National Savings and Investments
 
Ein hystod / Cyfrif Cynilo Mynediad Rhwydd /

Telerau ac Amodau

1 Ionawr 2006

Disgrifiad

1.  Mae arian a delir i mewn i Gyfrif Cynilo Mynediad Rhwydd (EASA) Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol, yn daliadau buddsoddi yn y Banc Cynilion Cenedlaethol ac yn amodol ar Ddeddf Banc Cynilion Cenedlaethol 1971 a Rheoliadau Banc Cynilion Cenedlaethol 1972 (Rhif Offeryn Statudol 1972/764 - gweler paragraff 47) fel y'u diwygir neu eu hailddeddfir o bryd i'w gilydd.  Yn achos gwahaniaeth rhwng yr amodau a’r telerau hyn a’r Rheoliadau, y Rheoliadau fydd yn ddilys.

Diffiniadau

2.  Yn y telerau ac amodau hyn:

(a)    golyga “ATM” beiriant rhifo awtomatig gyda mynediad i'r rhwydwaith LINK®;

(b)    golyga “BACS” Wasanaeth Clirio Bancwyr Wedi’i Awtomeiddio;

(c)     golyga “Cyfarwyddwr” y Cyfarwyddwr Cynilion;

(ch)   golyga “CBC” Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol yn gweithredu trwy        ei swyddfa yn Glasgow neu gyfryw swyddfa arall y gallai’r Cyfarwyddwr ei        phennu;

(d)    golyga “PIN” rif adnabod personol;

(dd)  golyga “swyddfa bost” gangen o Swyddfa’r Post Cyf yn y DU. 

Llog a Threth

3.  Mae EASAau yn ennill llog ar gyfraddau amrywiol.  Bydd y gyfradd sy’n berthnasol i gyfrif penodol ar unrhyw adeg yn dibynnu ar y balans yn y cyfrif hwnnw.  Cyhoeddir y cyfraddau presennol, a’r balansau y mae eu hangen i’w hennill, yn Newyddiaduron Llundain, Caeredin a Belfast (y Newyddiaduron).  Gall y cyfraddau, a'r balansau y mae eu hangen i’w hennill, newid o bryd i’w gilydd.  Bydd rhybudd o newidiadau o'r fath yn cael ei roi yn y Newyddiaduron.  Nodir manylion am y cyfraddau presennol, a'r balansau y mae eu hangen i’w hennill, yn ein taflen Cyfraddau Llog hefyd, sydd ar gael mewn swyddfeydd post ac o CBC, ac ar ein gwefan yn www.nsandi.com.

4.  Enillir llog yn ddyddiol ar y balans terfynol bob dydd.  Bydd y balans terfynol ar unrhyw ddiwrnod penodol yn cynnwys unrhyw arian a delir i mewn ar y dyddiad hwnnw (gweler paragraff 13 a pharagraffau 22 i 25) ond nid unrhyw arian a dynnir allan ar y dyddiad hwn (gweler paragraffau 30, 31 a 33).  Enillir llog bob dydd ar gyfradd sy'n 1/365 y gyfradd flynyddol (neu 1/366 y gyfradd flynyddol mewn blwyddyn galendr naid).

5.  Telir y llog bob blwyddyn ar ddiwedd busnes ar 31 Mawrth a bydd yn cynnwys yr holl log a enillwyd hyd at, ac yn cynnwys, 31 Mawrth.  Yna, bydd y llog yn ffurfio rhan o'r balans yn y cyfrif ar ac wedi’r diwrnod canlynol (1 Ebrill).

6.  Telir llog i’r cyfrif yn rhydd o dreth.  Fodd bynnag, mae’n amodol ar Dreth Incwm y DU, felly bydd angen i fuddsoddwyr ddatgan eu diddordebau i Gyllid y Wlad.

Pwy sy’n cael agor a dal EASA?

7.  Unigolion.  Yn amodol ar yr ail frawddeg ym mharagraff 9, os ydych yn unigolyn sy’n o leiaf 11 oed, gallwch agor cyfrif:

            (a)  yn eich enw eich hun; neu

            (b)  ar y cyd ag unigolyn arall sy’n o leiaf 11 oed.

Gallwch ddal mwy nag un cyfrif yn un o’r ddwy ffordd, neu y ddwy ffordd hyn.

