National Savings and Investments
 
Ein hystod / Bondiau Bonws Plant /

Telerau ac Amodau

1 Ionawr 2005

Disgrifiad a chymhwyster

1. Mae Bondiau Bonws Plant  (‘Bondiau’) Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (Cynilion Cenedlaethol gynt) yn warant Llywodraeth y DU a gyhoeddir o dan Ddeddf Benthyciadau Cenedlaethol 1968.  Mae Bondiau a’r telerau a’r amodau hyn yn amodol ar Reoliadau Tystysgrifau Cynilo (Bondiau Bonws Plant) 1991 (Rhif Offeryn Statudol 1991/1407) fel y'u diwygir neu eu hailbasir o bryd i'w gilydd (gweler paragraff 27). Os oes gwahaniaeth rhwng y telerau ac amodau hyn a’r Rheoliadau, y Rheoliadau fydd yn ddilys.

2. Gall unrhyw berson 16 oed neu’n hyn brynu Bondiau ar gyfer plentyn neu berson ifanc sydd o dan 16 oed ar ddiwrnod y pryniant, a’r person hwnnw fydd deiliad y bond.  Gellir dal bondiau yn enw, ac ar gyfer perchnogaeth lesiannol deiliad y bond yn unig.  Ni chaniateir i ddau ddeiliad bond ddal Bond ar y cyd.  Mae’n rhaid enwebu rhywun sydd â chyfrifoldeb rhiant ar gyfer pob Bond a brynir, i dderbyn gohebiaeth a rheoli’r Bond hyd nes y bydd deiliad y Bond yn 16 oed.

3. Bydd bondiau a ddelir hyd at ben-blwydd deiliad y Bond yn 21 oed yn ennill llog ar gyfraddau sefydlog, ynghyd â thaliad bonws am bob cyfnod o bum mlynedd wedi'r dyddiad prynu.  Yn yr un modd byddant yn ennill llog a thaliad bonws am unrhyw gyfnod sy’n weddill sy’n llai na phum mlynedd sy’n diweddu ar ben-blwydd deiliad y bond yn 21 oed.  Wedi hynny ni fydd unrhyw log na bonws pellach yn cael ei ennill.

Diffiniadau

4. Yn y telerau ac amodau hyn:

(a)  golyga ‘deiliad y Bond’ blentyn neu berson ifanc sydd o dan 16 oed ar y diwrnod y mae Bond yn cael ei brynu;

(b)   golyga ‘dal Bond’ yr holl Fondiau a ddelir yn enw deiliad y Bond;

(c)   golyga 'Cyfarwyddwr' y Cyfarwyddwr Cynilion;

(ch) golyga ’hysbysu’ anfon gwybodaeth drwy’r post at berson yn y cyfeiriad diwethaf a gofnodwyd ar eu cyfer gan CBC;

(d)   golyga ‘CBC’ Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol yn gweithredu trwy ei swyddfa yn Glasgow neu gyfryw swyddfa arall y gallai’r Cyfarwyddwr ei phennu;

(dd)  golyga ‘rhywun sydd â chyfrifoldeb rhiant’ berson sydd â chyfrifoldeb rhiant (o fewn ystyr Deddf Plant 1989) dros ddeiliad y bond. Fel arfer bydd hyn yn golygu naill ai un neu ddau riant deiliad y bond, gwarcheidwad deiliad y bond, neu unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant dros ddeiliad y bond dan orchymyn llys, neu yn achos deiliad bond sydd yn dioddef o anhwylder meddwl, y derbyniwr os yw’n wahanol.

(e)   golyga ‘swyddfa bost’ gangen o Swyddfa’r Post Cyf yn y DU.

Llog, bonws a gostyngiad treth

5. Bydd gwerth pob uned Bond £25 yn tyfu yn ystod y pum mlynedd yn dilyn y dyddiad prynu trwy gyfradd llog a thaliad bonws ar y pumed pen-blwydd (ond gweler paragraff 22).  Bydd gwerth pob uned Bond yn cael ei dalgrynnu i’r geiniog agosaf ar bob pen-blwydd pryniant ac adeg ad-dalu’r Bond.  Mae cyfraddau llog gwahanol a gwerthoedd Bonws ar gyfer gwahanol Gyhoeddiadau o Fondiau a chaiff y manylion ar gyfer pob Cyhoeddiad a gynigir o dan y telerau ac amodau hyn eu cyhoeddi yn Newyddiaduron Llundain, Caeredin a Belfast.  Am fanylion y cyfraddau llog a’r bonws a delir ar y Cyhoeddiad presennol, gweler ein taflen Cyfraddau Llog sydd ar gael mewn swyddfeydd post ac o CBC.

