![]() |
Ein hystod
/
Cyfrif Cynilo Mynediad Rhwydd
/
Sut mae’n gweithioGallwch agor Cyfrif Cynilo Mynediad Rhwydd gyda £100 neu fwy. Ar ôl hynny, gallwch dalu i mewn a thynnu allan arian pan fyddwch ei angen, cyhyd â’ch bod yn cadw o leiaf £100 yn eich cyfrif. Po fwyaf o arian rydych yn ei gynilo, yr uchaf y gyfradd llog. Talu arian i mewnGallwch dalu arian i mewn i'ch cyfrif unrhyw bryd, dros y ffôn, mewn unrhyw gangen o Swyddfa'r Post®, neu drwy'r post. Y taliad lleiaf posibl yw £10. Ac os hoffech ffordd gyfleus o gnilo'n rheolaidd, gallwch ofyn i'ch banc neu’ch cymdeithas adeiladu sefydlu archeb sefydlog i chi. Yn ôl i frig y dudalenTaliadau cerdyn debyd a siecRydych yn dechrau ennill llog ar daliadau cerdyn debyd a siec o'r diwrnod rydym yn eu cael. Fodd bynnag, nid ydych yn gallu tynnu'r arian a delir i mewn allan o'r cyfrif am 14 diwrnod, er y gellir ad-dalu taliadau cerdyn debyd i'ch cerdyn debyd o fewn y cyfnod hwnnw. Yn ôl i frig y dudalenTynnu arian allanGyda'ch cerdyn Cyfrif Cynilo Mynediad Rhwydd, gallwch dynnu hyd at gyfanswm o £300 o arian parod allan bob diwrnod, mewn peiriannau arian parod yn y DU sy'n dangos y logo LINK® ac wrth y cownter mewn canghennau o Swyddfa'r Post® - os oes o leiaf £100 yn eich cyfrif ar ôl i chi dynnu arian allan. Y lleiafswm y gellir ei dynnu allan ar y tro yw £10. Os hoffech dynnu mwy na £300 allan, gallwch wneud cais dros y ffôn (edrychwch ar dudalen gwasenaeth ffôn) neu drwy'r post ac fe wnawn dalu'r arian yn syth i mewn i'ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu. Pan fyddwch yn gwneud cais am eich Cyfrif Cynilo Mynediad Rhwydd, bydd angen i chi roi manylion cyfrif yn eich enw chi a fydd yn gallu derbyn taliadau drwy'r Gwasanaeth Clirio Bancwyr Wedi’i Awtomeiddio (BACS). Yn ôl i frig y dudalenCynilo’n rheolaiddGallwch ddewis gwneud archeb sefydlog i wneud taliadau rheolaidd i’ch Cyfrif Cynilo Mynediad Rhwydd. Cliciwch yma am fanylion ynghylch cynilo'n rheolaidd. Yn ôl i frig y dudalenCyfraddau llog graddedigMae’r cyfraddau wedi’u graddio fel po fwyaf o arian rydych yn ei gynilo, uchaf i gyd y mae’r gyfradd llog. I weld y cyfraddau a graddau diweddaraf, edrychwch ar cyfraddau llog. Yn ôl i frig y dudalenLlog a Threth
Bydd eich arian yn ennill llog bob dydd a byddwn yn ei ychwanegu at eich cyfrif ar 31 Mawrth bob blwyddyn. Mae'r cyfraddau llog yn raddedig ac yn amrywiol, sy'n golygu y gallant fynd i fyny neu i lawr. I weld y cyfraddau a graddau diweddaraf, edrychwch ar ein cyfraddau llog. Pryd bynnag rydym yn newid ein cyfraddau llog, byddwn yn rhoi hysbysiad mewn ystod o bapurau newydd cenedlaethol ac yn sicrhau bod y manylion ar gael mewn canghennau o Swyddfa'r Post® ac ar y wefan hon. Byddwn yn talu'r llog yn gros (h.y. heb dynnu treth), ond mae'r llog yn drethadwy felly bydd angen i chi ei ddatgan i Gyllid y Wlad. