National Savings and Investments
 
Cyfrinachedd a diogelwch /

Cefnogir gan Drysorlys EM

Sicrwydd 100%

Mae unrhyw arian rydych yn ei fuddsoddi gyda Chynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol 100% yn ddiogel. Dim ond Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol sy’n gallu gwneud yr addewid hwn, am fod ein buddsoddiadau yn cael eu cefnogi gan Drysorlys EM.

Ers 1861

Mae CBC mewn busnes ers 1861 a chanddo ryw 30 miliwn o gwsmeriaid, mwy na dwywaith gymaint ag unrhyw ddarparwr cynilion adwerthu arall. Rydym yn rheoli rhyw £66 biliwn, sydd bron 17% o’r Ddyled Genedlaethol a 10% o farchnad buddsoddiadau cynilion adwerthu’r DU.

Ein hegwyddorion

Fel un o Asiantaethau Gweithredol Canghellor y Trysorlys, ein nod yw :

  • darparu lle sy’n gwbl ddiogel i bobl allu cynilo, a gefnogir gan y Trysorlys
  • darparu ffynhonnell gyllido i’r Trysorlys (h.y. benthyca cyhoeddus)

Cartref diogel i’ch arian

Rydym yn cynnig ystod eang ac unigryw o gynhyrchion sy’n bodloni anghenion cynilwyr a buddsoddwyr fel ei gilydd, gan gynnwys ystod eang o gynilion rhydd o dreth a chartref dihafal sy’n100% yn ddiogel i arian ein cwsmeriaid.
 Hafan    Argraffu    E-bostio i gyfaill  

Chwilio