National Savings and Investments
 


Ein hystod / Bondiau Ecwiti Gwarantedig /

Cipolwg

120% o unrhyw dwf ym mynegrif 100 Cwmni’r FTSE heb risg i’ch cyfalaf

Nawr mae ffordd i elwa ar dwf posibl a gynigir gan y farchnad stoc wrth gadw’ch cyfalaf yn gwbl ddiogel sef y Bond Ecwiti Gwarantedig (BEG) sy’n gysylltiedig â’r FTSE gan Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol.

Mae’r cyhoeddiad diweddaraf o’n Bond Ecwiti Gwarantedig – Cyhoeddiad 12 – yn cynnig adenillion gros* sy’n gyfwerth â 120% o unrhyw dwf ym mynegrif 100 Cwmni’r FTSE dros y tymor buddsoddi 5 mlynedd – ni waeth pa mor uchel yr aiff y FTSETM. Ac os bydd mynegrif 100 Cwmni’r FTSE yn gostwng, cewch eich buddsoddiad gwreiddiol yn ôl yn llawn – mae hyn yn warantedig. Mae’r adenillion yn ddarostyngedig i gyfartaleddu.

Mae cyfle buddsoddi fel hyn yn rhy dda i’w golli. Ond mae’n rhaid i chi weithredu’n gyflym. Mae Cyhoeddiad 12 ein BEG ar gael am gyfnod cyfyngedig yn unig – mae’r cynnig yn cau ar 24 Ebrill 2007, neu’n gynt os bydd y tanysgrifiad yn llawn.

Pam dewis y cynnyrch hwn?

Os ydych am dwf posibl sy’n gysylltiedig â mynegrif 100 Cwmni’r FTSE wrth gadw’ch cyfalaf yn gwbl ddiogel

Pwy sy’n cael buddsoddi? 

Unrhyw un sy’n 18 oed neu’n h?n

Y lleiafswm i’w fuddsoddi 

£1,000

Yr uchafswm i’w fuddsoddi

£1,000,000 (neu £2 filiwn ar y cyd)

Tymor buddsoddi                 5 mlynedd, heb godi arian yn ystod y tymor
Adenillion posibl  120% o unrhyw dwf ym mynegrif 100 Cwmni’r FTSE dros y tymor buddsoddi 5 mlynedd

Statws treth

Trethadwy, telir yn gros

* Bydd yr holl adenillion yn agored i Dreth Incwm y DU pan fydd y Bond wedi aeddfedu, ond fe’u telir yn gros (h.y. heb dynnu treth).

 Hafan    Argraffu    E-bostio i gyfaill  

Chwilio