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am dreth a chynilion neu gallwch ymweld â gwefan Cyllid y Wlad. Yn ôl i frig y dudalenPwy sy’n cael agor cyfrif?Gall unrhyw un sy'n o leiaf 11 oed agor Cyfrif Cynilo Mynediad Rhwydd, un ai'n unigol neu ar y cyd â pherson arall. I blant dan 11 oed, efallai yr hoffech ystyried ein Cyfrif Buddsoddi. Yn ôl i frig y dudalenCyfrifon ar y cydBydd dau ddeiliad cyfrif ar y cyd yn cael cerdyn arian parod. Sylwch y gall y naill ddeiliad neu’r llall dynnu arian allan, neu gau'r cyfrif, heb angen caniatâd y deiliad arall. Byddwn yn anfon cyfriflenni a gohebiaeth at y deiliad a enwir gyntaf. Efallai y bydd angen i'r ddau ddeiliad roi gwybod i Cyllid y Wlad am eu cyfran o'r llog. (Gallwch ymweld â gwefan Cyllid y Wlad i gael rhagor o wybodaeth am drethi a chynilion). Yn ôl i frig y dudalenTerfynau buddsoddiGallwch gynilo unrhyw swm o £100 i £2 miliwn (£4 miliwn yn achos cyfrif ar y cyd). Mae’r terfyn hwn yn berthnasol i gyfanswm yr arian sydd gennych ym mhob Cyfrif Cynilo Mynediad Rhwydd. Yn ôl i frig y dudalenCadw cofnodByddwn yn anfon cyfriflen atoch tua diwedd Chwefror, Mai, Awst a Thachwedd bob blwyddyn. Bydd eich llog gros yn cael ei gredydu ar ddiwedd mis Mawrth bob blwyddyn, a bydd i'w weld ar eich cyfriflen ym mis Mai. Gan fod y llog yn drethadwy, bydd angen i chi gadw cofnod ohono a'i ddatgan i Gyllid y Wlad. (Gallwch ymweld â gwefan Cyllid y Wlad i gael rhagor o wybodaeth am dreth a chynilion). Gallwch wirio eich balans unrhyw bryd mewn cangen o Swyddfa'r Post neu beiriant arian LINK drwy ddefnyddio’ch cerdyn a'ch PIN, neu drwy'n ffonio ni ar ôl cofrestru i ddefnyddio’n gwasenaeth ffôn. Yn ôl i frig y dudalenYnghylch y telerau ac amodauDarllenwch y telerau ac amodau cyn i chi fuddsoddi. Os byddwn ni'n gwneud unrhyw newidiadau i'r telerau ac amodau ar ôl i chi fuddsoddi, fe wnawn adael i chi wybod. Os bydd unrhyw newid yn achosi anfantais i chi, byddwn yn rhoi gwybod i chi'n bersonol drwy ysgrifennu atoch, o leiaf 30 diwrnod cyn y newid*. Yn yr achos hwn, gallwch newid i gynnyrch arall neu gau eich cyfrif heb rybudd na chosb, o fewn 60 diwrnod ar ôl i ni roi gwybod i chi. Os caiff unrhyw newidiadau eraill eu gwneud, byddwn yn rhoi gwybod i'n cwsmeriaid o fewn 30 diwrnod, naill ai drwy gynnwys rhybudd gyda chyfriflen y chwarter neu drwy roi hysbysiad ar ein gwefan ac mewn ystod o bapurau newydd cenedlaethol. * Sylwch nad yw hyn yn gymwys i newidiadau cyfraddau llog a hysbysir mewn ystod o bapurau newydd cenedlaethol, ar ein gwefan ac mewn canghennau o Swyddfa’r Post®. Yn ôl i frig y dudalenDiogelu’ch gwybodaeth bersonolPan fyddwch chi’n dod yn un o’n cwsmeriaid, byddwn yn cadw’r holl wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch yn breifat ac yn gyfrinachol. Cliciwch yma am fanylion am ein polisi cyfrinachedd. Yn ôl i frig y dudalenY Cod BancioMae Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol yn tanysgrifio i’r Cod Bancio ac mae gennym drefn gwyno ffurfiol gyda chynllun cyflafareddu annibynnol. Cliciwch yma am fanylion pellach y Cod neu'n trefn gwyno. Yn ôl i frig y dudalen |
ChwilioBuddsoddwch nawrManteision
Canllaw Buddsoddwyr
Diogelwch
|
|
||||||||||||||||||||||||||||||||