6. Ar ddiwedd y cyfnod pum mlynedd cychwynnol bydd y Cyfarwyddwr yn hysbysu telerau ar gyfer llog a thaliadau bonws pellach fydd yn gymwys ar ôl pumed pen-blwydd y pryniant.  Bydd y Cyfarwyddwr yn cymryd camau tebyg ar ddiwedd pob cyfnod dilynol o bum mlynedd oni bai bod deiliad y bond wedi cyrraedd 21 oed erbyn hynny.

7. At y diben hwn bydd y Cyfarwyddwr yn anfon hysbysiad drwy’r post, fel arfer 10 diwrnod cyn diwedd y cyfnod pum mlynedd cychwynnol, neu unrhyw gyfnod pum mlynedd dilynol, naill ai at:

(a) y sawl sydd â chyfrifoldeb rhiant y cyfeiriwyd ato ym mharagraff 2, os nad yw deiliad y bond yn 16 oed eto; neu

(b) ddeiliad y bond os yw’n 16 oed o leiaf.

8. Bydd yr hysbysiad ym mharagraff 7 yn rhoi:

(a) y cyfraddau llog a’r taliadau bonws a fydd yn gymwys i’r Bond ar gyfer y pum mlynedd nesaf; neu

(b) y cyfraddau llog a’r taliadau bonws a fydd yn gymwys i’r Bond am unrhyw gyfnod sy’n llai na phum mlynedd nes i’r Bond aeddfedu pan yw deiliad y Bond yn cyrraedd 21 oed.

9. Unwaith y mae Bond wedi aeddfedu ni fydd unrhyw log neu daliad bonws pellach yn cael ei dalu.

10. Mae pob llog a thaliad bonws a enillir ar Fond wedi eu heithrio o Dreth Enillion Cyfalaf a Threth Incwm y DU.

Terfynau ar bryniant a daliadau

11. Fe allwch brynu Bondiau mewn un neu fwy o unedau £25.  Ystyrir mai’r dyddiad prynu yw'r dyddiad y caiff y ffurflen gais wedi’i chwblhau, ynghyd â’r taliad, eu derbyn mewn swyddfa bost sy’n ymdrin â busnes CBC neu yn CBC os anfonir y ffurflen a’r taliad yn uniongyrchol yno. Ym mhob achos, mae'r cais i fuddsoddi yn amodol ar gael ei dderbyn gan y Cyfarwyddwr: pan ydych yn gwneud cais mewn swyddfa bost, ni dderbynnir y cais hyd nes y’i prosesir gan CBC.

12. Ni all deiliad bond ddal llai na £25 (1 uned) na mwy na chyfanswm o £3,000 (120 uned) am bris pryniant mewn Bondiau Bonws Plant ym mhob Cyhoeddiad neu swm mwy y gall y Trysorlys ei bennu o dro i dro.  Bydd y Trysorlys yn rhoi rhybudd ynghylch unrhyw newid o dan y paragraff hwn.

13. Er mwyn cwblhau’r ffurflen bryniant bydd yn ofynnol i chi wneud y canlynol yn ôl yr angen:

(a)  holi pawb sydd â chyfrifoldeb rhiant er mwyn sicrhau nad yw’r pryniant, ynghyd ag unrhyw Fondiau Bonws Plant yn y Cyhoeddiad resennol sydd eisoes ym mherchnogaeth y plentyn neu’r person ifanc, yn codi swm yr arian a ddelir dros y terfyn uchaf o £3,000;

(b)  os yw’r plentyn neu’r person ifanc eisoes yn berchen ar Fondiau, cael rhif Deiliad y plentyn ganddynt, gan ddyfynnu’r rhif ar y cais am bryniant; a

(c)  chael unrhyw wybodaeth arall ganddynt y mae ei hangen i gwblhau’r cais a’r datganiad.

