|
|
Gwybodaeth ddefnyddiol
/
Dogfennau i gymryd lle rhai a gollwyd1. Dogfennau a anfonwyd yn ddiweddarOs ydych wedi anfon dogfennau atom yn ddiweddar (er enghraifft fel, prawf o’ch enw a’ch cyfeiriad), caniatewch bythefnos i ni ddychwelyd y rhain atoch. Os na fyddwch wedi eu derbyn ar ôl pythefnos comma cysylltwch â ni. 2. Heb gadw cofnod o gynilion neu fuddsoddiadau gyda CBCOs credwch nad oes gennych gofnod o unrhyw gynilion neu fuddsoddiadau rydych yn eu dal gyda ni, gallwn eich helpu i gadarnhau trwy ein gwasanaeth olrhain am ddim. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael hefyd ar gyfer dod o hyd i arian perthnasau neu gleientiaid ymadawedig. 3. Rwyf wedi gwneud cais i fuddsoddi’n ddiweddarOs ydych wedi gwneud cais yn ddiweddar i gynilo neu i fuddsoddi gyda ni, dylech dderbyn llythyr croeso cyn pen pymtheg niwrnod. Os ydych wedi gwneud cais i fuddsoddi mewn Bond Ecwiti Gwarantedig dylech gael cydnabyddiaeth gychwynnol cyn pen wythnos, yna fe anfonir eich tystysgrif Bond atoch yn fuan wedi cau cyfnod y cynnig. 4. Dogfennau a gollwydOs ydych wedi camosod dogfennau CBC, fel arfer gallwn ddarparu dogfennau newydd i chi. Ysgrifennwch atom gan gynnwys y wybodaeth ganlynol:
I’n helpu ni i ymdrin â’ch cais yn gynt, ysgrifennwch i’r swyddfa sy’n ymdrin â’ch cynnyrch. Os oes arnoch angen ddogfennau am fwy nag un cynnyrch, rhowch y manylion am bob un o’r cynhyrchion yn eich llythyr. |
Chwilio
|
|
||||||||||||||||||||||||||||||||
