National Savings and Investments
 


Holi am symud i wlad dramor

Os ydych yn symud i wlad dramor, rhowch wybod i ni fel y gallwn ddiweddaru’ch manylion. Ni ellir dal rhai o’n buddsoddiadau mewn rhai gwledydd tramor oherwydd cyfyngiadau lleol. Mae’n bosibl y bydd rhai cynhyrchion yn agored i dreth leol hefyd. Am wybodaeth fanwl, bydd yn rhaid i chi wirio’r gyfraith a rheoliadau lleol y wlad rydych yn symud iddi. Am rai canllawiau cyffredinol gweler isod:

Bondiau Premiwm

Mae cyfreithiau hapchwarae a loteri yn gwahardd dinasyddion UDA rhag cael gohebiaeth drwy eu gwasanaeth post ynghylch Bondiau Premiwm. Felly ni fyddai’n ymarferol dal Bondiau Premiwm tra yn UDA gan na fyddai modd i chi gael gwobrau na’u cyfnewid am arian. Os ydych yn byw y tu allan i’r DU dylech wirio a yw rheoliadau lleol yn caniatáu i chi ddal Bondiau Premiwm.  

Bondiau Incwm Gwarantedig Pensiynwyr a Bondiau Incwm

Er mwyn cael yr incwm o’r bond, rhaid i gwsmeriaid gael cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn y DU (neu fel arall Gyfrif Buddsoddi neu Gyfrif Cynilo Mynediad Rhwydd Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol) a all dderbyn trosglwyddiadau BACS. Telir llog heb dynnu treth. Fodd bynnag, mae’n agored i dreth incwm y DU felly dylai buddsoddwyr sy’n agored i dreth incwm y DU ddatgan llog i Gyllid y Wlad.

Bondiau Cyfalaf a Chyfrif Buddsoddi

Ychwanegir llog at eich Bond heb dynnu treth. Fodd bynnag, mae llog yn agored i dreth incwm y DU bob blwyddyn ac, os ydych yn agored i dreth incwm y DU, dylech ei gynnwys yn y ffurflen dreth i Gyllid y Wlad am y flwyddyn dreth yr ychwanegir y llog at eich Bond neu’ch Cyfrif.

Cyfrif Cynilo Mynediad Rhwydd

Bydd angen i gwsmeriaid sydd â Chyfrif Cynilo Mynediad Rhwydd gael cyfrif banc yn y DU a all dderbyn trosglwyddiadau BACS. Hefyd ni ellir defnyddio'r cerdyn arian parod a ddarperir gyda’r cyfrif ond mewn Swyddfeydd Post a Pheiriannau arian parod yn y DU.

Mini ISA arian

Dylech roi gwybod i ni os ydych yn peidio â bod yn breswylydd yn y DU at ddibenion treth. Ni ellir gwneud unrhyw daliadau pellach i ISA hyd nes bod y buddsoddwr y bodloni’r amod preswylio eto.          
 Hafan    Argraffu    E-bostio i gyfaill  

Chwilio