14. Caiff Bond yn enw deiliad y Bond ei anfon at y sawl sydd â chyfrifoldeb rhiant y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 2.  Oni bai eich bod wedi gofyn yn wahanol ar y cais am bryniant bydd eich enw chithau hefyd yn ymddangos fel y person a roddodd y Bond i ddeiliad y Bond.  Fodd bynnag, ni fydd gennych unrhyw reolaeth ar y Bond oni bai bod gennych gyfrifoldeb rhiant.

15. Pe baech yn cwblhau cais trwy gamgymeriad a fyddai’n mynd â chyfanswm y daliad dros derfyn uchaf y daliad, yna, byddai’r canlynol yn berthnasol i’r swm dros ben:

(a)  bydd y gwerth yn cael ei ddychwelyd atoch os yw’r camgymeriad  yn dod i’r golwg cyn i’r Cyfarwyddwr anfon y Bond yn y post; neu os yn ddiweddarach

(b)  bydd y gwerth yn parhau’n eiddo i ddeiliad y bond ac fe all ennill llog yn ôl disgresiwn y Cyfarwyddwr ar gyfradd a bennir gan y Trysorlys. Bydd treth incwm yn daladwy ar log o’r fath. Bydd y Cyfarwyddwr yn hysbysu’r sawl sydd â chyfrifoldeb rhiant y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 2, neu ddeiliad y bond os yw’n 16 oed o leiaf, ynglyn â’r swm dros ben er mwyn gallu ei ad-dalu neu ei ailfuddsoddi mewn cynnyrch CBC arall.

Rheoli Bondiau

16. Fel arfer bydd rheolaeth pob Bond yn eiddo’r sawl sydd â chyfrifoldeb rhiant y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 2 nes bod deiliad y bond wedi cyrraedd 16 oed.

17. Tra bo deiliad y bond o dan 16 oed, fe all y Cyfarwyddwr ad-dalu’r Bond, neu ran o Fond, i unrhyw berson sy’n bodloni’r Cyfarwyddwyr ei fod ef neu hi yn berson priodol i dderbyn taliad ar ran deiliad y bond.  Fel arfer y sawl sydd â chyfrifoldeb rhiant y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 2 fydd y person hwnnw.  Os oes yna ddau berson o’r fath yna fe all y Cyfarwyddwr ofyn i’r ddau arwyddo ar gyfer unrhyw ad-daliad.

18. Bydd penderfyniadau ynglyn â Bond yn gorwedd gyda deiliad y Bond ar ôl iddo ef neu hi gyrraedd 16 oed, neu gydag unrhyw dderbyniwr a benodir.

Ad-daliad ar ôl i’r Bond aeddfedu

19. Bydd y Bond yn aeddfedu ar ben-blwydd y deiliad yn 21 oed.  Fe all ddeiliad y bond gael ad-daliad ar y dyddiad y mae’r bond yn aeddfedu drwy ysgrifennu at CBC ac amgáu’r bond.  Bydd y Cyfarwyddwr yn atgoffa deiliad y bond o’r angen i roi cyfarwyddiadau ar gyfer ad-daliad pan fydd y bond yn aeddfedu.

Ad-daliad cyn i’r Bond aeddfedu

20. Gellir gwneud cais am ad-daliad cyn i’r Bond aeddfedu gan ddeiliad y bond os yw’n 16 oed o leiaf; neu os yw’n iau na’r oed hwnnw fel arfer gan y sawl sydd â chyfrifoldeb rhiant ar ran deiliad y bond y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 2 (gweler paragraff 17).  Mae’n rhaid gwneud cais ysgrifenedig i CBC, ac anfon y Bond gyda’r cais.

21. Os yw Bond yn cynnwys mwy nag un uned o £25 yna gellir ad-dalu rhan o’r Bond, mewn un neu fwy o unedau cyfan, ynghyd ag unrhyw log neu daliad bonws a enillwyd gan yr unedau sy’n cael eu had-dalu.  Lle ad-dalwyd rhan o Fond bydd Bond arall yn cael ei roi yn ei le ar gyfer yr unedau sy’n weddill, a fydd yn cadw dyddiad prynu’r Bond gwreiddiol.

