|
Ein hystod
/
Bondiau Incwm
/
Bondiau Incwm - Buddsoddwch nawrGallwch wneud cais ar-lein nawr — mae’n hawdd ac yn ddiogel ac ni fydd yn cymryd ond ychydig o funudau i’w llenwi. Bondia Bydd angen y canlynol arnoch:
Sylwch na allwch wneud cais ar-lein i ddal Bondiau Incwm mewn ymddiriedaeth neu eu prynu ar ran plentyn. Cliciwch yma am ffyrdd o wneud cais mewn ymddiriedolaeth neu ar ran plentyn. 15 Awst 2005 Disgrifiad1. Mae Bondiau Incwm (“Bondiau”) Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (Cynilion Cenedlaethol gynt) yn warant Llywodraeth y DU a gyhoeddir o dan Ddeddf Benthyciadau Cenedlaethol 1968. Mae Bondiau’n cael eu cofrestru ar Gofrestr Stoc Cynilion Cenedlaethol ac yn amodol ar Reoliadau Cofrestr Stoc Cynilion Cenedlaethol 1976 (Rhif Offeryn Statudol: 1976/2012) fel y'u diwygir neu eu hailddeddfir o bryd i'w gilydd (gweler paragraff 35). Os oes gwahaniaeth rhwng y telerau ac amodau hyn a’r Rheoliadau, y Rheoliadau fydd yn ddilys. 2. Yn y telerau ac amodau hyn: (a) golyga “Cyfarwyddwr” y Cyfarwyddwr Cynilion; (b) golyga “CBC” Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol yn gweithredu trwy ei swyddfa yn Blackpool neu gyfryw swyddfa arall y gallai’r Cyfarwyddwr ei phennu. Llog a Threth Incwm y DU3. Mae Bondiau’n ennill llog ar gyfradd amrywiol a bennir gan y Trysorlys (“cyfradd y Trysorlys”). Am bob diwrnod y mae Bondiau’n cael eu dal o dan yr un Rhif Cwsmer (Rhif Cofrestru gynt), ac mae cyfanswm eu gwerth cyfalaf yn £25,000 o leiaf, byddant hefyd yn ennill llog ar gyfradd bonws amrywiol a bennir gan y Trysorlys (“y gyfradd fonws”). Mae’r llog, a delir yn fisol fel ôl-daliad, yn cael ei ennill yn ddyddiol yn ôl 1/365 o’r gyfradd llog flynyddol am bob diwrnod y’u delir (neu 1/366 ar gyfer bob diwrnod mewn blwyddyn naid). Mae hyn yn cynnwys diwrnod y buddsoddiad ond nid y diwrnod y cyfnewidir y Bond am arian. 4. O bryd i’w gilydd, gall y Trysorlys newid cyfradd y Trysorlys, newid neu ddileu y gyfradd fonws a newid y gwerth cyfalaf cymwys ar gyfer y gyfradd fonws, drwy roi chwe wythnos o rhybudd yn unol â pharagraff 34. Caiff manylion y cyfraddau sy’n gymwys o bryd i’w gilydd eu cyhoeddi yn ein taflen Cyfraddau Llog sydd ar gael mewn swyddfeydd post ac o CBC. 5. O bryd i’w gilydd, gall y Trysorlys newid y cyfnod rhwng pob taliad llog, ynghyd â’r diwrnod o’r mis y’i telir (gweler paragraff 6), drwy roi rhybudd yn unol â pharagraff 34. Wrth wneud hyn, gall y Trysorlys nodi terfynau dal y bydd unrhyw newid yn gymwys p’un ai ydynt yn uwch neu’n is na nhw. Ni fydd unrhyw newid o’r fath yn gymwys i Fond rydych eisoes yn ei ddal oni bai eich bod yn cytuno. 6. Yn amodol ar baragraff 5, telir llog ar y 5ed diwrnod o bob mis (“dyddiad talu llog”). Os yw’r diwrnod hwnnw’n digwydd ar ddiwrnod nad yw’n ddiwrnod bancio, efallai na fydd yr arian yn cyrraedd eich cyfrif hyd y diwrnod bancio nesaf. Gall y Cyfarwyddwr dalu’r llog y mae’ch Bond yn ei ennill yn ystod y cyfnod o chwe wythnos yn dechrau ar ddyddiad y buddsoddiad ar y diwrnod talu llog cyntaf ar ôl y cyfnod hwn. Golyga “diwrnod Bancio” ddiwrnod (heblaw am ddydd Sadwrn neu ddydd Sul) lle bo banciau ar agor ar gyfer busnes yn Llundain ac, o safbwynt prosesu taliad, unrhyw fan arall sy’n derbyn. 