National Savings and Investments
 
Manlion am CBC /

Gweithio i GBC

  • Beth rydym yn ei gynnig
  • Buddsoddwyr mewn Pobl
  • Cyfarfyddwch â’n pobl
  • Swyddi gwag

Beth rydym yn ei gynnig

Yn CBC, rydym yn cyflogi pobl sy’n ddawnus iawn, yn gryf eu cymhelliant ac nid oes arnynt ofn newid mewn amrywiaeth o swyddogaethau amrywiol. Am hyn, rydym yn cynnig:

  • cyflogau cystadleuol
  • gwyliau blynyddol hael, ynghyd â 10.5 diwrnod o wyliau cyhoeddus a breintiol y flwyddyn
  • cynlluniau pensiwn y gwasanaeth sifil: cyflog terfynol a rhandaliad
  • trefniadau gweithio hyblyg ar gyfer rhai rolau
  • system rheoli perfformiad lle caiff y cyflogai gyfranogi’n llawn
  • amrywiaeth o bolisïau hwylus i deuluoedd gan gynnwys absenoldeb tadolaeth, mamolaeth a mabwysiadu
  • cynllun talebau gofal llygaid
  • campfa a chyfleusterau arlwyo ar y safle 
  •  benthyciadau di-log ar gyfer tocynnau tymor 
  • rhaglenni cymorth cyflogeion sy’n darparu cyngor, cymorth a chwnsela cyfrinachol ac annibynnol
  • fel sefydliad Buddsoddwr mewn Pobl rydym wedi ymrwymo i ddatblygu’n pobl trwy raglen ymsefydlu strwythuredig; hyfforddiant mewn swydd; cymorth ar gyfer addysg bellach a hyfforddiant proffesiynol; ynghyd â hyfforddiant modiwlaidd arall mewnol. 

Os ydych yn eich gweld eich hun yn rhan o’r sefydliad hwn ac mae gennych nodau uchelgeisiol, rydym am glywed oddi wrthych.

  • Swyddi gwag

Buddsoddwyr mewn Pobl

Ym Mawrth 2004, enillom ailachrediad Buddsoddwyr mewn Pobl (BmP). Mae’r safon genedlaethol hon yn gosod lefel o arfer da ar gyfer gwella perfformiad ein busnes trwy ein pobl ac yn cynnig fframwaith ar gyfer integreiddio’n strategaeth bobl â’n strategaeth fusnes.

 Hafan    Argraffu    E-bostio i gyfaill  

Chwilio