8.  Derbynwyr.  Os ydych chi’n dderbyniwr (neu berson arall sydd wedi’i awdurdodi yn y modd hwnnw) ar gyfer person ag anhwylder meddwl sy’n 11 oed neu h?n, gallwch agor cyfrif ar ran ac yn enw’r person hwnnw.

9.  Cyffredinol.  Ar wahân i dderbynwyr a phobl sy’n gweithredu dan B?er Twrnai, ni all un person agor cyfrif ar ran un arall, ac ni ellir eu dal mewn ymddiriedolaeth.  Ni ellir agor cyfrif gan berson sydd dan anabledd cyfreithiol ac eithrio y gall plentyn sy’n o leiaf 11 oed agor cyfrif os yw ef neu hi o dan anabledd cyfreithiol oherwydd eu hoed yn unig.

10.  Gan mai dim ond trwy gredyd uniongyrchol yn defnyddio BACS i gyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu yn enw deiliad yr EASA y gellir tynnu mwy na £300 allan, neu gau’r cyfrif EASA, mae’n rhaid bod gennych gyfrif sy’n gallu derbyn taliadau BACS cyn y gallwch agor EASA.  Yr unig eithriad yw rhai dan 18 oed a all gofrestru cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu rhiant neu warcheidwad fel eu cyfrif enwol i’r diben hwn.

Sut i agor cyfrif EASA

11.  Gellir gwneud cais i agor cyfrif dros y rhyngrwyd, dros y ffôn, neu drwy ysgrifennu i CBC; neu drwy wneud cais personol mewn unrhyw swyddfa bost sy'n gwneud gwaith CBC.  Ym mhob achos, mae cais i agor cyfrif yn amodol ar dderbyniad gan y Cyfarwyddwr.  Pan fyddwch yn gwneud cais mewn swyddfa bost, dim ond wedi i’r cais gael ei brosesu gan CBC y gall gael ei dderbyn.

12.  Pan fyddwch yn gwneud cais dros y rhyngrwyd neu dros y ffôn, a dyma eich cais cyntaf, bydd yn rhaid i chi gadarnhau eich cais trwy lofnodi a dychwelyd ffurflen gadarnhau y byddwn yn ei hanfon atoch drwy’r post. Wrth dderbyn y telerau ac amodau, rydych yn cadarnhau eich bod yn ymwybodol y caiff eich enw a’ch cyfeiriad eu gwirio fel y crybwyllwyd yn y llyfryn Cyfrif Cynilo Mynediad Rhwydd. Efallai y byddwn yn ysgrifennu atoch i ofyn am dystiolaeth ddogfennol o bwy ydych chi a’ch cyfeiriad. Bydd y ffurflen a/neu lythyr a fydd yn gofyn am dystiolaeth o bwy ydych chi yn nodi o fewn pa gyfnod y bydd angen dychwelyd y ffurflen a/neu’r dystiolaeth i CBC. Os na dderbynnir y ffurflen a/neu’r dystiolaeth gan CBC o fewn y cyfnod penodedig ni fydd y Cyfarwyddwr yn gallu prosesu’ch cais. Rhown wybod i chi os mai dyma fydd yr achos.

13.  Ar ôl i gais gael ei dderbyn, y dyddiad ar gyfer agor eich cyfrif a’r taliad cyntaf fydd:

(a)  ar gyfer ceisiadau drwy’r post, y dyddiad y cyrhaeddodd eich cais a’ch taliad CBC;

(b)  ar gyfer ceisiadau dros y rhyngrwyd, y dyddiad y cafodd CBC eich cais ar-lein, gan gynnwys awdurdod am daliad cerdyn debyd;

(c)  ar gyfer ceisiadau a wneir dros y ffôn, y dyddiad cyntaf y nododd CBC fanylion eich cais, gan gynnwys awdurdod am daliad cerdyn debyd;

(ch) ar gyfer ceisiadau mewn swyddfa bost, y dyddiad y cafwyd eich cais a’ch taliad yno.

14.  Os ydych yn gwneud cais dros y ffôn neu’r rhyngrwyd rhaid i chi wneud y taliad cyntaf drwy gyfrwng cerdyn debyd yn eich enw chi. Am geisiadau drwy’r post bydd yn rhaid i’r taliad cyntaf fod trwy siec o’ch cyfrif personol mewn banc neu gymdeithas adeiladu neu siec gan gangen cymdeithas adeiladu neu ddrafft banc. Os byddwch yn agor cyfrif mewn swyddfa bost gellir gwneud y taliad cyntaf trwy gyfrwng siec, cerdyn debyd neu arian parod. Rhaid i'r taliad isaf ar gyfer agor cyfrif fod ddim llai na £100 ac ni all fod yn fwy na’r terfyn dal uchaf o £2,000,000 neu £4,000,000 am gyfrif ar y cyd (gweler paragraff 35). Y balans isaf y mae ei angen i ddal cyfrif yw £100 (gweler hefyd paragraffau 26 a 28).

