ddiogel. Dim ond Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol sy'n gallu gwneud yr addewid hwn, am fod ein buddsoddiadau yn cael eu cefnogi gan Drysorlys EM. Yn ôl i frig y dudalenMynediadGallwch gyfnewid eich Bondiau am arian unrhyw amser heb gosb. Y cyfan rydym yn ei ofyn yw eich bod yn rhoi chwe wythnos o rybudd. Gallwch eu cyfnewid am arian heb rybudd hefyd - ond bydd cosb sy'n cyfateb i chwe wythnos o log yn cael ei dynnu o'r swm sydd i'w gyfnewid am arian. Mae’n rhaid i’r ddau fuddsoddwr lofnodi er mwyn cyfnewid Bond a ddelir ar y cyd am arian. Yn ôl i frig y dudalenYnghylch y telerau ac amodauDarllenwch y telerau ac amodau cyn i chi fuddsoddi. Os byddwn ni'n gwneud unrhyw newidiadau i'r telerau ac amodau ar ôl i chi fuddsoddi, fe wnawn adael i chi wybod. Os bydd unrhyw newid yn achosi anfantais i chi, byddwn yn rhoi gwybod i chi'n bersonol o leiaf 30 diwrnod cyn y newid. Yn yr achos hwn, gallwch newid i gynnyrch arall neu gyfnewid eich Bond am arian heb rybudd na chosb, o fewn 60 diwrnod ar ôl i ni roi gwybod i chi*. Os caiff unrhyw newidiadau eraill eu gwneud, byddwn yn rhoi gwybod i'n cwsmeriaid drwy roi hysbysiad ar y wefan hon ac mewn ystod o bapurau newydd cenedlaethol. * Sylwch, nid yw hyn yn berthnasol i newidiadau mewn cyfraddau llog, a fydd yn cael eu nodi ar y wefan hon, mewn canghennau o Swyddfa'r Post® ac mewn ystod o bapurau newydd cenedlaethol. Yn ôl i frig y dudalenDiogelu’ch gwybodaeth bersonolPan fyddwch chi’n dod yn un o’n cwsmeriaid, byddwn yn cadw’r holl wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch yn breifat ac yn gyfrinachol. Cliciwch yma am fanylion am ein polisi cyfrinachedd. Yn ôl i frig y dudalenY Cod BancioMae Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol yn tanysgrifio i’r Cod Bancio ac mae gennym drefn gwyno ffurfiol gyda chynllun cyflafareddu annibynnol. Cliciwch yma am fanylion pellach y Cod neu’n trefn gwyno. Yn ôl i frig y dudalen |
ChwilioBuddsoddwch nawrManteision
Canllaw Buddsoddwyr
Diogelwch
|
|
||||||||||||||||||||||||||||||||

