National Savings and Investments
 


Ffyrdd eraill o wneud cais

Ar-lein

Mae gwneud cais ar-lein yn gyflym ac yn hawdd. Mae help ar gael trwy gydol y broses ac os byddwch yn methu mynd gam ymhellach, galwch ni a bydd aelod o’n tîm gwasanaeth cwsmeriaid yn gorffen y cais i chi dros y ffôn.  

Ffôn

Mae’n hawdd gwneud cais am Dystysgrifau Cynilo Llog Sefydlog dros y ffôn ac nid yw’n cymryd ond ychydig o funudau. Ffoniwch:

0845 964 5000
(Mae llinellau ar agor o 7 o’r gloch y bore hyd hanner nos, 7 niwrnod yr wythnos)


Bydd ein tîm gwasanaeth cwsmeriaid yn ateb unrhyw gwestiynau olaf sydd gennych ac yn eich helpu drwy’r broses werthu. Sicrhewch fod gennych y wybodaeth ganlynol wrth law:

  • Manylion eich cerdyn debyd (Maestro/Switch neu Visa Debit)
  • Os ydych eisoes yn dal Tystysgrifau Cynilo Llog Sefydlog, rhowch rif y deiliad

Post

Os ydych am dalu â siec a/neu wneud cais am Dystysgrifau Cynilo i’w dal mewn ymddiriedaeth neu ar ran plentyn, bydd yn rhaid i chi anfon eich ffurflen gais trwy’r post. Cliciwch ar y ffurflen gais isod i argraffu copi. Os ydych yn byw y tu allan i’r DU, bydd yn rhaid i chi anfon eich cais trwy’r post, ynghyd â thystiolaeth ddogfennol o’ch enw a’ch cyfeiriad. Cliciwch yma i gael gwybod pa ddogfennau y bydd yn rhaid i chi eu hanfon. Sylwch ni allwch ddefnyddio’r ffurflen hon mewn canghennau o Swyddfa’r Post ® . Fel arall, codwch lyfryn mewn cangen leol o Swyddfa’r Post ® neu ffoniwch 0845 964 5000 ac fe anfonwn ni un atoch. Mae’r llyfryn yn cynnwys ffurflen gais ac amlen ragdaledig er hwylustod.

Llenwch y ffurflen a’i hanfon ynghyd â’ch siec neu fanylion eich cerdyn debyd, at

Savings Certificates
National Savings and Investments
FREEPOST DU51
Durham
DH99 1BR

 

Swyddfa’r Post ®

Gellir prynu’r mwyafrif o’n cynilion a’n buddsoddiadau dros y cownter mewn cangen leol o Swyddfa’r Post® hefyd.

 

Acrobat Reader

Mae'r dudalen hon yn cynnwys ffeiliau PDF (Portable Document Format) a bydd angen Adobe Reader® arnoch i'w darllen.

Os nad oes gennych Adobe Reader ar eich cyfrifiadur, ewch i wefan Adobe website i gael y rhaglen am ddim.

 Hafan    Argraffu    E-bostio i gyfaill  

Chwilio