15.  Byddwn yn anfon cadarnhad ysgrifenedig atoch fod eich cyfrif wedi’i agor, gan gynnwys y dyddiad agor a manylion y taliad cyntaf.  Pan fydd y cyfrif yn cael ei ddal ar y cyd, byddwn yn anfon y cadarnhad at y deiliad a enwyd gyntaf ar y ffurflen gais i agor y cyfrif.

Cerdyn arian a PIN

16. Byddwn yn anfon cerdyn arian a PIN atoch.  Er diogelwch, bydd y cerdyn a’r PIN yn cael eu hanfon ar wahân. Os na fyddwch wedi derbyn eich cerdyn a’ch PIN o fewn wythnos wedi cael cadarnhad bod eich cyfrif wedi’i agor, dylech roi gwybod i CBC ar unwaith drwy ffonio 0845 964 5000. Bydd angen i chi ddefnyddio’r cerdyn wrth wneud taliadau i’ch cyfrif mewn swyddfa bost; neu ar gyfer tynnu arian allan o’ch cyfrif, naill ai mewn swyddfa bost neu mewn ATM.  Pan fydd y cyfrif yn cael ei ddal ar y cyd, bydd dau ddeiliad y cyfrif yn cael eu cerdyn a’u PIN eu hunain.

17.  Rhif diogelwch pedwar digid yw’r PIN a ddefnyddir i’ch adnabod fel deiliad y cyfrif wrth dynnu arian allan neu wrth geisio ymholiad balans mewn ATM neu mewn swyddfa bost.  Gallwch newid eich PIN i rif sy’n haws i chi ei gofio.  Byddwn yn esbonio sut y gallwch wneud hyn ar ôl i ni agor eich cyfrif.  FEL GYDAG UNRHYW WYBODAETH DIOGELWCH, DYLECH GADW’CH PIN YN GYFRINACHOL.

18.  Os byddwch yn colli eich cerdyn, neu os bydd yn cael ei ddwyn, ar unrhyw adeg, dylech roi gwybod i CBC am y golled drwy ffonio 0845 964 5000 cyn gynted â phosibl ac fe ganslwn ni’r cerdyn.  Anfonir cerdyn arall atoch cyn gynted â phosibl.

19.  Oni bai eich bod wedi gweithredu’n dwyllodrus neu heb ofal rhesymol, caiff eich atebolrwydd am golledion o ganlyniad i gamddefnydd o’ch cerdyn eu cyfyngu fel a ganlyn:

(a)  hyd nes y bydd adroddiad bod y cerdyn ar goll, eich atebolrwydd uchaf yw   £50;

(b)  ar ôl i chi adrodd bod y cerdyn ar goll, ni fydd gennych   unrhyw atebolrwydd pellach.

Talu arian i mewn

20.  Pan fydd cyfrif wedi’i agor, £10 yw’r isafswm ar gyfer pob taliad dilynol i mewn. Yn amodol ar y terfyn dal uchaf o £2,000,000 neu £4,000,000 am gyfrif ar y cyd (gweler paragraff 35), gellir talu i mewn unrhyw swm sy’n fwy na’r isafswm.

21.  Gellir talu i mewn dros y ffôn neu drwy’r post i CBC, mewn unrhyw swyddfa bost sy'n gwneud gwaith CBC neu drwy drosglwyddiad electronig o’ch banc neu gymdeithas adeiladu.  Os hoffech wneud taliadau rheolaidd, gallwch sefydlu archeb sefydlog gyda’ch banc neu’ch cymdeithas adeiladu. 

Taliadau dros y ffôn

22.  Gallwch dalu arian i mewn dros y ffôn yn defnyddio eich cerdyn debyd.  Dyddiad y taliad fydd y dyddiad cyntaf y cymerodd CBC fanylion eich taliad, gan gynnwys awdurdod am daliad cerdyn debyd.