Swm dyledus i’w ad-dalu

22. Bydd uned Bond sy’n cael ei had-dalu cyn pen-blwydd cyntaf y pryniant yn cael ei had-dalu am bris y pryniant.

23. Bydd uned Bond sy’n cael ei had-dalu ar ben-blwydd y pryniant hyd at a chan gynnwys y pumed pen-blwydd yn cael ei had-dalu yn ôl gwerth y pen-blwydd a ddangosir ar y Bond.  Bydd y Cyfarwyddwr yn pennu gwerth uned Bond sy’n cael ei had-dalu ar ben-blwydd diweddarach (gweler paragraff 6).

24. Bydd uned Bond sy’n cael ei had-dalu rhwng dyddiadau pen-blwydd y pryniant yn cael ei thalu yn ôl gwerth yr uned ar y pen-blwydd mwyaf diweddar ynghyd â llog ar y gwerth hwnnw hyd at ddyddiad yr ad-daliad os yw’n cael ei had-dalu cyn pumed pen-blwydd y pryniant.  Bydd y llog yn cael ei ennill ar gyfer pob diwrnod, gan gychwyn ar y dyddiad pen-blwydd mwyaf diweddar, hyd at ond heb gynnwys dyddiad yr ad-daliad (am fanylion o’r gyfradd llog gweler y daflen Cyfraddau Llog sy’n gyfredol adeg y pryniant).  Os yw’r uned Bond yn cael ei had-dalu ar ôl pumed pen-blwydd y pryniant bydd gwerth yr uned yn cael ei bennu yn yr un modd ond gan ddefnyddio’r gwerth adeg y pen-blwydd a’r gyfradd llog yn unol â’r hyn a bennwyd gan y Cyfarwyddwr (gweler paragraff 6).  Bydd llog o’r dyddiad pen-blwydd mwyaf diweddar yn cael ei gyfrifo ar sail ddyddiol yn ôl 1/365 o’r gyfradd llog flynyddol ar gyfer pob diwrnod (neu 1/366 o’r gyfradd llog ar gyfer pob diwrnod mewn blwyddyn naid).

25. Bydd gwerth uned Bond sy’n cael ei had-dalu ar y dyddiad y mae’n aeddfedu yn unol â hyn a hysbysir gan y Cyfarwyddwr (gweler paragraff 6).

Gwarantau Ad-daliad

26. Bydd ad-daliadau fel rheol yn cael eu gwneud trwy warant wedi’i chroesi a’r dyddiad ar y warant fydd dyddiad yr ad-daliad.

Rheoliadau

27. Ar 1 Tachwedd 2004, diwygiwyd Rheoliadau Tystysgrifau Cynilo (Bondiau Bonws Plant) 1991 (Rhif Offeryn Statudol 1991/1407) gan yr Offerynnau Statudol a ganlyn:

1992/3113

1997/1860

Y gyfraith ac awdurdodaeth

28. Bydd y telerau ac amodau hyn ac unrhyw gytundeb a wneir ar eu sail yn cael eu rheoli a’u dehongli yn unol â chyfraith Lloegr.

29. Yn amodol ar baragraff 30 a 31, bydd gan lysoedd Lloegr awdurdod unigryw i ddatrys unrhyw ddadl (gan gynnwys hawliadau cydbwyso a gwrth-hawliadau) a all godi yn gysylltiedig â’r telerau ac amodau hyn neu unrhyw gytundeb a wneir o’u herwydd ac yn amodol ar y Rheoliadau, sy’n cael ei benderfynu gan lys cyfraith.

30. Lle bo adran 16 o Ddeddf Awdurdodaeth Sifil a Dyfarniadau 1982 yn gymwys, llys cyfraith perthnasol yn y rhan berthnasol o’r Deyrnas Unedig fydd ag awdurdod i ddatrys unrhyw anghydfod o’r fath.

31. Mae paragraff 29 a 30 yn cael eu cynnwys er budd CBC.  Yn unol â hyn mae CBC yn cadw’r hawl i ddwyn achos mewn unrhyw lys arall sydd ag awdurdod yr ymostwng y deiliad yn derfynol iddo.

Bondiau Bonws Plant

Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol
GLASGOW
G58 1SB

1 Ionawr 2005

CADWCH AR GYFER EICH COFNODION

 Hafan    Argraffu    E-bostio i gyfaill  

Chwilio

Manteision

  • Rhydd o dreth
  • Cyfradd warantedig
  • Bonws pob pum mlynedd
  • Dim treth i rhieni ei thalu

Canllaw Buddsoddwyr

Diogelwch