|
|
Gwybodaeth ddefnyddiol
/
Esbonio'r JargonYn Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol, rydym yn credu mewn egluro pethau mewn Cymraeg clir — ein nod yw peidio â defnyddio iaith gyfreithiol a thechnegol ond pan fo hynny'n angenrheidiol. Dyma rai termau fydd o ddefnydd i chi. Ewch trwy'r rhestr o'r termau a dewiswch yr adran yr hoffech edrych arni, gan ddefnyddio'r cysylltiadau isod. A–ChAER — (Cyfradd Flynyddol Gyfatebol) Mae'n dangos beth fyddai'r gyfradd llog dybiedig petai'r llog yn cael ei gompowndio bob tro y'i telir. Lle telir llog yn flynyddol, mae'r gyfradd a ddyfynnir a'r AER yr un fath. BACS — (Gwasanaeth Clirio Bancwyr Wedi'i Awtomateiddio) — system dalu electronig sy'n ein galluogi ni i wneud credydau uniongyrchol i'ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu. Côd Bancio — Mae hwn yn gôd gwirfoddol sy'n gosod safonau arfer bancio da i sefydliadau ariannol eu dilyn pan fyddant yn delio â chwsmeriaid personol yn y Deyrnas Unedig. Cyfalaf — cyfanswm y buddsoddiadau yn eich cyfrif neu'r buddsoddiad gwreiddiol yn eich Bond neu Dystysgrif. Cyfraddau llog graddedig — lle mae'r cyfraddau llog yn cynyddu yn dibynnu ar faint o arian yr ydych wedi'i fuddsoddi. Cyfryngwyr Ariannol / Cynghorwyr Ariannol Annibynnol — Maent yn rhoi cyngor ar fuddsoddiadau a chynnyrch ariannol. Cyhoeddiad / Cyfres — gwerthir ein cynnyrch cyfradd sefydlog mewn Cyhoeddiadau neu Gyfresi, ac mae gan pob un ei gyfradd(au) llog warantedig ei hun. Rydym yn cyhoeddi Cyhoeddiad neu Gyfres newydd bob tro mae'r gyfradd sefydlog bresennol yn newid. Cynnyrch cyfraddau amrywiol — cynilion a buddsoddiadau lle gellir newid y gyfradd llog o bryd i'w gilydd. Cynnyrch cyfraddau sefydlog neu warantedig — cynilion a buddsoddiadau sydd â chyfraddau llog sefydlog o'r cychwyn am gyfnod penodol. Cynnyrch wedi'i ddisodli — heblaw am gynnyrch cyfradd sefydlog, ystyrir cynnyrch fel un wedi'i ddisodli os ydym yn peidio â'i gynnig neu os nad ydym yn ei hyrwyddo bellach. D–GDaliad Ymddiriedolwr — y ffordd mae un neu fwy o bobl, yr ymddiriedolwr(wyr), yn edrych ar ôl buddsoddiadau eraill. Yr ymddiriedolwyr yw perchnogion cyfreithiol yr asedau ond mae'n rhaid iddynt eu defnyddio er lles y person arall, a elwir yn fuddiolwr fel arfer, yn unol â'r weithred ymddiriedolwr. Daliadau Cwsg — cynilion neu fuddsoddiadau lle'r ydym yn gwybod ein bod wedi colli cysylltiad â'r cwsmer. Diogelu data a chyfrinachedd — gweler adran Diogelu data y wefan hon. Gwarant — dull talu, fel siec Gwarant Llywodraeth y DU — Gwarantau Llywodraeth y DU yw Bondiau a Thystysgrifau Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol a gyhoeddir gan y Trysorlys o dan Ddeddf Benthyciadau Cenedlaethol 1968. Gweithred Ymddiriedolwr — dogfen ffurfiol sy'n gosod termau ymddiriedolaeth. I–OISA (Cyfrifon Cynilo Unigol) — cyfrifon cynilo rhydd o dreth a lansiwyd ym mis Ebrill 1999 er mwyn disodli PEPs a TESSAs, sy'n galluogi buddsoddiadau mewn stociau a chyfranddaliadau, buddsoddiadau arian parod ac yswiriant bywyd hyd at derfynau penodol bob blwyddyn dreth. Llog gros — yw'r gyfradd llog drethadwy heb dynnu Treth Incwm y DU Llog net — yw'r gyfradd llog sy'n daladwy ar ôl tynnu Treth Incwm y DU, ar y gyfradd a benodir yn ôl y gyfraith (20% ar hyn o bryd). Mynegai Prisiau Adwerthu — y ffordd fwyaf gyffredin o fesur chwyddiant, a gyfrifir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol bob mis. Mynegrifo — ar gyfer Tystysgrifau Cynilo Mynegrifol, golyga bod gwerth Tystysgrif yn symud yn unol â newidiadau yn y Mynegai Prisiau Adwerthu — ffordd gyffredin o fesur chwyddiant. P–YProfi/Curo Chwyddiant — ar gyfer Tystysgrifau Cynilion Mynegrifol, golyga hyn bod gwerth Tystysgrifau yn symud yn unol â newidiadau yn y Mynegai Prisiau Adwerthu — ffordd gyffredin o fesur chwyddiant. Caiff chwyddiant ei guro trwy ychwanegu llog yn ogystal â mynegrifo. Pwer Twrnai — dogfen gyfreithiol sy'n awdurdodi person penodol i weithredu ar ran rhywun arall, er enghraifft er mwyn gwneud penderfyniadau buddsoddi ar eu rhan. Rhydd o dreth — golyga hyn bod y llog yn rhydd o Dreth Enillion Cyfalaf a Threth Incwm y DU. Twf — golyga hyn bod eich cynilion yn tyfu trwy ychwanegu llog Tymor Buddsoddi (neu weithiau 'tymor' yn unig) — ar gyfer cynnyrch cyfradd sefydlog, sy'n golygu cyfnod amser pan fo'r cyfraddau llog yn sefydlog. |
Chwilio
|
|
||||||||||||||||||||||||||||||||