Taliadau mewn swyddfa bost

23.  Gallwch dalu arian neu siec i mewn, mewn unrhyw swyddfa bost sy’n gwneud gwaith CBC.  Bydd yn rhaid i chi ddangos eich cerdyn arian.  Dyddiad y taliad fydd y dyddiad y derbyniodd y swyddfa bost eich taliad.

Taliadau drwy’r post

24.  Gallwch dalu â sieciau drwy’r post.  Bydd angen i chi anfon cyfarwyddiadau ysgrifenedig i CBC, gan amgáu eich siec, gyda rhif eich cyfrif EASA wedi’i ysgrifennu ar ei chefn.  Dyddiad y taliad fydd y dyddiad y bydd eich siec yn cyrraedd CBC.

Taliadau drwy drosglwyddiad electronig gan gynnwys archeb sefydlog

25.  Os hoffech chi gynilo’n rheolaidd drwy archeb sefydlog, bydd angen i chi lenwi ffurflen, sydd ar gael o CBC, sy’n cynnwys gorchymyn archeb sefydlog i chi ei anfon at eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu. Bydd eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu yn anfon taliadau felly trwy drosglwyddiad electronig. Gallwch wneud taliadau unigol hefyd  trwy drosglwyddiad electronig os bydd eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu yn darparu’r cyfleuster hwn. Dyddiad taliadau gan drosglwyddiad electronig fydd y dyddiad y bydd yr arian yn cyrraedd cyfrif y Cyfarwyddwr ym Manc Lloegr.

Tynnu arian allan

26.  Y lleiafswm y gallwch ei dynnu allan ar y tro yw £10. Ar yr amod eich bod yn cadw balans lleiaf o £100 yn eich cyfrif, gallwch dynnu arian allan mewn arian (hyd at £300 y diwrnod) o swyddfa bost neu ATM; neu drwy gredyd uniongyrchol i gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn eich enw (neu yn enw rhiant neu warcheidwad – gweler paragraff 10).  Nid yw unrhyw ddaliad a wnaed â siec neu gerdyn debyd yn cael ei ychwanegu at y balans sydd ar gael i chi hyd oni fydd 14 diwrnod wedi mynd heibio wedi i chi wneud y taliad. Fodd bynnag, gall y Cyfarwyddwr ganiatáu tynnu allan taliad a  wnaed â cherdyn debyd cyn i’r 14 diwrnod o ddyddiad y taliad ddod i ben. Os cymeradwyir hynny, bydd y Cyfarwyddwr yn talu’r swm a geisir trwy drosglwyddiad electronig i’r cyfrif o’r lle y gwnaed y taliad â’r cerdyn debyd. Penderfynir beth fydd y dyddiad y tynnwyd yr arian allan fel petai wedi’i wneud o dan baragraff 33.

27.  Pan fydd cyfrif yn cael ei ddal ar y cyd, bydd y ddau ddeiliad yn cael cerdyn arian a PIN.  Gall y ddau ddeiliad wneud cais i gau’r cyfrif, neu dynnu arian allan mewn arian parod neu drwy gredyd uniongyrchol, yn annibynnol ar ddeiliad arall y cyfrif ar y cyd.

28.  Os na allwch gynnal isafswm balans o £100 mewn cyfrif, rhaid i’r cyfrif gael ei gau.

Tynnu arian allan

29.  Gallwch dynnu arian allan o’ch cyfrif, hyd at uchafswm o £300 y diwrnod, o swyddfa bost neu mewn ATM.  Mae’r terfyn o £300 y diwrnod yn berthnasol i bob tro y byddwch yn tynnu arian allan o gyfrif (gan gynnwys cyfrifon ar y cyd) ar unrhyw un diwrnod, boed yn cael ei dynnu allan mewn swyddfa bost neu o ATM.

Mae’r terfyn hefyd yn cynnwys unrhyw dâl a godir gan ddarparwr ATM (gweler paragraff 31).

30.  I dynnu arian allan mewn swyddfa bost, bydd angen i chi ddefnyddio eich cerdyn arian a’ch PIN.  Drwy nodi eich PIN a chwblhau’r trafodyn, byddwch wedi rhoi awdurdod i’r Cyfarwyddwr dynnu’r swm a nodwyd o’ch cyfrif.  Byddwch yn cael derbynneb brintiedig yn dangos y dyddiad a’r swm a dynnwyd allan.

