|
|
Cyfrinachedd a diogelwch
/
Diogelwch ar-leinPa mor ddiogel yw eich gwefan?Mae’n amhosibl gwarantu bod unrhyw wefan yn hollol ddiogel. Fodd bynnag, rydym wedi gwneud pob ymdrech i ddiogelu’r wefan hon ac unrhyw ddata rydym yn eu casglu. Rydym yn defnyddio llawer haen o ddiogelwch – am resymau amlwg ni allwn ddatgelu pob un ohonynt, ond maent yn cynnwys:
Sut rwyf yn gwybod bod trafodion dros y rhyngrwyd yn ddiogel?Mae eich gwybodaeth bersonol wedi’i hamgryptio er mwyn sicrhau na all neb arall ei darllen cyn iddi adael eich cyfrifiadur. Defnyddir technoleg Haen Soced Cadarn 128 bit ar gyfer hyn. Dyma’r un gorau sydd ar gael ar hyn o bryd ac mae’n god safonol cyfredol yn y diwydiant. Gallwch weld a yw'r Haen Soced Gadarn ar waith os yw’r icon diogelwch (y clo sydd wedi’i gloi neu’r llun allwedd gyflawn) yng nghornel dde isaf ffenestr eich porwr a bod dechrau ein cyfeiriad gwefan yn newid o ‘http’ i ‘https’. Gan ddibynnu ar osodiad eich porwr, gall ffenestr naid ymddangos i’ch hysbysu eich bod yn cael mynediad i dudalen ddiogel. Yn ôl i frig y dudalenA oes unrhyw gorff safonau yn cydnabod y safonau diogelwch?Cafwyd y tystysgrifau sydd ar y safle hwn gan werthwr tystysgrifau diogelwch cydnabyddedig, Verisign. Er mwyn cael y dystysgrif gwirir nifer o gymwysterau allweddol y cwmni. Os nad yw’ch porwr wedi’i osod i adnabod tystysgrifau Verisign gall hyn eich atal rhag cael mynediad i wefan CBC. Ewch i wefan Verisign i wirio a yw’ch porwr yn eu hadnabod. Yn ôl i frig y dudalenDiogelwch e-bostNid yw CBC yn rhoi gwybodaeth bersonol trwy gyfrwng e-bost ond mae’n bosibl y byddwn yn ffonio neu’n ysgrifennu atoch mewn ymateb i ymholiadau e-bost. Yn ddiweddar, mae banciau ar-lein yn y DU, UDA, Awstralia a Chanada wedi eu targedu gan dwyll sy’n defnyddio e-byst ffug i annog cwsmeriaid inodi eu manylion diogelwch neu ariannol ar wefan ffug. Ni fydd CBC byth yn anfon e-bost atoch yn gofyn am fanylion diogelwch neu ariannol. Os bydd gennych unrhyw bryderon ynglyn â chysylltiadau sydd wrth, neu sy’n ymddangos eu bod wrth CBC cysylltwch â ni ar unwaith. Yn ôl i frig y dudalenA ydych yn anfon cwcis i’m cyfrifiadur?Ydym, mae’r safle hon yn defnyddio cwcis parhaol a chwcis dros dro. Gweler ein Polisi cyfrinachedd am esboniad o’n defnydd o gwcis Yn ôl i frig y dudalenEich diogelwch ar-leinMae cyfrifiaduron personol yn dod yn rhan bwysig o fywyd bob dydd. Gallent gadw gwybodaeth bwysig ac ambell waith amnewidiadwy. Felly mae’n bwysig eich bod yn diogelu’ch cyfrifiadur a’r wybodaeth sydd ynddo. Yn ôl i frig y dudalenBeth allwch chi ei wneud i ddiogelu’ch hun?Defnyddiwch gyfrifiadur rydych yn gwybod ei fod yn ddiogel. Byddwch yn wyliadwrus os byddwch yn gwneud trafodyn drwy ddefnyddio caffis rhyngrwyd, cyfrifiaduron ar gyfer y cyhoedd neu gyfrifiaduron a rennir. Diogelwch eich cyfrifiadur eich hun - gosodwch y feddalwedd wrthfirws ddiweddaraf a mur warchod. Mae’n hanfodol lawrlwytho diweddariadau’r cyflenwr yn gyson. Gall peidio â gwneud hyn beryglu’ch offer. Diweddarwch eich porwr gwe. O bryd i’w gilydd darganfyddir gwendidau mewn porwyr gwe, ond gellir dileu’r rhain drwy lawrlwytho diweddariadau wrth ddatblygydd y feddalwedd yn rheolaidd. Cadwch rifau adnabod personol (PINs), cyfrineiriau a gwybodaeth bersonol yn ddiogel – byddwch yn wyliadwrus bob tro o e-byst sy’n gofyn i chi glicio ar gyswllt neu i gadarnhau eich manylion. Ni fydd CBC byth yn gofyn i chi ddatgelu neu gadarnhau gwybodaeth bersonol sensitif neu gyfrinachol, gan gynnwys eich PIN. Os bydd gennych unrhyw amheuon, cysylltwch â ni. Peidiwch byth ag anfon gwybodaeth gyfrinachol drwy e-bost Argraffwch gofnod o unrhyw drafodion rydych wedi’u gwneud. Bydd cyfeirnod y trafodyn o gymorth i ni wedyn os cewch unrhyw drafferthion. Yn ôl i frig y dudalen
Ymholiadau ac adborthMae CBC yn aelod o’r Gymdeithas Gwasanaethau Clirio Taliadau, sydd wedi creu www.banksafeonline.org.uk i roi mwy o wybodaeth am fancio ar-lein a diogelwch. Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill neu adborth ynghylch diogelwch neu sut rydym yn diogelu’ch data, cysylltwch â ni. Yn ôl i frig y dudalen |
Chwilio |
|
||||||||||||||||||||||||||||||||
