|
Ein hystod
/
Tystysgrifau Cynilo Cyfradd Sefydlog
/
Tystysgrifau Cynilo Cyfradd Sefydlog - Buddsoddwch nawrGallwch wneud cais ar-lein — mae’n hawdd ac yn ddiogel ac ni fydd yn cymryd ond ychydig o funudau i’w lenwi. I ddechrau gweneud cais, rhowch dic yn y blwch isod i gadarnhau eich bod yn cytuno â'r telerau ac amodau, ac yna cliciwch “Ymlaen” ar waelod y sgrin. Bydd angen y canlynol arnoch: Manylion eich cerdyn debyd (Maestro/Switch neu Visa Debit) Os ydych eisoes yn dal Tystysgrifau Cynilo, rhowch rif y deiliad Sylwch, na allwch wneud cais ar-lein i ddal Tystysgrifau Cynilo Llog Sefydlog fel ymddiriedolwr neu ar ran plentyn. Cliciwch yma am y ffordd i wneud cais fel ymddiriedolwr neu ar ran plentyn. 1 Ionawr 2005 Disgrifiad1. Mae Tystysgrifau Cynilion Cenedlaethol yn warant Llywodraeth y DU a gyhoeddir o dan Ddeddf Benthyciadau Cenedlaethol 1968. Mae'r Tystysgrifau a'r telerau ac amodau hyn yn amodol ar Reoliadau Tystysgrifau Cynilo 1991 (Rhif Offeryn Statudol: 1991/1031) fel y'u diwygir neu eu hailbasir o bryd i'w gilydd (gweler paragraff 36). Yn achos unrhyw wahaniaeth rhwng yr amodau a’r telerau hyn â’r Rheoliadau, y Rheoliadau fydd yn ddilys. Diffiniadau2. Yn y telerau ac amodau hyn: (a) golyga ‘dyddiad pen-blwydd’ ben-blwydd dyddiad prynu Tystysgrif, ond os prynwyd Tystysgrif ar 29 Chwefror, 28 Chwefror fydd y dyddiad pen-blwydd bob tro (hyd yn oed mewn blwyddyn naid); (b) golyga 'Tystysgrif' Dystysgrif Llog Sefydlog Cynilion Cenedlaethol; (c) golyga 'Cyfarwyddwr' y Cyfarwyddwr Cynilion; (ch) golyga ‘Dyddiad Aeddfedu’ y diwrnod ar ôl diwrnod olaf y tymor; (d) golyga ‘CBC' Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (Cynilion Cenedlaethol gynt) yn gweithredu drwy ei swyddfa yn Durham neu gyfryw swyddfa arall y gall y Cyfarwyddwr ei phennu; (dd) golyga ‘swyddfa bost’ gangen o Swyddfa’r Post Cyf yn y DU; (e) golyga 'Tystysgrif Ailfuddsoddi' Dystysgrif Llog Sefydlog lle; (i) caiff y Dystysgrif ei phrynu o enillion Tystysgrifau Cynilion Cenedlaethol neu Dystysgrifau Cynilion Ulster unrhyw Gyhoeddiad (gan gynnwys Cyhoeddiadau Mynegrifol) neu Dystysgrifau Cynllun Blynyddol a gyfnewidiwyd am arian a’i dal yn yr un enw â'r person a ddaliai’r Tystysgrifau a gyfnewidiwyd am arian; (ii) mae'r cyfnewid am arian a'r pryniant yn cael eu gwneud ar yr un pryd trwy anfon cais ailfuddsoddi wedi'i gwblhau i swyddfa CBC, neu yn achos Tystysgrifau Cynilion Ulster, trwy anfon cais ailfuddsoddi wedi'i gwblhau at Gangen Cynilion Ulster, Coleraine; ac (iii) roedd y Tystysgrifau a gyfnewidiwyd am arian wedi'u dal tan iddynt aeddfedu, neu yn achos Tystysgrifau Cynllun Blynyddol, cyn pedwerydd pen-blwydd eu dyddiad tystysgrif. (f) golyga ‘tymor’, ac eithrio ym mharagraff 35, y cyfnod y pennwyd y cyfraddau llog ar ei gyfer pan brynwyd y Dystysgrif, ni waeth a yw'r Dystysgrif yn parhau i ennill llog ar ôl y tymor hwnnw ai peidio (gweler paragraff 4 hefyd). 