31.  I dynnu arian allan o ATM, bydd angen i chi ddefnyddio eich cerdyn arian a’ch PIN.  Fel arfer, y lleiafswm y gellir ei dynnu allan o ATM yw £10, ond fe allai ambell ATM fod ag isafswm uwch.  Efallai y bydd gan ambell ATM derfyn drafodyn o lai na £300.  Gallwch ofyn am dderbynneb brintiedig am drafodion mewn ATM sy’n cynnig y cyfleuster hwn.  Er nad yw CBC yn codi unrhyw gost am dynnu arian allan, gallai rhai darparwyr ATM wneud hynny.  Os dyma’r achos, cewch eich rhybuddio trwy neges ar y sgrin a gallwch ddileu’r trafodyn os nad ydych eisiau talu’r gost.  Drwy gofnodi eich PIN a chwblhau’r trafodyn, byddwch wedi rhoi awdurdod i’r Cyfarwyddwr i dynnu’r swm a nodwyd, ynghyd ag unrhyw gost gan ddarparwr yr ATM, o’ch cyfrif fel y mae ar ddyddiad y byddwch yn tynnu’r arian allan.

Tynnu arian allan drwy gredyd uniongyrchol i’ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu

32.  Dim ond drwy drosglwyddiad electronig i gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn eich enw (neu yn enw rhiant neu warcheidwad – gweler paragraff 10) y gellir tynnu swm allan dros £300, neu i gau cyfrif.  Bydd gofyn i chi roi manylion am gyfrif o’r fath yn eich cais i agor y cyfrif.  Gan fod y Cyfarwyddwr yn bwriadu defnyddio BACS i wneud y trosglwyddiadau electronig hyn (er ei fod yn cadw’r hawl i ddefnyddio ffyrdd gwahanol os bydd angen) rhaid i’ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu a nodir yn eich cais fod â’r gallu i dderbyn taliadau drwy BACS.

33.  Nid oes angen unrhyw rybudd ar gyfer tynnu arian allan fel hyn.  Os ydych wedi cofrestru i ddefnyddio’r gwasanaethau ffôn (gweler paragraffau 39 i 44) gallwch wneud cais i dynnu arian allan dros y ffôn.  Ar gyfer cais dros y ffôn, fel arfer bydd CBC yn cychwyn y trosglwyddiad electronig cyn diwedd y diwrnod gwaith nesaf wedi i ni gael eich galwad. Fel arall, ac ar gyfer y rheiny nad ydynt wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth ffôn, gallwch wneud cais drwy’r post i CBC.  Yn yr achos hwn, fel arfer bydd CBC yn cychwyn y trosglwyddiad electronig  o fewn tri diwrnod gwaith wedi derbyn eich cais. Noder, ni ellir gwarantu’r amserau ar gyfer cychwyn y trosglwyddiad electronig a gall gymryd mwy o amser ar adegau prysur. Ar ôl i CBC gychwyn y trosglwyddiad electronig, bydd y dyddiad tynnu’r arian allan yn cael ei gyfrif, mewn achosion arferol, fel y dyddiad pan fydd y swm y gofynnwyd amdano’n cael ei gredydu i’ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu. Yn achos BACS, bydd hyn ddau ddiwrnod bancio ar ôl i’r Cyfarwyddwr gychwyn y trosglwyddiad.

34.  Pan fydd trosglwyddiad electronig wedi’i sefydlu’n foddhaol, ni fydd y Cyfarwyddwr yn atebol am:

(a)  unrhyw fethiant neu oedi ar ran y banc neu gymdeithas adeiladu sy’n derbyn yr arian i gredydu’r swm dyledus; neu

(b)  unrhyw fethiant neu oedi yn ystod unrhyw gam o’r broses drosglwyddo electronig sydd y tu hwnt i’w reolaeth uniongyrchol;

gan gynnwys unrhyw fethiant sy’n digwydd am na all y cyfrif penodedig dderbyn y trosglwyddiad electronig.

Terfyn dal uchaf

35.  £2,000,000 yw’r swm uchaf y gellir ei ddal gan unrhyw berson mewn EASA (boed mewn un cyfrif neu fwy).  At ddiben y terfyn hwn, lle mae cyfrif yn cael ei ddal ar y cyd, bydd hanner y balans yn y cyfrif yn cyfrif yn erbyn terfyn dal personol pob deiliad.  Ni fydd y terfyn hwn yn rhwystro swm a etifeddir o gyfrif cadw buddsoddi arall gyda’r Banc Cynilion Cenedlaethol rhag cael ei drosglwyddo i enw deiliad.