7. Gallwch ddal mwy nag un Bond o dan yr un Rhif Cwsmer os ydynt yn cael eu dal o dan yr un enw neu, os ydynt yn cael eu dal ar y cyd, o dan yr un enwau (ac yn achos ymddiriedolaeth, ar gyfer yr un buddiolwyr o dan yr un ymddiriedolaeth). Er mwyn cofrestru unrhyw fuddsoddiad ychwanegol mewn Bond o dan Rif Cwsmer presennol, bydd yn rhaid i chi ddyfynnu’r rhif wrth wneud eich cais. Os oes gennych ddaliad o dan Rifau Cwsmer gwahanol, a’ch bod eisiau i’r daliad gael un Rhif Cwsmer, dylech wneud cais o dan baragraff 32. Y dyddiad cyntaf yr ystyrir bod gan y daliad yr un Rhif Cwsmer, fel arfer, fydd y dyddiad talu llog cyntaf ar ôl cael y cais. Cyfrifoldeb y deiliad yw sicrhau bod Bondiau yn cael eu dal o dan yr un Rhif Cwsmer. 8. Bydd llog yn cael ei dalu trwy gredyd uniongyrchol i gyfrif banc (gan gynnwys Cyfrif Buddsoddi Banc Cynilion Cenedlaethol) neu gyfrif cymdeithas adeiladu. Mae’r Cyfarwyddwr yn bwriadu defnyddio’r Gwasanaeth Clirio Bancwyr Wedi’i Awtomeiddio (BACS) i’r pwrpas hwn, felly mae’n rhaid i’r cyfrif rydych yn ei enwi ar eich cais fod yn gymwys i dderbyn taliad trwy ddefnyddio’r dull hwn. Fodd bynnag, os ydych eisoes yn berchen Bond, y telir llog arno trwy warant, gallwch drefnu i log unrhyw Fond a ddelir o dan y telerau ac amodau hyn gael ei dalu yn yr un ffordd. Dim ond un cyfrif neu ddull o dalu y cewch ei ddewis ar gyfer pob daliad Bondiau. Gallwch newid y dull o dalu llog ar eich Bond ond ni chewch ddewis taliad trwy warant, oni bai eich bod yn dal Bond a gyhoeddwyd dan delerau ac amodau (dyddiedig cyn 1 Ionawr 1990) sy’n darparu ar gyfer taliad trwy warant. 9. Bydd llog yn cael ei dalu heb dynnu treth. Fodd bynnag, mae’n amodol ar Dreth Incwm y DU felly bydd rhaid i fuddsoddwyr ddatgan eu llog i Gyllid y Wlad. Pwy sy’n cael buddsoddi mewn Bondiau10. Unigolion. Os ydych yn unigolyn, ac yn 7 oed o leiaf, gallwch fuddsoddi mewn Bond: (a) yn eich enw eich hun; neu (b) ar y cyd gydag un unigolyn arall. Gallwch ddal mwy nag un Bond yn un neu ddau o’r categorïau hyn. 11. Plant . Ni all plentyn o dan 7 oed fuddsoddi mewn Bond. Gellir buddsoddi mewn Bond ar ran plentyn o dan 7 oed i’w ddal yn enw’r plentyn, ac fel eiddo’r plentyn. Gellir gwneud buddsoddiad yn yr un modd ar gyfer dau o blant, i’w ddal yn eu henwau ar y cyd. 12. Ymddiriedolwyr. Os ydych yn ymddiriedolwr, gallwch fuddsoddi mewn Bond fel ymddiriedolwr naill ai ar eich pen eich hun neu ar y cyd ag un neu fwy o ymddiriedolwyr eraill. Gall ymddiriedolwr corfforaethol fuddsoddi mewn Bond hefyd. Gall ymddiriedolaeth gael hyd at ddau fuddiolwr y mae’n rhaid iddynt fod yn unigolion (ond mae buddiolwr nad yw ond yn cael budd pan fo buddiolwr arall yn marw, yn cael ei ddiystyru ar gyfer pwrpas y terfyn hwn). 13. Derbynwyr. Os ydych yn dderbyniwr (neu berson arall ag awdurdod yn yr ystyr hwnnw) ar gyfer person ag anhwylder meddyliol, gallwch fuddsoddi mewn Bond ar ran ac yn enw’r person hwnnw. 