3. At ddibenion y telerau ac amodau hyn, mae mis yn dod i ben ar ddiwedd y diwrnod sydd yn union o flaen yr un diwrnod enwol â dyddiad y pryniant (er enghraifft, ar gyfer Tystysgrif a brynwyd ar 5 Ionawr, mae’r mis cyntaf yn dod i ben ar ddiwedd 4 Chwefror). Lle roedd dyddiad y pryniant yn disgyn ar 29ain, 30ain neu 31ain o fis, ac nad yw mis calendr diweddarach yn cynnwys dyddiad felly, mae’r mis dan sylw yn dod i ben ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod olaf y mis calendr hwnnw (er enghraifft, ar gyfer Tystysgrif a brynwyd ar 31 Mawrth, mae’r mis cyntaf yn dod i ben ar ddiwedd 29 Ebrill). Fodd bynnag, yn achos Tystysgrif â dyddiad pryniant 29 Chwefror, bydd pob deuddegfed mis yn dod i ben ar ddiwedd 27 Chwefror, hyd yn oed pan fydd y mis yn digwydd mewn blwyddyn naid. Llog a gostyngiad treth4. Mae Tystysgrif yn ennill llog ar gyfraddau sefydlog a bennir am gyfnod penodol na fydd yn llai na blwyddyn, (e.e. 18 mis, dwy flynedd, pum mlynedd, ac ati) sy'n cychwyn o ddyddiad y pryniant. Yr enw a roddir ar bob cyfnod amser yw 'tymor'. Yn achos tymhorau a fynegir fel nifer o fisoedd, mae’r tymor yn dod i ben pan fydd y mis olaf yn dod i ben (gweler paragraff 3). Yn achos tymhorau a fynegir fel blwyddyn neu nifer o flynyddoedd, diwrnod olaf y tymor fydd y diwrnod sydd yn union o flaen y dyddiad pen-blwydd perthnasol (er enghraifft, diwrnod olaf tymor blwyddyn sydd yn dechrau ar 5 Ionawr fydd 4 Ionawr yn y flwyddyn ganlynol). Bydd gan bob tymor ei 'Gyhoeddiadau' ei hun o Dystysgrifau a fydd yn cael eu cyhoeddi yn ôl eu trefn a bydd cyfraddau llog gwahanol yn gymwys i bob Cyhoeddiad o fewn pob tymor. Mae'n bosibl y bydd mwy nag un tymor ar gael ar unrhyw adeg. 5. Bydd pob tymor sydd ar gael a'r cyfraddau llog sy’n gymwys ar gyfer pob Cyhoeddiad yn cael eu cyhoeddi yn Newyddiaduron Llundain, Caeredin a Belfast. Am fanylion y Tystysgrifau sydd ar gael ar y pryd, gweler ein taflen ar Gyfraddau Llog sydd ar gael mewn swyddfeydd post ac o CBC. Gellir stopio gwerthu unrhyw Gyhoeddiad o Dystysgrifau heb roi rhybudd. Ni ellir derbyn cais ond am y Cyhoeddiad sydd ar werth ar ddyddiad y pryniant (gweler paragraff 17). 6. Bydd llog yn cael ei ennill, o ddyddiad y pryniant, fel a ganlyn: (a) ar gyfer Tystysgrifau Ailfuddsoddi, bob tri mis cyfan y’u delir; (b) ar gyfer Tystysgrifau eraill, bob tri mis cyfan y’u delir, ond nid enillir unrhyw log mewn perthynas â Thystysgrif o’r fath a gyfnewidir am arian cyn dyddiad y pen-blwydd cyntaf. 7. Bydd llog yn cael ei gompowndio'n flynyddol ar ben-blwydd y pryniant. Bydd gwerth Tystysgrif yn cael ei dalgrynnu i’r geiniog agosaf wrth ei chyfnewid am arian. 8. Bydd yr holl log yn rhydd rhag Treth Incwm y Deyrnas Unedig a Threth Enillion Cyfalaf. Pwy sy'n cael prynu a dal Tystysgrifau9. Mae paragraffau 10–15 yn crynhoi prif nodweddion y rheoliadau cyfredol (gweler paragraff 1). 