36.  Os cyrhaeddir y terfyn dal uchaf ni ellir gwneud unrhyw daliadau eraill i mewn ond bydd llog yn parhau i gael ei ychwanegu bob blwyddyn.

Cyfriflenni Cyfrifon

37.  Bydd CBC yn anfon cyfriflen chwarterol atoch sy'n dangos holl drafodion y chwarter blaenorol a ddaw i ben ar 15 Chwefror, Mai, Awst a Thachwedd.  Bydd cyfriflen y chwarter sy'n dod i ben ar 15 Mai hefyd yn dangos faint o log a ychwanegwyd at y cyfrif.

38.  Os delir cyfrif ar y cyd, anfonir cyfriflenni’n at y deiliad a enwir gyntaf ar y cais i agor y cyfrif.

Gwasanaeth Ffôn

39.  Gallwch wneud cais ysgrifenedig i CBC i gofrestru i weithredu’ch cyfrif dros y ffôn.  Gellir gwneud y cais fel rhan o’r cais gwreiddiol i agor y cyfrif neu ar unrhyw adeg wedi hynny.  I wneud cais, bydd angen i chi gyflenwi rhywfaint o wybodaeth diogelwch bersonol yn ôl y gofyn gan CBC.  Gallwn ddefnyddio’r wybodaeth hon i gadarnhau pwy yw’r galwr sy’n gwneud cais am drin ei gyfrif dros y ffôn.  Hefyd, ac fel y prif ddull o ddiogelwch, byddwch angen cyfrinair.  Os yw’r cyfrif yn cael ei ddal ar y cyd, gall unrhyw un o’r deiliad, neu’r ddau ohonynt, wneud cais i ddefnyddio’r gwasanaeth ffôn.  Os bydd y ddau ddeiliad yn gwneud cais, bydd gan y ddau eu cyfrinair eu hunain.

40.  Pan fyddwch yn gwneud y cais i gofrestru ar gyfer y gwasanaeth ffôn, byddwn yn anfon cyfrinair dros dro atoch.  Cyn i chi allu defnyddio’r gwasanaeth ffôn, bydd angen i chi newid y cyfrinair dros dro hwn i un o’ch dewis chi.  Rhaid i’ch cyfrinair fod yn 6, 7 neu 8 cymeriad a gall fod yn unrhyw gyfuniad o lythrennau a rhifau.  Gallwch newid y cyfrinair dros dro pan fyddwch yn gwneud eich galwad gyntaf.  Fodd bynnag, bydd y cyfrinair dros dro yn dod i ben ar ôl 60 diwrnod felly bydd angen i chi ei newid cyn hynny neu bydd eich cais i gofrestru i ddefnyddio’r gwasanaeth ffôn yn methu. FEL GYDAG UNRHYW WYBODAETH DIOGELWCH, DYLECH GADW'CH CYFRINAIR YN GYFRINACHOL.

41.  Ar ôl i chi newid i’ch cyfrinair eich hun, gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ffôn i:

(a) dalu arian i mewn i'ch cyfrif gan ddefnyddio'ch cerdyn debyd;

(b) gwneud cais i dynnu arian allan;

(c) gwirio balans eich cyfrif;

(ch) gwirio trafodion diweddar;

(d) rhoi gwybod i CBC am newidiadau yn eich manylion personol.

42.  Dylech gymryd camau rhesymol i rwystro pobl heb awdurdod rhag defnyddio'r gwasanaeth ffôn neu gael mynediad i'ch cyfrif. Dylech ofalu rhag datgelu unrhyw wybodaeth a allai roi'r cyfle i rywun neu rywrai ar wahân i CBC gael mynediad i'r cyfrif drwy'r gwasanaeth ffôn. Nodwch fod hawl gan CBC i ddilyn unrhyw drefniadau ar y ffôn i dynnu arian allan o gyfrif os rhoddwyd manylion y cyfrinair yn gywir.

43. Os bydd gennych unrhyw reswm dros amau bod eich cyfrinair neu wybodaeth diogelwch bersonol arall yn hysbys i drydydd person, dylech roi gwybod i CBC ar unwaith drwy ffonio. Gallwn ofyn i chi anfon llythyr wedyn i gadarnhau hyn.  Yna, byddwn yn trefnu gosod cyfrinair newydd fel y gallwch barhau i ddefnyddio’r gwasanaeth ffôn.

