National Savings and Investments
 
Ein hystod / Bondiau Bonws Plant /

Sut maent yn gweithio 

Os ydych am fuddsoddi ar gyfer eich plentyn chi neu blentyn rhywun arall, gall Bondiau Bonws Plant eich helpu i gael arian wrth gefn ar gyfer pen-blwydd 21ain y plentyn neu cyn hynny.

Buddsoddwch gyfandaliad, ac fe ychwanegwn log pob blwyddyn ynghyd â bonws bob pum mlynedd hyd at ben-blwydd 21ain y plentyn, yn gwbl rydd o dreth. A gallwch fuddsoddi mewn cymaint o gyhoeddiadau ag y mynnwch, hyd at £3,000 ym mhob un ar gyfer bob plentyn.

Cyhoeddiadau

Mae Bondiau Bonws Plant ar gael mewn cyhoeddiadau ac mae gan bob un ei gyfradd adenillion. Am ragor o wybodaeth am y cyhoeddiad a’r gyfradd llog diweddaraf, gweler cyfraddau llog, ffoniwch ni ar 0845 964 5000  (mae’r llinellau ar agor o 7 o’r gloch y bore hyd hanner nos, 7 niwrnod yr wythnos; codir pris galwad lleol) neu codwch ein taflen cyfraddau llog o unrhyw gangen o Swyddfa’r Post® .

Yn ôl i frig y dudalen

Terfynau buddsoddi

Gallwch fuddsoddi hyd at £3,000 ar ran plentyn ym mhob Cyhoeddiad Bondiau Bonws Plant, mewn unedau o £25. Bob tro rydym yn cyflwyno cyhoeddiad newydd, gallwch fuddsoddi hyd at y terfyn o £3,000. Gall hyn fod yn swm sylweddol dros gyfnod o amser – er enghraifft pe bai ar gyfartaledd bedwar cyhoeddiad y flwyddyn, gallech fuddsoddi hyd at £12,000 y flwyddyn ar gyfer y plentyn.

Yn ôl i frig y dudalen

Llog a bonws

Am bum mlynedd, bydd Bond eich plentyn yn ennill cyfradd llog sefydlog. Yna ar y pumed pen-blwydd, fe ychwanegwn fonws, sy’n sefydlog ac yn warantedig o’r cychwyn. Bryd hynny, gall y rhiant (neu’r plentyn os yw’n 16 oed neu’n hyn) benderfynu naill ai cyfnewid y bond am arian neu barhau i’w fuddsoddi – rhown fanylion y gyfradd a’r bonws gwarantedig nesaf iddynt i’w helpu i benderfynu beth i’w wneud.

Yn ôl i frig y dudalen

Pwy sy’n cael prynu Bondiau

Gall unrhyw un 16 oed neu’n hyn brynu Bondiau Bonws Plant ar gyfer plant o dan 16 oed. Byddwn yn anfon y Bond at riant neu warcheidwad y plentyn bob tro. Rhiant neu warcheidwad y plentyn fydd yn rheoli’r Bond, ni waeth pwy a’i prynodd, nes bydd y plentyn yn 16 oed.

Yn ôl i frig y dudalen

Treth

Fel rheol, os bydd rhiant yn rhoi arian i’w fuddsoddi i’w blentyn, mae’n rhaid i’r rhiant dalu treth ar y llog os yw’n fwy na £100 mewn unrhyw flwyddyn dreth, hyd yn oed os nad yw’r plentyn yn drethdalwr. Ond, gyda Bondiau Bonws Plant, mae’r llog a’r taliadau bonws i gyd yn rhydd o Dreth Incwm a Threth Enillion Cyfalaf y DU. Hyd yn oed os yw’r plentyn yn dechrau gweithio ac yn dod yn drethdalwr cyn cyfnewid eu Bondiau am arian, ni fydd rhaid iddynt dalu treth ar y llog.