10. Unigolion. Gallwch brynu a dal Tystysgrifau: (a) yn eich enw eich hun; neu (b) ar y cyd ag un neu fwy o unigolion eraill. Gall unrhyw berson arall brynu Tystysgrifau hefyd ar eich rhan ac yn eich enw. 11. Plant. Ni all plant dan 7 oed brynu Tystysgrifau. Gellir prynu Tystysgrifau i blentyn dan 7 oed i gael eu dal yn enw'r plentyn. Gellir prynu Tystysgrifau yn yr un modd i ddau neu fwy o blant o’r fath i’w dal yn eu henwau nhw ar y cyd. 12. Ymddiriedolwyr. Gallwch brynu a dal Tystysgrifau fel ymddiriedolwr naill ai ar eich pen eich hun neu ar y cyd ag un neu fwy o ymddiriedolwyr eraill. Gall ymddiriedolwyr corfforaethol brynu a dal Tystysgrifau hefyd. Gall y Tystysgrifau gael eu dal gan yr ymddiriedolwr(wyr) yn unig neu ar y cyd gyda'r buddiolwr(wyr). 13. Derbynwyr. Gall derbyniwr brynu Tystysgrifau ar ran ac yn enw person ag anhwylder meddyliol. 14. Eraill. Gall cymdeithasau cyfeillgar cofrestredig neu unrhyw gyrff eraill o bobl a gymeradwyir gan y Cyfarwyddwr brynu a dal Tystysgrifau. Gall unrhyw berson arall brynu Tystysgrifau hefyd ar ran ac yn enw cymdeithas neu gorff arall o’r fath. 15. Cyffredinol. Ni chaiff person ag anabledd cyfreithiol brynu Tystysgrifau. Sut i brynu16. Gallwch brynu Tystysgrifau trwy wneud cais dros y rhyngrwyd, dros y ffôn neu drwy'r post i swyddfa CBC, neu’n bersonol mewn unrhyw swyddfa bost sy'n ymdrin â busnes CBC. Pan fyddwch yn gwneud cais dros y rhyngrwyd, neu dros y ffôn, a dyma eich cais cyntaf, bydd yn rhaid i chi gadarnhau eich cais trwy lofnodi a dychwelyd ffurflen gadarnhau y byddwn yn ei hanfon atoch drwy’r post. Efallai y byddwn yn ysgrifennu atoch i ofyn am dystiolaeth ddogfennol o bwy ydych chi a’ch cyfeiriad. Bydd y ffurflen a/neu lythyr a fydd yn gofyn am dystiolaeth o bwy ydych chi yn nodi o fewn pa gyfnod y bydd angen dychwelyd y ffurflen a/neu’r dystiolaeth i CBC. Os na dderbynnir y ffurflen a/neu’r dystiolaeth gan CBC o fewn y cyfnod penodedig ni fydd y Cyfarwyddwr yn gallu derbyn eich cais. 17. Ym mhob achos, mae cais i brynu yn amodol ar gael ei dderbyn gan y Cyfarwyddwr: os ydych yn gwneud cais mewn swyddfa bost, ni ellir derbyn y cais nes caiff ei brosesu gan CBC. Os caiff ei dderbyn, y dyddiad prynu fydd: (a) ar gyfer ceisiadau sy’n cael eu hanfon trwy’r post, y dyddiad y cyrhaeddodd eich cais a’ch taliad CBC; (b) ar gyfer ceisiadau dros y rhyngrwyd, y dyddiad y cafodd CBC eich cais ar-lein, gan gynnwys awdurdod am daliad cerdyn debyd; (c) ar gyfer ceisiadau dros y ffôn, y dyddiad cyntaf y nododd CBC fanylion eich cais, gan gynnwys awdurdod am daliad cerdyn debyd; (d) ar gyfer ceisiadau mewn swyddfa bost, y dyddiad y cafwyd eich cais a’ch taliad yno. 18. Oherwydd y gall Tystysgrifau mwy nag un tymor fod ar werth ar unrhyw adeg arbennig, rhaid i chi nodi'ch dewis o dymor wrth wneud cais i brynu. 19. Byddwn yn anfon tystysgrif buddsoddi atoch yn dangos y swm a dyddiad y pryniant. Terfynau prynu a dal20. Yr isafswm ar gyfer pob pryniant yw £100 ac eithrio Tystysgrifau Ailfuddsoddi lle nad oes isafswm. Gallwch brynu unrhyw faint ohonynt yn amodol ar y terfyn dal uchaf ym mharagraff 21. 21. Ni chewch brynu (neu ddal, os prynwyd ar eich rhan gan rywun arall) Tystysgrif o unrhyw Gyhoeddiad os bydd hynny’n golygu eich bod chi wedyn yn dal, naill ai ar eich pen eich hun neu ar y cyd â pherson arall, mwy na £15,000 mewn Tystysgrifau (pris pryniant) o'r Cyhoeddiad hwnnw. Nid yw hyn yn berthnasol i Dystysgrifau Ailfuddsoddi, lle nad oes uchafswm, ac nid yw Tystysgrifau Ailfuddsoddi'n cyfrif o ran gweithredu’r terfyn yn achos daliadau eraill o'r un Cyhoeddiad. 