44.  At ddibenion diogelwch, ac i gynnal y lefel uchaf o wasanaeth, bydd galwadau’r gwasanaeth ffôn fel arfer yn cael eu recordio.

Newid i’r telerau a’r amodau hyn

45. Mae’r Cyfarwyddwr a’r Trysorlys yn cadw’r hawl i newid unrhyw un o’r telerau a’r amodau hyn ar unrhyw adeg. Os bydd unrhyw newid yn anfanteisiol i chi, byddwn yn rhoi gwybod i chi’n bersonol am hyn, drwy ysgrifennu atoch yn y cyfeiriad olaf a gofnodwyd gan CBC, o leiaf 30 diwrnod cyn gweithredu’r newid. Mewn achosion o gyfrifon ar y cyd, anfonir yr hysbysiad at y deiliad cyntaf ar y cais i agor y cyfrif. Ar unrhyw adeg, hyd at 60 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad, gallwch, heb rybudd, cosb neu gost, newid i unrhyw arall o’n cynhyrchion sydd ar gael ar yr adeg honno, neu gau eich cyfrif. Gall unrhyw newid arall gael ei weithredu ar unwaith ond rhown wybod i chi amdano o fewn 30 diwrnod naill ai trwy rybudd gyda’ch cyfriflen chwarterol neu drwy ddangos rhybudd ar ein gwefan ac mewn papurau newydd cenedlaethol.

Cwsmeriaid ag anghenion arbennig

46. Ni fydd rhai o’r telerau a’r amodau hyn yn gymwys os byddwn wedi cytuno ar newidiadau gyda chi er mwyn gwneud EASA yn fwy hygyrch. Os felly, byddwn yn cytuno ar unrhyw wahaniaethau gyda chi yn unigol.

Rheoliadau

47.  Ar 1 Rhagfyr 2005, roedd y Rheoliadau Banc Cynilion Cenedlaethol 1972 (Rhif Offeryn Statudol 1972/764) wedi eu diwygio gan yr Offerynnau Statudol hyn:

1974/553

1975/1190

1975/2153

1977/1807

1978/888

1978/1594

1980/619

1981/484

1982/294

1982/487

1982/1282

1982/1762

1983/1367

1983/1750

1984/9

1984/602

1985/342

1986/2001

1988/1166

1988/2144

1989/25

1989/2045

1991/72

1992/2892

1993/3130

1996/801

1996/1724

1998/1446

1999/588

1999/1611

2001/858

2003/2895

 

 

 

Y gyfraith ac awdurdodaeth

48.  Bydd y telerau ac amodau hyn ac unrhyw gytundeb a wneir ar eu sail yn cael eu rheoli a'u dehongli yn unol â chyfraith Lloegr.

49.  Yn amodol ar baragraffau 50 a 51, bydd gan lysoedd Lloegr awdurdod unigryw i ddatrys unrhyw ddadl (gan gynnwys hawliadau cydbwyso a gwrth-hawliadau) a all godi mewn cysylltiad â'r telerau ac amodau hyn neu unrhyw gytundeb a wneir o'u herwydd ac sydd, yn amodol ar y Rheoliadau, yn cael ei benderfynu gan lys cyfraith.

50.  Lle bo adran 16 Deddf Awdurdodaeth Sifil a Dyfarniadau 1982 yn gymwys, llys cyfraith perthnasol yn y rhan berthnasol o'r Deyrnas Unedig fydd ag awdurdod i ddatrys unrhyw anghydfod o'r fath.

51.  Mae paragraffau 49 a 50 yn cael eu cynnwys er budd CBC. Yn unol â hyn mae CBC yn cadw'r hawl i ddwyn achos yn unrhyw lys arall sydd ag awdurdod yr ymostwng y deiliad yn derfynol iddo.

Cyfrifon Cynilo Mynediad Rhwydd
Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol

Glasgow
G58 1AA

1 Ionawr 2006

Cadwch ar gyfer eich cofnodion

 Hafan    Argraffu    E-bostio i gyfaill  

Chwilio

Buddsoddwch nawr

Manteision

  • Gwasanaeth ffôn pwrpasol
  • Cerdyn arian i dalu arian i mewn a thynnu arian allan yn hawdd
  • Cyfraddau llog graddedig atyniadol

Canllaw Buddsoddwyr

Diogelwch