14. Eraill. Ni all cyrff, corfforaethol neu anghorfforedig, fuddsoddi mewn Bond, ond os ydynt eisoes yn berchen Bond (heblaw am un a gyhoeddwyd o dan y telerau ac amodau hyn) a bydd y Bond newydd yn cael ei ddal o dan yr un enw (ac yn achos ymddiriedolaeth, ar gyfer yr un buddiolwyr o dan yr un ymddiriedolaeth) â’r Bond a ddelir eisoes. 15. Cyffredinol. Yn amodol ar baragraffau 10 i 14 (yn gynwysedig), ni chaiff person ag anabledd cyfreithiol fuddsoddi mewn Bond. Sut i fuddsoddi16. Gallwch fuddsoddi mewn Bond drwy wneud cais ar y rhyngrwyd, dros y ffôn neu drwy’r post i CBC. Pan fyddwch yn gwneud cais dros y rhyngrwyd, rhaid i chi gadarnhau eich cais drwy lofnodi a dychwelyd ffurflen gadarnhau y byddwn yn ei hanfon atoch drwy’r post. Efallai y byddwn yn ysgrifennu atoch i ofyn am dystiolaeth ddogfennol o bwy ydych chi a’ch cyfeiriad. Bydd y ffurflen a/neu lythyr a fydd yn gofyn am dystiolaeth o bwy ydych chi yn nodi o fewn pa gyfnod y bydd angen dychwelyd y ffurflen a/neu’r dystiolaeth i CBC. Os na dderbynnir y ffurflen a/neu’r dystiolaeth o fewn y cyfnod penodedig ni fydd y Cyfarwyddwr yn gallu derbyn eich cais. 17. Ym mhob achos, mae cais i fuddsoddi yn amodol ar gael ei dderbyn gan y Cyfarwyddwr. Os caiff ei dderbyn, y dyddiad buddsoddi fydd: (a) ar gyfer ceisiadau a anfonir drwy’r post, y dyddiad y cyrhaeddodd eich cais a'ch taliad swyddfa CBC; (b) ar gyfer ceisiadau ar y rhyngrwyd, y dyddiad y cafodd CBC eich cais ar-lein, gan gynnwys awdurdod am daliad cerdyn debyd; (c) ar gyfer ceisiadau a wneir dros y ffôn, y dyddiad cyntaf y nododd CBC fanylion eich cais, gan gynnwys awdurdod i dalu gyda cherdyn debyd; 18. Byddwn yn anfon tystysgrif buddsoddi yn dangos y gwerth a’r dyddiad buddsoddi atoch. Terfynau buddsoddi a dal19. Yr isafswm y gallwch ei fuddsoddi mewn Bond yw £500. Y daliad Bondiau isaf a ganiateir (er enghraifft ar ôl cyfnewid yn rhannol am arian) yw £500. 20. Ni chewch fuddsoddi mewn neu ddal Bond pe bai hynny’n golygu y byddech chi wedyn yn dal, yn yr un cymhwyster cyfreithiol, un ai ar eich pen eich hun neu ar y cyd â pherson arall, fwy na £1,000,000 mewn Bondiau. Ystyrir bod gan ymddiriedolwr cronfeydd ar wahân gymhwyster cyfreithiol gwahanol ar gyfer pob cronfa. 21. Ni fydd Bond rydych yn ei etifeddu gan ddeiliad a fu farw yn cyfrif tuag at uchafswm eich daliad. Hefyd, ni fydd Bond rydych yn ei ddal fel ymddiriedolwr yn effeithio ar y swm y cewch ei ddal fel buddiolwr. Yn ogystal â hyn, ni fydd Bond a ddelir ar gyfer buddiolwr yn cyfrif tuag at ddaliad uchaf y buddiolwr yn ei enw’i hun. Er bod y terfyn dal uchaf yn berthnasol i ddaliadau ymddiriedolaeth, bydd pob ymddiriedolaeth yn cael ei thrin ar wahân. Cyfnewid am arianGyda rhybudd 22. Gallwch gyfnewid Bond am arian drwy roi chwe wythnos o rybudd yn unol â pharagraff 25. Heb rybudd 23. Fel arall, gallwch gyfnewid Bond am arian heb rybudd, ond, heblaw pan fo paragraff 25 yn gymwys, tynnir swm sy’n cyfateb i chwe wythnos (42 diwrnod) o log ar y swm y gofynnir amdano ar y gyfradd y mae’r Bond yn ei hennill ar y diwrnod y’i cyfnewidir am arian o’r swm sy’n cael ei gyfnewid. 