![]() |
Ein hystod
/
Tystysgrifau Cynilo Cyfradd Sefydlog
/
Sut maent yn gweithioMae Tystysgrifau Cynilo Llog Sefydlog yn rhoi adenillion rhydd o dreth i chi yn ôl cyfraddau llog gwarantedig. Gallwch eu dal yn ychwanegol at unrhyw fuddsoddiadau eraill rhydd o dreth sydd gennych eisoes. Tymhorau buddsoddi Tymhorau buddsoddiRydym yn cynnig Tystysgrifau Cynilo gyda dewis o ddau dymor, sef 2 flynedd a 5 mlynedd ar hyn o bryd. Gallwch ddewis pa dymor sydd fwyaf addas i chi. Neu gallwch fuddsoddi yn y ddau. Yn ôl i frig y dudalenCyhoeddiadauMae pob tymor yn cael ei werthu mewn Cyhoeddiadau. Byddwn yn cyflwyno Cyhoeddiad newydd bob tro y byddwn yn newid ein cyfraddau llog sefydlog. Nid yw hyn yn effeithio ar gyfraddau llog unrhyw Dystysgrifau Cynilo sydd gennych eisoes - maent yn warantedig. Ond mae'n golygu y gallwch fuddsoddi yn y Cyhoeddiad newydd ar y cyfraddau newydd, sy'n caniatáu i chi gynilo mwy o arian yn rhydd o dreth. Yn ôl i frig y dudalenPwy sy’n cael buddsoddi?Gall unrhyw un sy'n saith oed neu’n hyn fuddsoddi mewn Tystysgrifau Cynilo, un ai'n unigol neu ar y cyd. Mae modd eu prynu ar ran plentyn o dan saith oed hefyd. Bydd y plentyn yn dod yn gyfrifol amdanynt ar ei ben-blwydd yn saith oed. Gallwch brynu Tystysgrifau Cynilo fel ymddiriedolwr hefyd. Yn ôl i frig y dudalenManteision rhydd o drethGyda Thystysgrifau Cynilo Llog Sefydlog, mae pob ceiniog o log rydych yn ei hennill yn eiddo i chi. Os ydych yn drethdalwr cyfradd sylfaenol, mae hynny'n golygu adenillion rhydd o dreth o ryw 3.6% sydd yr un fath ag adenillion trethadwy o 4.5% gros. Os ydych yn talu treth ar y gyfradd uwch, bydd yr adenillion yn werth 6.0% gros. Am y cyfraddau cyfredol sydd ar gael gwelwch cyfraddau llog. Yn ôl i frig y dudalenTerfynau buddsoddiGallwch fuddsoddi unrhyw swm rhwng £100 a £15,000 ym mhob Cyhoeddiad o Dystysgrifau Cynilo Llog Sefydlog. Po fwyaf y byddwch yn ei fuddsoddi, mwyaf o log rhydd o dreth y byddwch yn ei ennill. Ac nid yw hyn yn cyfrif tuag at eich lwfans ar gyfer ein Tystysgrifau Cynilo Mynegrifol neu mini ISA arian. Yn ôl i frig y dudalenSicrwydd 100%Mae unrhyw arian rydych yn ei fuddsoddi mewn Tystysgrifau Cynilo Llog Sefydlog 100% yn ddiogel. Dim ond Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol sy'n gallu gwneud yr addewid hwn, am fod ein buddsoddiadau yn cael eu cefnogi gan Drysorlys EM. Yn ôl i frig y dudalenMynediadEr mwyn manteisio i’r eithaf ar eich Tystysgrifau Cynilo, mae angen i chi fuddsoddi'ch arian am gyfnod llawn y tymor rydych yn ei ddewis. Gallwch eu cyfnewid am arian yn gynnar, ond byddwch yn ennill cyfradd is o enillion. Os byddwch yn eu cyfnewid am arian ar ôl y flwyddyn gyntaf ond cyn i'ch Tystysgrif aeddfedu, byddwch yn ennill llog am bob cyfnod cyflawn o dri mis. Os byddwch yn eu cyfnewid am arian yn ystod y flwyddyn gyntaf, ni fyddwch yn ennill unrhyw log o gwbl. Er mwyn cyfnewid Tystysgrif a ddelir ar y cyd am arian, mae angen i'r ddau fuddsoddwr arwyddo'r ffurflen. Beth sy’n digwydd ar ddiwedd bob tymor?Byddwn yn ysgrifennu atoch ychydig cyn i'ch Tystysgrifau Cynilo aeddfedu i'ch hysbysu pa gynigion sydd ar gael ar yr adeg honno. Bydd gennych nifer o ddewisiadau:
Os na chlywn oddi wrthych erbyn diwedd tymor buddsoddiad y Dystysgrif, bydd eich Tystysgrif yn dechrau ennill llog yn awtomatig yn ôl y gyfradd sy’n cael ei chynnig am dymor pellach o’r un hyd. Yn ôl i frig y dudalenYnghylch telerau ac amodauDarllenwch y telerau ac amodau cyn i chi fuddsoddi. Os byddwn ni'n gwneud unrhyw newidiadau i'r telerau ac amodau ar ôl i chi fuddsoddi, fe wnawn adael i chi wybod. Os bydd unrhyw newid yn achosi anfantais i chi, byddwn yn rhoi gwybod i chi'n bersonol o leiaf 30 diwrnod cyn y newid. Yn yr achos hwn, gallwch newid i gynnyrch arall neu gyfnewid eich Tystysgrif am arian heb rybudd na chosb, o fewn 60 diwrnod ar ôl i ni roi gwybod i chi. Os caiff unrhyw newidiadau eraill eu gwneud, byddwn yn rhoi gwybod i'n cwsmeriaid drwy roi hysbysiad ar ein gwefan ac mewn ystod o bapurau newydd cenedlaethol. Yn ôl i frig y dudalenDiogelu’ch gwybodaeth bersonolPan fyddwch chi’n dod yn un o’n cwsmeriaid, byddwn yn cadw’r holl wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch yn breifat ac yn gyfrinachol. Cliciwch yma am fanylion am ein polisi cyfrinachedd. Yn ôl i frig y dudalenY Cod BancioMae Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol yn tanysgrifio i’r Cod Bancio ac mae gennym drefn gwyno ffurfiol gyda chynllun cyflafareddu annibynnol. Cliciwch yma am fanylion pellach o’r Cod neu’n trefn gwyno. Back to top |
Chwilio |
|
||||||||||||||||||||||||||||||||

