National Savings and Investments
 
Gwybodaeth ddefnyddiol /

Beth yw cyfrinair CBC?

Cyfuniad o lythrennau a/neu rifau a ddewisir gennych chi yw cyfrinair CBC sy’n dynodi mai chi yw deiliad y cyfrif. Gallwch ddefnyddio’r cyfrinair dros y ffôn i reoli mini ISA arian, Cyfrif Cynilo Mynediad Rhwydd neu ISA Uniongyrchol newydd CBC. Gellir defnyddio’ch cyfrinair i gael mynediad diogel ar-lein i ISA Uniongyrchol CBC hefyd.

Os ydych eisoes yn gwsmer mini ISA arian neu Gyfrif Cynilo Mynediad Rhwydd CBC, ac wedi cofrestru i ddefnyddio’n gwasanaeth ffôn, bydd gennych gyfrinair yn barod.

Gallwch ddefnyddio’ch cyfrinair i:

  • wirio’ch balans
  • wirio trafodion diweddar
  • dynnu arian allan a’i roi mewn cyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu penodedig
  • roi gwybod i ni os oes newid i’ch cyfeiriad neu’ch manylion personol (ffôn yn unig)

Dylech gadw’ch cyfrinair yn gyfrinachol er mwyn sicrhau na all neb arall gael mynediad at eich cyfrif.

 Hafan    Argraffu    E-bostio i gyfaill  

Chwilio