23. Bydd gwerth cyfalaf Bond sydd i’w gyfnewid am arian yn ennill llog o dan baragraffau 3 i 5 (yn gynwysedig) o ddyddiad y buddsoddiad hyd at ond heb gynnwys y diwrnod y’i cyfnewidir am arian. Bydd unrhyw log a enillwyd ond na thalwyd eisoes yn cael ei ychwanegu at y cyfalaf sydd i’w gyfnewid am arian. Nid oes angen rhybudd; (a) os ydych yn rhoi cyfarwyddiadau i gyfnewid am arian ar ôl marwolaeth unig ddeiliad cofrestredig, neu’r deiliad olaf i oroesi; neu (b) pan fo’r Bond wedi’i gofrestru fel un sy’n cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth a bod y cyfarwyddyd i gyfnewid y Bond am arian yn cael ei wneud ar ôl marwolaeth unig fuddiolwr, neu’r deiliad olaf i oroesi. Cyfnewid rhan o’r Bond am arian 24. Gallwch roi cyfarwyddiadau i ni yn unol â pharagraff 25 i gyfnewid rhan o Fond am arian. Yr isafswm y gellir ei gyfnewid am arian yw £500 ac mae’n rhaid gadael buddsoddiad o £500 o leiaf mewn Bondiau. 25. Dylid rhoi cyfarwyddiadau i gyfnewid Bondiau am arian trwy lenwi’r ffurflen ar gefn y dystysgrif buddsoddi a’i hanfon i swyddfa CBC. Os yn gymwys, bydd y cyfnod rhybudd yn cychwyn ar y dyddiad mae CBC yn cael eich cyfarwyddiadau. Os na ellir atal taliad llog rhag cael ei wneud ar ôl y dyddiad diwethaf yr enillir llog, bydd unrhyw ordaliadau yn cael eu tynnu o’r swm i’w gyfnewid am arian. Talu 26. Telir fel arfer trwy gredyd uniongyrchol i gyfrif banc (gan gynnwys Cyfrif Buddsoddi Banc Cynilion Cenedlaethol) neu gyfrif cymdeithas adeiladu a enwir gennych yn y cyfarwyddiadau i gyfnewid am arian. Mae’r Cyfarwyddwr yn bwriadu defnyddio’r Gwasanaeth Clirio Bancwyr Wedi’i Awtomeiddio (BACS) i’r pwrpas hwn, ond mae’n cadw’r hawl i ddefnyddio dulliau eraill o drosglwyddo’n electronig. 27. Ar gyfer pwrpas penderfynu beth yw’r swm sy’n daladwy, y dyddiad y cyfnewidir Bond neu ran o Fond am arian fydd: (a) os gofynnwch am gael cyfnewid y Bond am arian ar ddiwedd cyfnod o rybudd, y dyddiad hwnnw hyd yn oed os oedir talu tan y diwrnod bancio nesaf oherwydd bod y dyddiad yn digwydd ar ddiwrnod nad yw’n ddiwrnod bancio; ac mewn unrhyw achos arall, y dyddiad y byddai’r taliad fel rheol yn cael ei gredydu i’r cyfrif a enwir ar ôl i’r Cyfarwyddwr roi’r trosglwyddiad electronig ar waith. Yn achos BACS, bydd hyn fel arfer ddau ddiwrnod bancio ar ôl i’r Cyfarwyddwr roi’r trosglwyddiad ar waith. 28. Lle bydd y Cyfarwyddwr yn rhoi trosglwyddiad electronig ar waith yn gywir, ni fydd ef na’r Trysorlys yn gyfrifol am; (a) unrhyw fethiant neu oedi ar ran y banc neu gymdeithas adeiladu sy’n derbyn yr arian i gredydu’r cyfrif a enwir; neu (b) unrhyw fethiant neu oedi mewn unrhyw ran o’r broses trosglwyddo electronig sydd y tu hwnt i reolaeth uniongyrchol y Cyfarwyddwr; gan gynnwys unrhyw fethiant sydd yn digwydd oherwydd nad yw’r cyfrif a enwir yn gallu derbyn trosglwyddiad electronig. 