|
|
Gwybodaeth ddefnyddiol
/
Ailfuddsoddi fy ngwobrauGallwch gynyddu’ch siawns o ennill yn fwy byth trwy ailfuddsoddi unrhyw wobrau mewn mwy o Fondiau Premiwm yn awtomatig. A chyda gwobr a ail-fuddsoddir yn awtomatig bydd eich Bondiau yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth tynnu rhifau nesaf, yn hytrach na gorfod aros mis calendr cyflawn yn dilyn y mis rydych yn eu prynu. Os hoffech elwa ar ailfuddsoddi gwobrau’n awtomatig, yna lawrlwythwch y ffurflen fandad isod, ei llenwi a’i hanfon atom ni yn: Premium Bonds Sylwch: os ydych eisoes yn dal yr uchafswm o £30,000 mewn Bondiau Premiwm, ni allwch ailfuddsoddi unrhyw wobrau y byddwch yn eu hennill. Rhowch hyd at fis i ni sefydlu’ch mandad ailfuddsoddi awtomatig. Ar ôl iddo gael ei sefydlu, byddwn yn anfon Bondiau Premiwm newydd atoch chi pryd bynnag y byddwch yn ennill gwobr ac yn rhoi gwybod i chi p’un o’ch rhifau Bondiau a enillodd wobr. Os byddwch yn ennill gwobr gwerth £5,000 neu fwy, byddwn yn cysylltu â chi cyn ei hailfuddsoddi. Yn y cyfamser, gallwch fuddsoddi nawr i gynyddu’ch cyfle i ennill.
|
Chwilio
|
|||||
|
||||||||||||||||||||||||||||||||