Yn ôl i frig y dudalen

Mynediad

Er mwyn bod yn gymwys i gael taliadau bonws, mae’n rhaid dal bondiau hyd at eu pumed pen-blwydd neu nes bod y plentyn yn 21 oed. Fodd bynnag, os yw’r deiliad bondiau eisiau mynediad i’r arian ynghynt, gellir cyfnewid y Bond cyfan neu ran ohono heb rybudd. Nid enillir llog os cyfnewidir Bond am arian o fewn blwyddyn ar ôl ei brynu.

Gall y person sy’n rheoli’r Bond ei gyfnewid am arian mewn unedau o £25 a ad-delir ynghyd ag unrhyw log neu fonws a enillwyd. Os caiff y Bond ei gyfnewid am arian rhwng dyddiadau pen-blwydd, bydd yn ennill llog yn ddyddiol o’r pen-blwydd blaenorol, a bydd yn peidio ag ennill llog ar ddyddiad yr ad-daliad.

Yn ôl i frig y dudalen

Pwy sy’n rheoli’r buddsoddiad?

Eiddo’r plentyn yw’r Bondiau Bonws Plant, ond nes y byddant yn 16 oed, ‘rheolir’ y Bond gan eu rhiant neu warcheidwad, ni waeth pwy a brynodd y Bond. Golyga hyn mai’r rhiant neu’r gwarcheidwad yn unig all gyfnewid y Bond am arian, ond mae’r arian yn dal yn eiddo i’r plentyn. Ar ôl i’r plentyn gyrraedd 16 oed, ef/hi fydd yn rheoli’r Bond.

Yn ôl i frig y dudalen

A allaf brynu Bondiau fel rhodd?

Gallwch brynu Bondiau Bonws Plant fel rhodd i blentyn rhywun arall. Er mwyn dangos wrth bwy mae’r rhodd, argraffwn eich enw ar y Bond (oni bai eich bod yn gofyn i ni beidio). Os ydych yn prynu Bond i blentyn rhywun arall, dylech wirio gyda'r rhiant neu'r gwarcheidwad na fydd eich rhodd chi yn fwy na therfyn buddsoddi'r plentyn yn y cyhoeddiad hwnnw.

Yn ôl i frig y dudalen

Ynghylch telerau ac amodau

Darllenwch y telerau ac amodau cyn i chi fuddsoddi. Os byddwn ni'n gwneud unrhyw newidiadau i'r telerau ac amodau ar ôl i chi fuddsoddi, fe wnawn adael i chi wybod. Os bydd unrhyw newid yn achosi anfantais i chi, byddwn yn rhoi gwybod i chi'n bersonol o leiaf 30 diwrnod cyn y newid. Yn yr achos hwn, gallwch newid i gynnyrch arall neu gyfnewid eich Bond am arian, heb rybudd na chosb, o fewn 60 diwrnod ar ôl i ni roi gwybod i chi. Os caiff unrhyw newidiadau eraill eu gwneud, byddwn yn rhoi gwybod i'n cwsmeriaid drwy roi hysbysiad ar ein gwefan ac mewn ystod o bapurau newydd cenedlaethol.Yn ôl i frig y dudalen

Diogelu’ch gwybodaeth bersonol

Pan fyddwch chi’n dod yn un o’n cwsmeriaid, byddwn yn cadw’r holl wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch yn breifat ac yn gyfrinachol. Cliciwch yma am fanylion am ein polisi cyfrinachedd.

Yn ôl i frig y dudalen

Y Cod Bancio

Mae Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol yn tanysgrifio i’r Cod Bancio ac mae gennym drefn gwyno ffurfiol gyda chynllun cyflafareddu annibynnol. Cliciwch yma am fanylion pellach y Cod neu'n trefn gwyno.

Yn ôl i frig y dudalen
 Hafan    Argraffu    E-bostio i gyfaill  

Chwilio

Manteision

  • Rhydd o dreth
  • Cyfradd warantedig
  • Bonws pob pum mlynedd
  • Dim treth i rhieni ei thalu

Canllaw Buddsoddwyr

Diogelwch