|
|
Gwybodaeth ddefnyddiol
/
Rhifau deiliadSut mae gwirio am wobrau Bondiau Premiwm?I wirio a ydych wedi ennill gwobr rhaid i chi roi eich rhif deiliad ac nid rhif cyfres y Bond. Bydd eich rhif deiliad yn cynnwys 9, 10 neu 11 cymeriad. Beth yw rhif deiliad?Rhif deiliad, a adweinir ambell waith fel rhif cwsmer, yw’r rhif a roddir i gwsmeriaid pan fyddant yn cynilo neu’n buddsoddi gyda ni. Defnyddir pob rhif unigryw i gysylltu holl ddaliadau a rhifau Bondiau unigol cynnyrch penodol sydd gan y cwsmer hwnnw. Nid wyf yn gwybod beth yw fy rhif deiliadOs na allwch ddod o hyd i’ch rhif deiliad neu’ch rhif cwsmer, yna ysgrifennwch atom a chynnwys eich enw, eich cyfeiriad, a manylion eich cyfrifon neu’ch buddsoddiadau, y dyddiadau y’u prynwyd a’r symiau ac unrhyw rifau cyfrif, Bond neu Dystysgrif. Os ydych wedi symud t? neu wedi newid eich statws priodasol ac wedi anghofio rhoi gwybod i ni, cynhwyswch eich cyfenw blaenorol a/neu’ch cyfeiriadau blaenorol. |
Chwilio
|
|
||||||||||||||||||||||||||||||||