22. Pan fo Tystysgrifau'n cael eu dal ar y cyd rhwng dau berson neu fwy, mae cyfanswm gwerth y Tystysgrifau (pris pryniant) yn cael ei gyfrif yn erbyn pob un o'r cyd-ddeiliaid wrth gyfrif gwerth Tystysgrifau a ddelir ganddynt i'r diben hwn. 23. Er hynny ni fydd Tystysgrifau a ddelir gan berson fel ymddiriedolwr yn cyfrif tuag at ddaliad uchaf y person hwnnw. Hefyd, ni fydd Tystysgrifau a ddelir ar y cyd gan ymddiriedolwr a buddiolwr yn cyfrif tuag at ddaliad uchaf y buddiolwr. Er bod y terfyn dal uchaf yn berthnasol i ddaliadau ymddiriedolaeth, bydd pob ymddiriedolaeth yn cael ei thrin ar wahân. 24. Os bydd person yn etifeddu Tystysgrifau sy'n peri i’w ddaliad fod yn fwy na'r terfyn uchaf, gall y person gadw'r Tystysgrifau sydd dros ben ond ni chaiff brynu rhagor o'r Cyhoeddiad hwnnw pe bai'n achosi i'w (d)daliad (gan gynnwys Tystysgrifau a etifeddwyd) fod yn uwch, neu'n uwch eto, na'r terfyn dal. 25. Mae'r Rheoliadau cyfredol (gweler paragraff 1) yn dangos sut mae'r terfyn yn berthnasol mewn achosion arbennig. Cyfnewid am arian26. Gellir cyfnewid Tystysgrifau am arian trwy lenwi’r ffurflen ar gefn y dystysgrif fuddsoddi a’i hanfon i CBC. 27. Bydd taliad yn cael ei wneud fel arfer trwy gredyd uniongyrchol i gyfrif banc (gan gynnwys Cyfrif Buddsoddi Cynilion Cenedlaethol) neu gyfrif cymdeithas adeiladu a enwir gennych yn y cyfarwyddiadau i gyfnewid am arian. Mae’r Cyfarwyddwr yn bwriadu defnyddio Gwasanaeth Clirio Bancwyr Wedi’i Awtomateiddio (BACS) at y pwrpas hwn, ond yn cadw’r hawl i ddefnyddio dull arall o drosglwyddo’n electronig. 28. Cymerir y dyddiad y cyfnewidir Tystysgrif am arian fel y dyddiad y byddai’r taliad yn ôl y drefn arferol, yn cael ei gredydu i’r cyfrif a enwir ar ôl i’r Cyfarwyddwr roi’r trosglwyddiad electronig ar waith. Yn achos BACS, bydd hyn fel rheol ddau ddiwrnod bancio ar ôl i’r Cyfarwyddwr weithredu’r trosglwyddiad. 29. Lle bydd y Cyfarwyddwr yn rhoi trosglwyddiad electronig ar waith yn gywir, ni fydd ef na’r Trysorlys yn gyfrifol am; (a) unrhyw fethiant neu oedi ar ran y banc neu gymdeithas adeiladu sy’n derbyn yr arian i gredydu’r cyfrif a enwir; (b) unrhyw fethiant neu oedi mewn unrhyw ran o’r broses drosglwyddo electronig sydd y tu hwnt i reolaeth uniongyrchol y Cyfarwyddwr; gan gynnwys unrhyw fethiant sydd yn digwydd oherwydd nad yw’r cyfrif a enwir yn gallu derbyn trosglwyddiad electronig. 30. Mewn amgylchiadau eithriadol gellir gofyn am daliad trwy warant wedi’i chroesi (fel siec). Mewn achosion o’r fath, cymerir y dyddiad y cyfnewidir Tystysgrif am arian fel y dyddiad ar y warant. 31. Yn hytrach na thaliad trwy drosglwyddiad electronig neu warant, gellir ailfuddsoddi’r arian a dderbynnir mewn unrhyw Gyhoeddiad Tystysgrifau Cynilion Cenedlaethol (Llog Sefydlog neu Fynegrifol) sydd ar werth ar y pryd (yn amodol ar y telerau a’r amodau perthnasol) a bernir mai’r dyddiad y cyfnewidir y dystysgrif am arian neu yr ail-fuddsoddir yr arian fydd dyddiad y pryniant ar y dystysgrif fuddsoddi newydd. 