29. Gellir gofyn am daliad trwy warant wedi’i chroesi (fel siec), gyda chaniatâd y Cyfarwyddwr. Mewn achosion felly cymerir y dyddiad y cyfnewidir y Bond neu ran o’r Bond am arian fel y dyddiad ar y warant. Plant30. Bydd llog ar Fond a ddelir yn enw plentyn dan 7 oed, neu gan ddau blentyn o’r fath ar y cyd, yn cael ei dalu i mewn i gyfrif cymdeithas adeiladu neu fanc (yn cynnwys Cyfrif Buddsoddi Banc Cynilion Cenedlaethol) yn enw’r plentyn neu yn enw person sy’n bodloni’r Cyfarwyddwr ei fod ef neu hi yn berson addas i gael taliad. 31. Bydd Bond a ddelir gan blentyn o dan 7 oed, un ai’n unigol neu ar y cyd ag unrhyw berson arall, yn cael ei ad-dalu yn unig i berson sy’n bodloni’r Cyfarwyddwr ei fod ef neu hi yn berson addas i dderbyn taliad. Trosglwyddo32. Yn amodol ar baragraffau 19 i 21 (yn gynwysedig), rhaid cael caniatâd y Cyfarwyddwr i drosglwyddo Bond i rywun arall, neu o un Rhif Cwsmer i’r llall. Bydd y Cyfarwyddwr, er enghraifft, fel arfer yn rhoi caniatâd os etifeddir y Bondiau ar ôl marwolaeth deiliad, neu drosglwyddo i elwa o log bonws i enw arall. Ni fydd y Cyfarwyddwr fel arfer yn caniatáu trosglwyddiad os yw’r Bond yn cael ei werthu. Oes warantedig Bondiau ac adbryniant gan y Trysorlys33. Cewch ddal eich Bond am o leiaf 10 mlynedd o’r dyddiad buddsoddi. Wrth roi chwe mis o rybudd, yn unol â pharagraff 34, gall y Trysorlys adbrynu eich Bond ar unrhyw ddyddiad talu llog ar ôl y cyfnod hwn o ddeng mlynedd. Bydd llog yn parhau i gael ei dalu o dan y telerau ac amodau hyn hyd y dyddiad adbrynu. Bydd y Cyfarwyddwr yn ysgrifennu atoch cyn adbrynu, yn y cyfeiriad diwethaf a gofnodwyd ar eich cyfer, er mwyn eich hysbysu o’r dyddiad adbrynu. Rhybudd gan y Trysorlys34. Bydd y Trysorlys yn rhoi unrhyw rybudd sy’n ofynnol o dan baragraffau 4, 5 neu 33 o’r telerau ac amodau hyn yn Newyddiaduron Llundain, Caeredin a Belfast, neu drwy unrhyw ddull y credant sy’n briodol. Os rhoddir rhybudd mewn man gwahanol i’r Newyddiaduron, caiff ei gofnodi ynddynt cyn gynted â phosibl ar ôl hynny. Rheoliadau35. Ar 1 Tachwedd 2004, diwygiwyd Rheoliadau Cofrestr Stoc Cynilion Cenedlaethol 1976 (Rhif Offeryn Statudol 1976/2012) gan yr Offerynnau Statudol hyn:
Y gyfraith ac awdurdodaeth36. Bydd y telerau ac amodau hyn ac unrhyw gytundeb a wneir ar eu sail yn cael eu rheoli a'u dehongli yn unol â chyfraith Lloegr. 37. Yn amodol ar baragraffau 38 a 39, bydd gan lysoedd Lloegr awdurdod unigryw i ddatrys unrhyw ddadl (gan gynnwys hawliadau cydbwyso a gwrth-hawliadau) a all godi mewn cysylltiad â'r telerau ac amodau hyn neu unrhyw gytundeb a wneir ar eu sail ac sydd, yn amodol ar y Rheoliadau, yn cael ei benderfynu gan lys cyfraith. 38. Lle bo adran 16 Deddf Awdurdodaeth Sifil a Dyfarniadau 1982 yn gymwys, llys cyfraith perthnasol yn y rhan berthnasol o'r Deyrnas Unedig fydd ag awdurdod i ddatrys unrhyw anghydfod o'r fath. 39. Mae paragraffau 37 a 38 yn cael eu cynnwys er budd CBC. Yn unol â hyn, mae CBC yn cadw'r hawl i ddwyn achos yn unrhyw lys arall sydd ag awdurdod yr ymostwng y deiliad yn derfynol iddo. Bondiau Incwm 15 Awst 2005 CADWCH AR GYFER EICH COFNODION Rwyf/Rydym yn derbyn y telerau ac amodau dyddiedig 1 Ionawr 2005 ac yn caniatáu bod f’enw/ein henwau a’m/a’n cyfeiriad yn cael eu gwirio fel y nodwyd o dan Prawf o’ch enw a’ch cyfeiriad. |
Chwilio |
|
||||||||||||||||||||||||||||||||