32. Er y bydd swyddfa CBC fel arfer yn rhoi’r trosglwyddiad electronig ar waith (gweler paragraff 28), yn rhoi'r warant yn y post, neu’n ailfuddsoddi’r arian, o fewn wyth diwrnod gwaith i dderbyn cyfarwyddiadau i gyfnewid am arian, ni ellir gwarantu hyn ac fe'ch cynghorir i wneud cais cyn gynted ag y bo modd. 33. Yn achos ad-daliad Tystysgrif a ddelir gan blentyn dan 7 oed, ni roddir ad-daliad i berson oni bai ei fod/bod yn bodloni'r Cyfarwyddwr ei fod/bod yn berson priodol i'w dderbyn. 34. Gellir cyfnewid rhan o werth cyfredol Tystysgrif am arian neu ei hailfuddsoddi fel ym mharagraffau 26 i 33. Bydd y gwerth a ad-delir neu a ailfuddsoddir yn cynnwys rhan o bris pryniant y Dystysgrif, ynghyd ag unrhyw log y mae'r rhan honno wedi'i ennill. Bydd tystysgrif buddsoddi newydd, yn dangos y dyddiad pryniant gwreiddiol a gweddill y pris pryniant sydd ar ôl, yn cael ei chyhoeddi. Cadw Tystysgrif ar ôl y tymor cyfradd sefydlog35. Ar ddiwedd y tymor gwreiddiol (neu unrhyw dymor pellach lle enillir llog o dan y paragraff hwn), gall Tystysgrif fod yn gymwys i ennill llog am dymor pellach o'r un hyd. Bydd y Trysorlys yn penderfynu a yw hyn yn gymwys, ac os felly, ar ba delerau o ran y llog. Bydd y Cyfarwyddwr yn ysgrifennu at y deiliad, yn y cyfeiriad diwethaf a gofnodwyd ar gyfer y daliad, yn fuan cyn diwedd pob tymor er mwyn rhoi gwybod iddynt am benderfyniad y Trysorlys. Os bydd y cyfryw log yn gymwys bydd yn cael ei gymhwyso'n awtomatig ac yn cael ei warantu am y tymor pellach i gyd. Wrth gwrs, bydd gan y deiliad yr hawl o hyd i gyfnewid y Dystysgrif am arian ar unrhyw adeg (gan gynnwys ei hailfuddsoddi mewn Cyhoeddiad arall neu un arall o gynhyrchion CBC). Rheoliadau36. Ar 1 Tachwedd 2004, diwygiwyd y Rheoliadau Cynilion Cenedlaethol 1991 (Rhif Offeryn Statudol 1991/1031) gan yr Offerynnau Statudol hyn:
Y gyfraith ac awdurdodaeth37. Bydd y telerau a’r amodau hyn ac unrhyw gytundeb a wneir ar eu sail yn cael eu rheoli a'u dehongli yn unol â chyfraith Lloegr. 38. Yn amodol ar baragraffau 39 a 40, bydd gan lysoedd Lloegr awdurdod llwyr i ddatrys unrhyw ddadl (gan gynnwys hawliadau cydbwyso a gwrth-hawliadau) a all godi mewn cysylltiad â'r telerau a’r amodau hyn neu unrhyw gytundeb a wneir ar eu sail, ac sydd, yn amodol ar y Rheoliadau, yn cael ei benderfynu gan lys. 39. Lle bydd adran 16 Deddf Awdurdodaeth Sifil a Dyfarniadau 1982 yn gymwys, llys perthnasol yn y rhan berthnasol o'r Deyrnas Unedig fydd ag awdurdod i ddatrys unrhyw anghydfod o'r fath. 40. Mae paragraffau 38 a 39 yn cael eu cynnwys er budd CBC. Yn unol â hyn, mae CBC yn cadw'r hawl i ddwyn achos mewn unrhyw lys arall sydd ag awdurdod, â’r deiliad yn ymostwng yn ddiwrthdro i hwnnw. Tystysgrifau CyniloCynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol 1 Ionawr 2005 CADWCH AR GYFER EICH COFNODION Rwyf/Rydym yn derbyn y telerau ac amodau dyddiedig 1 Ionawr 2005 ac yn caniatáu bod f’enw/ein henwau a’m/a’n cyfeiriad yn cael eu gwirio fel y nodir o dan Prawf o’ch enw a’ch cyfeiriad. |
Chwilio |
|
||||||||||||||||||||||||||||||||
